Mae Systemau Draenio Cynaliadwy (SDC) yn rheoli dŵr glaw mewn ffordd sy'n debyg i brosesau naturiol, gan ddefnyddio'r tirwedd a llystyfiant i reoli'r llif a chyfaint dŵr wyneb lle sy’n bosib.

Mae SDC yn rheoli dŵr ar yr wyneb neu’n agos ato, gan reoli’r llif a rhoi amrywiaeth o fanteision gan gynnwys;

  • Rheoli’r risg o lifogydd,
  • Gwella ansawdd dŵr,
  • Creu cynefinoedd a gwella bioamrywiaeth,
  • Cefnogi llesiant drwy ddod â phobl yn nes at fannau cymunedol gwyrdd a glas

Yng Nghymru mae angen Systemau Draenio Cynaliadwy ar gyfer:

  • pob datblygiad newydd o fwy nag 1 tŷ neu
  • lle mae’r arwynebedd adeiladu yn 100m2 neu fwy, i reoli dŵr wyneb ar y safle.

Rhaid i systemau draenio fod wedi eu dylunio a’u hadeiladu yn unol â safonau Llywodraeth Cymru ar gyfer draenio cynaliadwy.

Gwybodaeth ddefnyddiol

Gwybodaeth ddefnyddio gan Dŵr Cymru ynglŷn â Systemau Draenio Cynaliadwy:

Dŵr Cymru - Systemau Draenio Cynaliadwy (yn agor mewn tab newydd)


Cysylltwch â ni:

  • E-bost: CCS@Gwynedd.llyw.cymru
  • Ffôn: 01286 679 501
  • Post: CCS Gwynedd, YGC, Cyngor Gwynedd, Penrallt, Caernarfon, Gwynedd, LL55 1BN