Asesiadau Amod 106

Beth yw Cytundeb Adran 106?  

Mae Cytundeb Adran 106 yn gytundeb cyfreithiol rhwng awdurdod lleol a datblygwr o dan Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990. Ei bwrpas yw sicrhau bod datblygiadau newydd yn cynnwys tai fforddiadwy i ddiwallu anghenion lleol.  

Mae’r tai hyn yn cael eu gwerthu neu eu gosod am bris is na phris y farchnad agored er mwyn rhoi cyfle i bobl leol fforddio prynu neu rhentu cartref. Mae canran y gostyngiad yn cael ei chytuno fel rhan o’r broses gynllunio.  

 

Rôl y Cyngor  

Mae gan sawl eiddo preifat yng Ngwynedd Amod 106 arnynt. Pan fydd eiddo o’r fath yn cael ei werthu neu ei ail-osod, rhaid i’r Cyngor asesu’r unigolyn newydd sy’n dymuno prynu neu rentu’r eiddo, er mwyn sicrhau eu bod yn bodloni’r meini prawf.  

Gall lefel y gostyngiad a’r amodau cysylltiad lleol amrywio o eiddo i eiddo.  

Os ydych yn gwerthu neu’n gosod eiddo ag Amod 106 arno, dylech wirio manylion yr amod gyda’r Gwasanaeth Cynllunio cyn cyflwyno cais. Rhaid darparu copi o’r Amod i’r Cyngor er mwyn cynnal yr asesiad.  

Ffi asesu: £75.00 am bob ymgeisydd.  

 

Meini prawf  

Rhaid i ymgeiswyr:  

  • Rhaid bod dros 18 oed.  

  • Rhaid bod ag incwm gros cartref cyfunol o rhwng £16,000 a £60,000.  

  • Bydd yn rhaid i chi gael mynediad at forgais neu gael digon o gynilion ac yn methu â phrynu ar y farchnad agored.  

  • Cysylltiad Lleol - bydd rhaid i chi fod â chysylltiad lleol gyda’r ardal rydych yn dewis byw ynddi yn unol â’r hyn sy’n cael ei nodi ar yr Amod 106. 

  • Methu â fforddio prynu eiddo sy'n addas ar gyfer maint eich teulu ar y farchnad agored neu drwy unrhyw fenter perchnogaeth arall.  

  • Rhaid gallu dangos unai nad yw’ch cartref yn ddigonol neu na allwch bellach fforddio byw yn eich cartref presennol.  

Er enghraifft, methu â fforddio prynu eiddo sy'n addas ar gyfer maint eich teulu ar y farchnad agored neu drwy unrhyw fenter perchnogaeth arall. Bydd rhaid gwerthu eich eiddo presennol cyn y gallwn eich ystyried ar gyfer eiddo. Fel rhan o'r broses, bydd angen i chi ddarparu copi o'r Datganiad Cwblhau gan eich cyfreithiwr. 

Bydd rhaid i ymgeiswyr hefyd: 

  • fod yn ddinesydd Prydeinig neu'r UE/AEE, neu fod ganddynt ganiatâd amhenodol i aros.   

Sut i ddechrau asesiad?  

Os chi yw perchennog yr eiddo, cysylltwch â ni trwy’r dulliau isod.   

Cyn cysylltu, gwnewch yn siŵr bod gennych gopïau o’r canlynol yn barod:  

  • Copi o’r ddogfen amod 106  

  • Copi o brisiad annibynnol am yr eiddo (dylai’r prisiad fod wedi’i gwblhau gan syrfëwr cymwys wedi’i gofrestru gyda RICS)  

  • Cadarnhad gan Wasanaeth Cynllunio Cyngor Gwynedd bod yr amod yn gyfredol.

E-bost: tai@gwynedd.llyw.cymru  

Ffôn: 01286 685100  

Os ydych yn gobeithio cael eich asesu ar gyfer tŷ ag amod 106, awgrymwn eich bod yn cysylltu gyda’r perchennog neu’r asiant tai sy’n gweithredu ar ran y perchennog yn gyntaf gan y bydd rhaid derbyn enwebiad ymgeisydd gan y perchennog/asiant tai.