Côd Diogelwch Porthladdoedd a Chyfleusterau Morwrol
Beth yw'r Côd Diogelwch Porthladdoedd a Chyfleusterau Morwrol?
Mae Côd Diogelwch Porthladdoedd a Chyfleusterau Morol yn sefydlu safon genedlaethol ar gyfer sicrhau diogelwch mewn porthladdoedd, harbyrau, marinas a chyfleusterau morol eraill. Ei brif nod yw diogelu’r bobl sy’n gweithio neu’n defnyddio’r cyfleusterau hyn. Mae’r Côd wedi’i gynllunio i fod yn hyblyg, gan adlewyrchu’r gwahaniaethau rhwng sefydliadau o ran rolau, pwerau, risgiau a chyfrifoldebau, er mwyn gallu ei gymhwyso’n gymesur â gofynion lleol.
Cyflwynwyd y Côd yn 2000 yn sgil damwain y Sea Empress ym 1996, gyda mewnbwn parhaus gan y sector morwrol. Er nad yw cydymffurfio’n orfodol, disgwylir yn gryf i reolwyr porthladdoedd a chyfleusterau morol ymgorffori egwyddorion y Côd yn eu systemau diogelwch. Mae’r Côd hefyd yn nodi rhai cyfrifoldebau statudol, ond nid yw’n cwmpasu pob dyletswydd gyfreithiol berthnasol. Felly, mae’n hanfodol i sefydliadau sicrhau polisïau rheoli sydd yn gydlynol ar draws yr holl ofynion diogelwch a deddfwriaeth gymwys.
Gweld y Côd Diogelwch Porthladdoedd a Chyfleusterau Morwrol
(gwefan ar gael yn Saesneg yn unig)
System Rheoli Diogelwch Morwrol
Mae'r System Rheoli Diogelwch Morol (MSMS) yn allweddol i gyflawni’r swyddogaethau a ddisgrifir yn y Côd. Mae'n amlinellu sut bydd Cyngor Gwynedd yn hyrwyddo a hwyluso gweithrediadau diogel gan gychod a mordwyo diogel o fewn terfynau statudol ein harbyrau.
Mae Cyngor Gwynedd, fel yr awdurdod harbwr statudol ar gyfer harbyrau Pwllheli, Porthmadog, Abermaw ac Aberdyfi, wedi ymrwymo i gynnal argymhellion y Côd Diogelwch Porthladdoedd a Chyfleusterau Morwrol (PMSC)
Fel rhan o'n hymrwymiad i hyrwyddo a hwyluso gweithrediadau gan gychod a mordwyo diogel o fewn terfynau statudol ein harbwr, bydd Cyngor Gwynedd yn:
- Gweithredu a chynnal system rheoli diogelwch morwrol i ddiogelu ei harbyrau, ddefnyddwyr a'r amgylchedd.
- Ymgynghori â gweithwyr, rhanddeiliaid / cwsmeriaid a'r gymuned ehangach ynghylch materion diogelwch morwrol.
- Datblygu cyfundrefn ar gyfer asesu risg gan adnabod peryglon a gweithredu mesurau lliniaru perthnasol er mwyn eu lleihau mor isel a sy’n ymarferol
- Sicrhau bod cynlluniau argyfwng mewn lle.
- Gweithredu fel awdurdod harbwr statudol.
- Cyflogi gweithlu wedi cymhwyso’n priodol a darparu hyfforddiant yn ôl yr angen i gynnal gweithlu o safon.
- Darparu adnoddau digonol ar gyfer cynnal cyfleusterau a swyddogaethau harbwr
- Monitro a rheoli mordwyo diogel pob cwch o fewn terfynau'r harbwr.
- Darparu a chyhoeddi gwybodaeth a chyngor am faterion diogelwch morwrol ac ymgynghori â rhanddeiliaid yn barhaus.
- Cynnal cadwraeth yr harbyrau, gan gynnal gwaith carthu fel sy'n angenrheidiol i gynnal dyfnderoedd siartredig cyn belled ag y bo'n ymarferol ac i ddarparu a chynnal cymhorthion mordwyo sy'n cynorthwyo symudiadau harbwr diogel.
- Monitro a mesur perfformiad y system rheoli diogelwch trwy archwilio mewnol / allanol a chyhoeddi'r canlyniadau perfformiad.
System Rheoli Diogelwch Morwrol
- Fel awdurdod harbwr, mae Cyngor Gwynedd yn ymrwymo i weithredu System Rheoli Diogelwch (SMS) sy'n seiliedig ar risg ar gyfer ei ymgymeriadau harbwr fel rhan o'i ddyletswydd statudol.
- Mae'r SMS hwn wedi'i ddatblygu ac yn cael ei reoli ar y cyd gan Reolwr Gwasanaeth Hafan a Harbwr Pwllheli ac Uwch Swyddog Harbwr Gwasanaeth Morwrol a lle bo angen mewn ymgynghoriad â'u swyddogion, defnyddwyr harbwr a rhanddeiliaid. Bydd monitroa'r asesiad o'r SMS yn cael ei wneud gan 'Person Dynodedig' gyda chefnogaeth staff Cyngor Gwynedd o Wasanaeth Hafan a Harbwr Pwllheli a'r Gwasanaeth Morwrol.
- Bydd archwiliadau mewnol ac allanol yn cael eu cwblhau i asesu perfformiad SMS a chydymffurfiaeth â'r Côd Diogelwch Morwrol.
- Bydd y 'Person Dynodedig' yn darparu sicrwydd annibynnol i'r 'Deilydd Dyletswydd' fod yr SMS, sydd yn ran o gyfrifoldebau’r Deilydd Dyletswydd, yn gweithio’n effeithiol.
- Ni ellir aseinio neu ddirprwyo cyfrifoldeb ac atebolrwydd y Deilydd Dyletswydd.
- Deilydd Dyletswydd Cyngor Gwynedd yw'r Cynghorydd Medwyn Hughes: Manylion y Cynghorydd
- Mae swyddogaeth Person Dynodedig annibynnol yn cael ei dal gan Mr Owen Morgan, sydd â mynediad uniongyrchol at Deilydd Dyletswydd.
Cynllun Diogelwch Morwrol
Mae'r Cynllun Diogelwch Morol yn amlinellu’r gweithdrefnau, polisïau a chanllawiau sydd eu hangen i sicrhau gweithrediadau morol diogel ac effeithiol. Mae o wedi cael ei ddatblygu i fodloni gofynion Côd Diogelwch Morol Porthladdoedd ac yn cael eu hadolygu’n rheolaidd i sicrhau cydymffurfiaeth a gwelliant parhaus.
Gweld Cynllun Diogelwch Morwrol 2026-2029
Cysylltu â ni
Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â’r Côd Morwrol, cysylltwch â’r Gwasanaeth Morwrol ar: