Yn ystod y cyfnod ymgynghori 21 diwrnod gall unrhyw un gyflwyno sylwadau yn gwrthwynebu neu yn cefnogi datblygiad. Bydd pob sylw dilys yn cael ei ystyried wrth benderfynu ar y cais.  Dim ond yn ystod y cyfnod 21 diwrnod yma mae'n bosib rhoi sylw ar gais cynllunio.

Sut mae rhoi sylw ar gais cynllunio?

Mae’n bosib rhoi sylwadau:

  • Ar-lein: Dilyn a Darganfod ceisiadau cynllunio
    Bydd angen i chi chwilio am y cais yr ydych am roi sylw arno yn y system Dilyn a Darganfod, ac yna clicio ar Rhowch sylw ar y cais hwn.
  • Llythyr: Anfonwch eich sylwadau drwy lythyr i:
    Gwasanaeth Cynllunio, Swyddfa'r Cyngor, Ffordd y Cob, Pwllheli, Gwynedd. LL53 5AA

Mae’n bosib gweld manylion ceisiadau cynllunio drwy edrych ar y system Dilyn a Darganfod ceisiadau cynllunio ar-lein,
Neu, gallwch fynd draw i: Siop Gwynedd, Ffordd y Cob, Pwllheli (Llun - Gwener, 09:00 - 17:00).

Pa fath o sylwadau fydd yn cael eu hystyried?

Y math mwyaf cyffredin o sylwadau a fydd yn cael eu hystyried fel rhan o'r broses ymgynghori yw:

Ni fydd sylwadau am yr isod yn cael eu hystyried: sy’n dod i law am:

  • golli golygfa
  • ffrae am berchnogaeth tir
  • cymeriad yr ymgeisydd
  • materion moesol
  • colli gwerth eiddo

Beth fydd yn digwydd os bydd gwrthwynebiadau i'm cais yn cael eu cyflwyno i'r Cyngor?

Bydd copi o’r gwrthwynebiad (neu gefnogaeth) yn cael ei roi ar y ffeil gynllunio bapur sydd yn ffeil gyhoeddus ac bydd y swyddog achos yn ystyried y sylwadau o blaid ac/neu yn erbyn wrth asesu’r cais. Nid yw derbyn gwrthwynebiadau i gais o reidrwydd yn golygu y bydd y cais yn cael ei wrthod.