Mae’r Cyngor am i chi ddatgelu manylion unrhyw ddedfryd droseddol sydd gennych (ar wahân i rai sy’n dreuliedig). Darllenwch y canllawiau i gyd, gan gynnwys y tabl isod ac yna nodwch y manylion yn y blwch perthnasol. Os nad oes dim gennych i’w ddatgelu, mae’n bwysig eich bod yn nodi ‘Dim’ ar y cais. Bydd yr wybodaeth yn cael ei thrin yn gyfrinachol.
Bydd angen i ymgeiswyr llwyddiannus ar gyfer swyddi sydd yn ymwneud a phlant neu oedolion
bregus wneud cais am ddatgeliad gan y DBS (Y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd). Bydd ymgeiswyr llwyddiannus ar gyfer swyddi o’r fath yn derbyn e-bost fydd yn cynnwys linc a chanllawiau sut i gwblhau ffurflen ar lein.
Tabl Cyfnodau Adsefydlu
Dedfryd neu benderfyniad | Cyfnod adsefydlu i bobl sy'n 18 oed neu'n hŷn adeg y gollfarn neu adeg gweithredu'r penderfyniad | Cyfnod adsefydlu i bobl o dan 18 oed adeg y gollfarn neu adeg gweithredu'r penderfyniad |
Dedfryd o garchar o fwy na 2 flynedd a 6 mis, ond dim mwy na 4 blynedd |
7 mlynedd o ddyddiad cwblhau'r ddedfryd (gan gynnwys unrhyw gyfnod ar drwydded) |
3 blynedd a 6 mis o ddyddiad cwblhau'r ddedfryd (gan gynnwys unrhyw gyfnod ar drwydded) |
Dedfryd o garchar o fwy na 6 mis, ond dim mwy na 2 flynedd a 6 mis* |
4 blynedd o ddyddiad cwblhau'r ddedfryd (gan gynnwys unrhyw gyfnod ar drwydded) |
2 flynedd o ddyddiad cwblhau'r ddedfryd (gan gynnwys unrhyw gyfnod ar drwydded) |
Dedfryd o garchar o hyd at 6 mis* |
2 flynedd o ddyddiad cwblhau'r ddedfryd (gan gynnwys unrhyw gyfnod ar drwydded) |
1 flwyddyn a 6 mis o ddyddiad cwblhau'r ddedfryd (gan gynnwys unrhyw gyfnod ar drwydded) |
Dedfryd o gadw ar wasanaeth |
1 flwyddyn o ddyddiad cwblhau'r ddedfryd |
6 mis o ddyddiad cwblhau'r ddedfryd |
Diswyddiad o Wasanaeth Ei Mawrhydi |
1 flwyddyn o ddyddiad y gollfarn |
6 mis o ddyddiad y gollfarn |
Dirwy |
1 flwyddyn o ddyddiad y gollfarn pan osodwyd y ddirwy |
6 mis o ddyddiad y gollfarn pan osodwyd y ddirwy |
Gorchymyn cymunedol neu orchymyn adsefydlu ieuenctid |
1 flwyddyn o'r diwrnod olaf y mae'r gorchymyn yn weithredol |
6 mis o'r diwrnod olaf y mae'r gorchymyn yn weithredol |
Arnodiadau gyrru |
5 mlynedd o ddyddiad y gollfarn |
2 flynedd a 6 mis o ddyddiad y gollfarn |
Gwaharddiad gyrru |
Pan fydd cyfnod y gwaharddiad wedi dod i ben |
Pan fydd cyfnod y gwaharddiad wedi dod i ben |
Rhybudd syml, rhybudd ieuenctid |
Wedi treulio ar unwaith |
Wedi treulio ar unwaith |
Rhybudd amodol, rhybudd amodol ieuenctid |
3 mis neu pan fo'r rhybudd wedi darfod os yn gynt |
3 mis neu pan fo'r rhybudd wedi darfod os yn gynt |
Gorchymyn iawndal |
Adeg rhyddhau'r gorchymyn (h.y. pan fydd wedi'i dalu'n llawn). Bydd angen tystiolaeth o'r taliad |
Adeg rhyddhau'r gorchymyn (h.y. pan fydd wedi'i dalu'n llawn). Bydd angen tystiolaeth o'r taliad |
Rhyddhad diamod |
Wedi treulio ar unwaith |
Wedi treulio ar unwaith |
Gorchmynion perthnasol** (gorchmynion sy'n gosod gwaharddiad, anabledd, neu gosb arall) |
Y dyddiad gorffen a roddir gan y gorchymyn neu os na roddir dyddiad, 2 flynedd o ddyddiad y gollfarn - oni bai bod y gorchymyn yn nodi 'diderfyn', 'amhenodol' neu 'hyd nes y ceir gorchymyn pellach' gan y bydd yn parhau heb ei dreulio yn yr achosion hyn |
Y dyddiad gorffen a roddir gan y gorchymyn neu, os na roddir dyddiad, 2 flynedd o ddyddiad y gollfarn - oni bai bod y gorchymyn yn datgan 'diderfyn', 'amhenodol' neu 'hyd nes y ceir gorchymyn pellach' gan y bydd yn parhau heb ei dreulio yn yr achosion hyn |
*Ymdrinnir â dedfrydau gohiriedig o garchar yn yr un modd â dedfrydau o garchar i'r diben hwn. Cyfnod y ddedfryd a osodwyd gan y llys, nid cyfnod y gohiriad, sy'n pennu pryd y bydd wedi'i dreulio.
** Mae gorchmynion perthnasol yn cynnwys gorchmynion rhyddhad amodol, gorchmynion atal, gorchmynion ysbyty, gorchmynion 'bind over', gorchmynion cyfeirio, gorchmynion gofal ac unrhyw orchymyn sy'n gosod gwaharddiad, anabledd, neu gosb arall nad yw wedi'i nodi yn y tabl)
Troseddau Moduro
Rhaid i chi ddatgelu’r mathau isod o droseddau moduro:-
• Achosi marwolaeth trwy yrru’n ddiofal,
• Gyrru’n ddiofal,
• Gyrru neu geisio gyrru neu fod yn gyfrifol am gerbyd tra dan ddylanwad diod feddwol neu gyffuriau neu fethu â rhoi sampl i’w ddadansoddi er mwyn sefydlu addasrwydd i yrru.
https://www.gov.uk/guidance/rehabilitation-periods#rehabilitation-periods-table