Cronfa Cymorth Argyfwng Bwyd
Rydym yn gwahodd ceisiadau am arian grant tuag at gynlluniau sy’n cyflawni un neu fwy o’r canlynol:
- Cefnogi Banciau Bwyd
- Cynnal Cynlluniau Bwydo i grwpiau bregus o’r boblogaeth (prydau poeth, pryd ar glyd, clybiau bwyta, clybiau swper)
- Cynnal Cynlluniau darparu pecynnau bwyd i gefnogi pobl fregus.
Caiff y ceisiadau eu hasesu gan Banel Asesu, a bydd penderfyniad y panel yn derfynol.
Pwy sydd yn gymwys?
Bydd y gronfa ar agor i:
- Elusennau
- Grwpiau cymunedol
- Partneriaid dielw tebyg
Ni fydd yn agored i:
- Fusnesau masnachol
- Prosiectau sy’n gweithredu ar sail elw
Faint sydd ar gael a beth ellir ei ariannu?
Uchafswm grant sydd ar gael: Hyd at £5,000
Beth ellir ei ariannu?
- Oergelloedd a rhewgelloedd
- Offer coginio
- Atebion storio
- Offer dosbarthu (silffoedd, troliau, cynwysyddion)
- Mentrau tyfu bwyd lleol
Uchafswm y grant sydd ar gael; Hyd at £4,000
Beth ellir ei ariannu?
- Clybiau cinio neu swper
- Caffis cymunedol dielw
- Marchnadoedd cymdeithasol
- Dosbarthiadau coginio cymunedol
- Dosbarthu pecynnau bwyd argyfwng
Ni ellir defnyddio’r grant i dalu am:
- Gostau rhedeg blynyddol sefydliad
- Ffioedd aelodaeth (e.e. FareShare)
- Amcanion busnes arferol
Ni chaiff y gronfa ei defnyddio i:
- Gynyddu masnach neu drosiant busnesau
- Defnyddio caffis neu fwytai masnachol fel model darpariaeth
- Gynnig disgowntiau mewn lleoliadau masnachol
- Greu mantais fasnachol uniongyrchol nac anuniongyrchol
- Ni ellir defnyddio’r grant i dalu costau prydau bwyd mewn lleoliadau masnachol.
- Os defnyddir cegin neu gyfleuster sy’n eiddo i fusnes, rhaid dangos yn glir:
- Nad oes elw yn deillio o’r trefniant
- Bod y gost yn adlewyrchu cost wirioneddol yn unig
Disgwylir i gynlluniau sicrhau:
- Mynediad at bryd o fwyd neu becyn bwyd am ddim, neu
- Am gost isel iawn (uchafswm o £5 y pen)
Diffiniad o Bris Rhesymol: Pris sy’n adlewyrchu cost wirioneddol y cynhwysion a’r paratoi yn unig, heb elw na marciad masnachol.
Canllaw cost:
- £0 - £3 y pen: cymorth sylfaenol
- £3 - £5 y pen: pryd maethlon syml
- Dros £5 y pen: angen cyfiawnhad eithriadol
Sut i ymgeisio?
Rhaid i ymgeiswyr gyflwyno’r ddogfennaeth ganlynol ar e-bost i: Cistgwynedd@gwynedd.llyw.cymru
Rhaid i ymgeiswyr:
- Nodi cost fesul pryd
- Amcangyfrif nifer y buddiolwyr
- Cadw derbyniadau a thystiolaeth o wariant
- Adrodd ar nifer y prydau neu’r pecynnau bwyd a ddarparwyd
Cysylltu â ni
Mae Swyddogion Cefnogi Cymunedau ar gael i roi cyngor i chi ac i helpu sicrhau bod eich cynllun yn cyd-fynd a gofynion y gronfa.
Gellir cysylltu â nhw drwy e-bostio: Cefnogicymunedau@gwynedd.llyw.cymru
Mwy o wybodaeth
I glywed mwy, cysylltwch â Swyddog Cist Gwynedd: