Mae diogelu plant ac oedolion bregus yn gyfrifoldeb i bawb sy’n gweithio i Gyngor Gwynedd neu yn cynrychioli Cyngor Gwynedd.
Mae hyn yn golygu y dylai pob aelod o staff gymryd camau priodol os ydynt yn gweld rhywbeth sy’n gwneud iddynt feddwl fod rhywun (oedolyn neu blentyn) mewn perygl.
Mae hyn yn wir i bawb sy’n gweithio ym mhob gwasanaeth neu adran – nid staff ysgolion neu wasanaethau cymdeithasol yn unig.
Beth i'w wneud os ydych yn meddwl bod rhywun mewn perygl
Mewn argyfwng / os oes rhywun mewn perygl dybryd – ffoniwch 999 a gofyn am yr Heddlu.
Os ydych yn poeni am rhywun / wedi gweld rhywbeth ond nid yw’n argyfwng:
cysylltwch efo Gwasanaethau Cymdeithasol Gwynedd ar 01766 772577 (neu 01248 353551 os ydi’r swyddfa wedi cau);
neu, siaradwch efo’r Swyddog Dynodedig ar gyfer eich adran;
Diogelu ydi amddiffyn iechyd, llesiant a hawliau dynol pobl a phlant, a gwneud yn siŵr eu bod yn gallu byw heb gael eu niweidio, eu cam-drin na’u hesgeuluso.
Plant
Oedolion bregus (oedolion sydd angen gofal neu gefnogaeth yn eu bywydau dydd-i-ddydd)
Camdriniaeth ydi achosi niwed neu loes i berson arall. Mae’n gallu effeithio unrhyw berson o bob oed neu gefndir.
Gall camdriniaeth gynnwys:
Camdriniaeth gorfforol / rhywiol
Camdriniaeth emosiynol
Camdriniaeth ariannol
Esgeulustod – er enghraifft atal rhywun rhag cael bwyd neu feddyginiaeth
Amddifadu rhywun o’u hawliau – er enghraifft gorfodi rhywun i weithio heb dal
Radicaleiddio
Mae Diogelu yn effeithio pob aelod o staff Cyngor Gwynedd.
Mae disgwyl i bawb fod wedi cwblhau’r hyfforddiant mandadol Diogelu. Os nad ydych wedi gwneud yr hyfforddiant, siaradwch gyda’ch rheolwr llinell / arweinydd tîm er mwyn trefnu hyn.
Mae Swyddog Dynodedig i ddelio a chynghori ar faterion diogelu ym mhob adran. Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod pwy ydi eich Swyddog Dynodedig drwy holi eich Rheolwr Llinell neu Arweinydd Tîm.
Waeth beth yw eich swydd, dylai pawb fod yn effro i arwyddion o gamdriniaeth neu esgeulustod a bod yn barod i siarad yn agored am hyn. Nid mater i wasanaethau cymdeithasol ac ysgolion yn unig ydi hyn.
Os ydych yn gweld rhywbeth neu yn poeni am sefyllfa, dylech roi gwybod yn syth a pheidio ceisio ymchwilio neu ymyrryd eich hun.
Os ydych yn gweld rhywbeth, gwnewch gofnod o beth rydych wedi ei weld pan mae hi’n ddiogel i chi wneud hynny.
Os oes gennych amheuaeth fod rhywbeth ddim yn iawn, rhowch wybod amdano. Ni chewch eich beirniadu am godi pryder.
Os oes gennych unrhyw gwestiwn neu bryder am eich cyfrifoldeb neu’r disgwyliad arnoch fel aelod o staff, siaradwch efo’ch rheolwr llinell neu arweinydd tîm.