Tîm Adsefydlu Gwynedd
Beth rydyn ni'n ei wneud i gefnogi ffoaduriaid a phobl sy'n ceisio lloches yng Ngwynedd?
Mae Gwynedd yn cynnig croeso diogel a chynhwysol i bobl sy’n ffoi rhag gwrthdaro ac erledigaeth. Dros y blynyddoedd, mae pobl o amrywiaeth o gefndiroedd wedi ymgartrefu yn y sir, gan gyfoethogi ein diwylliant a’n cymunedau.
Beth yw rôl y Tîm Adsefydlu?
Mae Tîm Adsefydlu Gwynedd yn darparu cymorth hanfodol i ffoaduriaid a cheiswyr lloches bregus sy’n cael eu lleoli yn y sir drwy gynlluniau adsefydlu a gwasgaru Llywodraeth y DU. Ein prif amcan yw sicrhau bod pob unigolyn yn ymgartrefu’n ddiogel, teimlo’n rhan lawn o’r gymuned, ac integreiddio’n effeithiol i fywyd yng Ngwynedd.
Mae Gwynedd yn rhan o nifer o gynlluniau adsefydlu cenedlaethol, gan gynnwys:
Cynllun Adsefydlu’r DU (gwefan Saesneg yn unig)
- Mae’r cynllun yn cefnogi ffoaduriaid o bedwar ban y byd. Mae’n cael ariannu gan y Swyddfa Gartref.
Polisi Adleoli a Chynorthwyo Affganiaid (gwefan Saesneg yn unig)
- Mae’r polisi hwn yn cefnogi dinasyddion Afghanistan a weithiodd gyda Llywodraeth y DU yn Afghanistan. Gall y rhai sy’n gymwys gael cynnig adleoliad i’r DU, yn amodol ar benderfyniadau gan y Weinyddiaeth Amddiffyn a’r Swyddfa Gartref.
Cynllun Adsefydlu Dinasyddion Affganistan (gwefan Saesneg yn unig)
- Mae'r cynllun yma ar gau i ymgeiswyr newydd.
- Roedd y cynllun yn cynnig llwybr diogel a chyfreithiol i bobl mewn perygl, yn enwedig y rhai a gefnogodd ymdrechion y DU yn Afghanistan ac a hyrwyddodd werthoedd fel democratiaeth, hawliau menywod, rhyddid barn, a rheolaeth y gyfraith. Fe helpodd hefyd i ailsefydlu pobl agored i niwed, gan gynnwys menywod mewn perygl, grwpiau lleiafrifol, ac unigolion LHDT+.
Gwasgariad Lloches
- Gwasgariad yw’r broses lle mae’r Swyddfa Gartref yn symud ceiswyr lloches amddifad i siroedd ledled y DU o dan Bolisi Gwasgaru Llawn Llywodraeth y DU. Mae’r polisi hwn yn golygu bod disgwyl i bob cyngor yn y DU weithio gyda’r Swyddfa Gartref i ddod o hyd i lety i geiswyr lloches, fel bod pawb yn gwneud cyfraniad at ddarparu cefnogaeth.
Cynlluniau Wcráin
Cysylltu â'r Tîm Adsefydlu