Mae disgwyl y bydd rhwng 80-90% o bob coeden onnen yng Gwynedd yn marw o achos Clefyd Gwywiad Yr Onnen (Hymenoscyphus fraxineus) dros y blynyddoedd nesaf.
Rhoi gwybod am goeden onnen beryglus
Rhowch wybod i ni am goeden onnen sydd wedi marw neu yn achosi perygl:
Cyfrifoldeb perchnogion tir preifat
Mae cyfrifoldeb ar bob perchennog tir i sicrhau nad yw cyflwr unrhyw goeden yn achosi risg gormodol i bobl, neu dir cyfagos. Perchennog y tir sy'n atebol am unrhyw anaf neu ddifrod sydd wedi ei achosi gan goed o dir preifat.
Dylai perchnogion tir preifat ymgyfarwyddo â’r haint ac, os yn berthnasol, neilltuo cyllideb tuag at reoli’r coed heintus sydd ar eu tiroedd.
Mae gan Gyngor Gwynedd hawl i godi rhybudd ar dirfeddianwyr i docio neu dorri coed sy'n creu risg i ddefnyddwyr ffordd. Yn ogystal, mae gan y Cyngor y pwerau i ddelio â choed peryglus sydd wedi eu lleoli ar dir preifat – er enghraifft ar ffiniau ysgolion, cartrefi henoed neu ar hyd llwybrau cyhoeddus.
Bydd swyddogion y Cyngor yn cynnal arolygon diogelwch ar hyd a lled y sir dros y blynyddoedd nesaf ac os fydd coeden Onnen heintiedig ar eich eiddo mae’n bosib y byddwch yn derbyn llythyr i'r perwyl yma.
Os oes coeden Onnen ar eich tir, awgrymwn eich bod yn derbyn cyngor gan ymgynghorwr coed (sydd wedi eu hachredu gyda’r Arboricultural Association).
Pethau i'w hystyried cyn torri coeden onnen
- oes angen trwydded cwympo coed arnoch? (yn agor mewn tab newydd)
- oes Gorchymyn Diogelu Coed (GDC) mewn grym neu ydi'r goeden o fewn ardal cadwraeth?
- oes effaith ar fywyd gwyllt ac ecoleg (yn agor mewn tab newydd) (e,e, adar sy'n nythu ac ystlumod)?
- ydi'r goeden ger priffordd ac oes angen gwneud cais i gau ffordd?
- Oes angen torri y goeden? Mae canran fechan o goed ynn yn debygol o gael gwrthsafiad genynnol i'r clefyd, ac felly ddim angen eu torri. Mae cyfrifoldeb felly ar dirfeddianwyr preifat i ddeall y clefyd, y peryglon posib, a’r pwysigrwydd o’r rhai iach ar yr amgylchedd.
- Oes cynllun mewn lle i blannu coed newydd yn lle yr un sydd wedi ei thorri? Maw gwybodaeth am gefnogaeth ariannol i'w gael ar wefan Coed Cymru (yn agor mewn tab newydd) a Coedwig Genedlaethol i Gymru (yn agor mewn tab newydd).
Y Dyfodol
Bydd cynllun gweithredu’r Cyngor yn edrych ar sut y byddwn yn cynyddu’r nifer o goed i adfer ar y golled a ddaw yn sgil effeithiau dinistriol y clefyd ar ein poblogaeth o goed ynn.
Y gobaith yw plannu tair coeden ifanc addas am bob onnen sy’n marw. Bydd y cynllun hefyd yn edrych tuag at blannu mwy o wrychoedd a chynyddu’r amrywiaeth o rywogaethau yn ein coedlannau.
Cysylltu â ni
Os oes gennych ymholiad yn ymwneud â Clefyd Gwywiad yr Onnen, cysylltwch â ni:
Am unrhyw fater arall i wneud â choed, e-bostiwch coed@gwynedd.llyw.cymru