Ffordd o warchod coeden neu goed yw'r Gorchymyn Diogelu Coed. Mae’n yn cael ei roi ar goed sy'n hardd, neu sy’n cyfrannu at olygfa ardal.
Os oes Gorchymyn Diogelu Coed ar goeden, NI allwch wneud unrhyw un o’r canlynol heb ganiatâd:
torri’r goeden i lawr neu ei thorri ei gwreiddiau
torri canghennau'r goeden
unrhyw beth a all wneud niwed i'r goeden.
Os byddwch yn cael eich dal yn gwneud gwaith heb ganiatâd ar goeden sydd dan Orchymyn Diogelu Coed gallwch gael dirwy o hyd at £20,000 a chael eich erlyn gan lys barn.
Er mwyn gwneud gwaith ar goeden sydd gan Orchymyn Diogelu Coed (oni bai am goed ardal Parc Cenedlaethol Eryri), rhaid i chi gyflwyno cais:
Drwy'r post: Lawrlwythwch yffurflen Cais am waith ar goed a'i dychwelyd i'r cyfeiriad sydd wedi ei nodi ar y ffurflen gais ei hun.
Ffôn: Ffoniwch 01766 771000 a gofyn i ni bostio ffurflen bapur atoch.
Mae gwneud cais am ddim. Fel arfer bydd penderfyniad yn cael ei wneud o fewn 8 wythnos.
Os yw’r goeden wedi marw neu yn beryglus, rhaid rhoi o leiaf 5 diwrnod o rybudd (ni fydd angen i chi gyflwyno cais ffurfiol i dorri'r goeden). Cysylltwch â ni:
Ar-lein: Ymholiad cyffredinol am gynllunio
(bydd angen i chi greu cyfrif os nad oes ganddoch chi un yn barod)
Drwy lythyr at: Gwasanaeth Cynllunio, Swyddfa'r Cyngor, Ffordd y Cob, Pwllheli, Gwynedd. LL53 5AA
Os yda chi'n meddwl fod rhywun yn / wedi gwneud gwaith heb ganiatâd ar goeden sydd dan Orchymyn Diogelu Coed, rhowch wybod i ni:
Ar-lein: Cwyn am achos o dorri rheolau cynllunio (bydd angen i chi greu cyfrif os nad oes ganddoch chi un yn barod)
Ffôn: 01766 771000
Byddwn yn ymchwilio i'r achos o fewn 24 awr ac yn cymryd camau cyfreithiol os oes angen.