Cronfa Croeso Cynnes
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi pecyn cymorth i ddarparu llefydd cynnes, diogel a chroesawgar AM DDIM i aelodau'r gymuned yn ystod cyfnodau o dywydd oer neu bwysau costau byw.
Diben y gronfa yw i:
- Gefnogi sefydliadau sydd yn darparu mannau cynnes ar draws Gwynedd
- Sicrhau bod mynediad am ddim i leoliadau cymunedol pwysig
- Ddarparu lleoliadau i gymdeithasu a lleihau unigrwydd
- Darparu cymorth ar faterion costau byw
Mwy o wybodaeth
Rhaid i bob prosiect;
- gynnig mynediad AM DDIM (peidio â mynnu prynu bwyd neu ddiod)
- bod yn hygyrch ac yn gynhwysol
- gweithredu mewn modd diogel (asesiad risg, diogelu)
Ni chaiff y gronfa ei defnyddio i:
- greu incwm
- talu am weithgareddau masnachol
- ariannu gwasanaethau sy'n codi tal ar ddefnyddwyr
Gweler isod y mathau o gostau cymwys gellir ei gefnogi;
- Costau gwresogi a goleuo
- Diodydd poeth a meddal
- Costau staff a gwirfoddolwyr (lle'n briodol)
- Yswiriant ychwanegol os oes angen
- Gweithgareddau
Bydd ceisiadau sy'n cael eu cynnal mewn canolfannau cymunedol neu leoliadau sefydledig ac yn cael eu rhedeg neu eu cefnogi gan wirfoddolwyr lleol yn cael eu blaenoriaethu yn y broses asesu.
Mae hyn er mwyn cefnogi cydlyniant Cymunedol, cefnogi mentrau sy’n cael eu harwain gan y gymuned a sicrhau gwerth cymdeithasol ehangach o'r gronfa.
Bydd yn rhaid hysbysebu'r ddarpariaeth fel le am ddim gyda chydnabyddiaeth am y grant. Byddwn yn cyflwyno pecyn o sticeri logo Croeso Cynnes i chi ei arddangos ar flaen y safle i hysbysebu’r lleoliad fel man Croeso Cynnes.
Bydd rhaid i ymgeiswyr llwyddiannus ddarparu’r wybodaeth ganlynol ar ddiwedd y cynllun:
- Faint sydd wedi’i wario a beth y mae wedi’i wario arno
- Nifer y lleoedd/gofodau a gefnogwyd
- Y gweithgareddau o fewn y gofodau a gefnogwyd
- Faint o bobl sydd wedi defnyddio’r gofodau a gefnogwyd (Ffigyrau misol)
Gwneud cais
Rhaid i ymgeiswyr gyflwyno'r ddogfennaeth isod drwy e-bost i:
Cistgwynedd@gwynedd.llyw.cymru:
Caiff y ceisiadau eu hasesu gan Banel Asesu, a bydd penderfyniad y panel yn derfynol.
Cymorth pellach
Mae Swyddogion Cefnogi Cymunedau ar gael i roi cyngor i chi ac i helpu sicrhau bod eich cynllun yn cyd-fynd a gofynion y gronfa.
Gellir cysylltu â nhw drwy e-bostio: Cefnogicymunedau@gwynedd.llyw.cymru
Am ymholiadau cyffredinol, cysylltwch â Swyddogion Cist Gwynedd: