Cyfrifiad 2021

Cafodd y Cyfrifiad diwethaf ei gynnal ar 21 Mawrth 2021.

Arolwg sy'n cael ei gynnal unwaith bob degawd sy'n rhoi'r amcangyfrif mwyaf cywir o'r holl bobl a chartrefi yng Nghymru a Lloegr yw'r cyfrifiad. Mae wedi cael ei gynnal bob degawd ers 1801, ac eithrio 1941.

Bydd cyfrifiad llwyddiannus yn sicrhau y gall pawb, o lywodraeth leol i elusennau, ddarparu gwasanaethau a chyllid ble mae eu hangen fwyaf.

Roedd y cyfrifiad yn cynnwys cwestiynau am eich rhyw, eich oedran, eich gwaith, eich iechyd, eich addysg, maint eich cartref a'ch ethnigrwydd. Ac, am y tro cyntaf, roedd cwestiwn yn gofyn i bobl a ydynt wedi gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog, yn ogystal â chwestiynau gwirfoddol i'r rhai sy'n 16 oed a throsodd am gyfeiriadedd rhywiol a hunaniaeth o ran rhywedd.

Yng Nghymru, roedd cwestiwn penodol i gartrefi am eu sgiliau Cymraeg hefyd. A gall y rhai sy'n dymuno cwblhau'r cyfrifiad yn Gymraeg wneud hynny ar lein ac ar bapur. Mae botymau "Cymraeg" ac "English" er mwyn gallu newid rhwng yr ieithoedd ar unrhyw adeg ar lein, ac ar bapur gallwch chi ddefnyddio'r Gymraeg a'r Saesneg ar yr un ffurflen.

Bydd y canlyniadau ar gael o fewn 12 mis, ond caiff cofnodion personol eu cadw'n ddiogel am 100 mlynedd ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.cyfrifiad.gov.uk

Cwestiynau ac Atebion am y Cyfrifiad

Arolwg a gaiff ei gynnal unwaith bob degawd sy'n rhoi'r amcangyfrif mwyaf cywir o'r holl bobl a chartrefi yng Nghymru a Lloegr yw'r cyfrifiad. Mae'r wybodaeth rydych chi'n ei rhoi yn helpu i benderfynu sut y caiff gwasanaethau eu cynllunio a'u hariannu yn eich ardal leol. Gallai hyn olygu pethau fel meddygfeydd, tai neu lwybrau bysiau newydd.

Mae'n gofyn cwestiynau amdanoch chi a'ch cartref er mwyn creu darlun o bob un ohonom ni. Mae'n edrych ar bwy ydym ni a sut rydym ni'n byw. Nid oes unrhyw arolwg arall sy'n rhoi cymaint o wybodaeth am ein cymdeithas ac anghenion yn y dyfodol.

Mae'r tudalennau help ar cyfrifiad.gov.uk yn esbonio sut y gallwch chi gael help. Mae'r rhain yn cynnwys canllawiau cyffredinol, help gydag iaith ac amrywiaeth eang o fformatau hygyrch, gan gynnwys canllawiau fideo a sain (Cymraeg a Saesneg). 

Gallech gael eich erlyn, cael dirwy sylweddol (hyd at £1000) a chofnod troseddol.

 

Ewch i www.cyfrifiad.gov.uk am ragor o wybodaeth