Gwybodaeth ar gyfer ymgeiswyr ac asiantiaid: Etholiad Senedd Cymru 7 Mai 2026

Bydd yr etholiad Senedd Cymru nesaf yn digwydd ar 7 Mai 2026.

Mwy o fanylion am yr etholiad a gwybodaeth i etholwyr

 

Sesiynau briffio i ymgeiswyr

Bydd y Swyddog Canlyniadau, Dafydd Gibbard yn cynnal sesiynau briffio cyn ac ar ôl y cyfnod enwebu:

  • Y cyfnod ar ôl enwebu. Bydd y Swyddog Canlyniadau yn rhannu gwybodaeth ynghylch y broses a’r amserlen ar gyfer pleidleisiau post, diwrnod yr etholiad a chyfrif y pleidleisiau. 
    Dyddiad: I'w gadarnhau
    I gofrestu, e-bostiwch: etholiad@gwynedd.llyw.cymru


Canllawiau i ymgeiswyr a’u hasiantiaid

Mae llawer o wybodaeth ddefnyddiol i ymgeiswyr ar gael ar wefan y Comisiwn Etholiadol:

 

Ymgeiswyr anabl 

Gall ymgeiswyr anabl ar gyfer y Senedd neu Lywodraeth Leol wneud cais am gyllid o dan y Gronfa Mynediad i Swyddi Etholedig, sy'n cael ei gweithredu gan Anabledd Cymru. 

 

Enwebiadau

Roedd y cyfnod enwebu yn cau ar 9 Ebrill 2026.

 

Ernes

  • Bydd ernes ymgeisydd unigol yn cael ei fforffedu os, ar ôl cyfrif y pleidleisiau, y caiff lai na 5% o gyfanswm y pleidleisiau a fwriwyd yn yr etholaeth.
  • Bydd ernes plaid wleidyddol gofrestredig yn cael ei fforffedu os, ar ôl cyfrif y pleidleisiau, y caiff lai na 5% o gyfanswm y pleidleisiau a fwriwyd yn yr etholaeth. 

 

Cod ymddygiad i ymgyrchwyr

Mae ymgyrchwyr yn elfen hanfodol o ddemocratiaeth iach, a dylid cefnogi a diogelu eu hawl i gyflwyno eu dadleuon i bleidleiswyr. Fodd bynnag, mae yr un mor bwysig sicrhau nad yw gweithgareddau ymgyrchwyr yn codi amheuaeth ynghylch uniondeb y broses etholiadol. 

 

 

Dyddiadau pwysig

Digwyddiad

Nifer y dyddiau gwaith cyn yr etholiad (amser cau os nad yw’n ganol nos)

Dyddiad (amser cau os nad yw’n ganol nos)

Cyhoeddi’r hysbysiad o etholiad

Heb fod yn llai na 25 o ddiwrnodau

Dydd Mercher, 25 Mawrth

Cyflwyno papurau enwebu

Unrhyw ddiwrnod ar ôl cyhoeddi’r hysbysiad o etholiad tan 4pm ar y pedwerydd diwrnod ar bymtheg cyn diwrnod yr etholiad

O 25 Mercher tan 4pm ddydd Iau 9 Ebrill

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno papurau enwebu

19 diwrnod (4pm)

4pm ddydd Iau 9 Ebrill

Gwneud gwrthwynebiadau i’r papur enwebu

19 diwrnod (5pm) cyn yr etholiad, yn amodol ar y canlynol:

Cyn 12 canol dydd gellir gwneud gwrthwynebiadau i bob enwebiad a gyflwynwyd erbyn 4pm, 20 diwrnod cyn yr etholiad.

Rhwng 12 canol dydd a 5pm, dim ond i enwebiadau a gyflwynwyd ar ôl 4pm, 20 diwrnod cyn yr etholiad y gellir gwneud gwrthwynebiadau.

 

Cyn 12 canol dydd, ddydd Iau 9 Ebill, gellir gwneud gwrthwynebiadau i bob enwebiad a gyflwynwyd erbyn 4pm ddydd Mercher 8 Ebrill.

Rhwng 12 canol dydd a 5pm ddydd Iau 9 Ebrill, dim ond i enwebiadau a gyflwynwyd ar ôl 4pm ddydd Mercher 8 Ebrill y gellir gwneud gwrthwynebiadau.

Y dyddiad cau ar gyfer tynnu’n ôl

19 diwrnod (4pm)

4pm ddydd Iau 9 Ebrill

Cyhoeddi’r hysbysiad interim cyntaf o newid i etholiad

19 diwrnod

Dydd Iau 9 Ebrill

Y dyddiad cau ar gyfer hysbysu bod asiant etholiadol wedi’i benodi

Dim hwyrach na 18 diwrnod (4pm)

Dim hwyrach na 4pm ddydd Gwener 10 Ebrill

Cyhoeddi datganiad am y sawl a enwebwyd, gan gynnwys hysbysiad o etholiad a lleoliad y gorsafoedd pleidleisio

Dim hwyrach na 18 diwrnod (4pm)

Dim hwyrach na 4pm ddydd Gwener 10 Ebrill

Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau i gofrestru

12 diwrnod

Dydd Llun 20 Ebrill

Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau newydd am bleidlais bost a phleidlais ddirprwy drwy’r post, ac am newidiadau i bleidleisiau post neu bleidleisiau drwy ddirprwy sy’n bodoli eisoes

11 diwrnod (5pm)

5pm ddydd Mawrth 21 Ebrill

Cyhoeddi’r ail hysbysiad interim o newid i etholiad

Rhwng 18 diwrnod a 6 diwrnod

Dydd Mercher 22 Ebrill

Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau newydd i bleidleisio drwy ddirprwy (nid pleidleisiau dirprwy drwy’r post na phleidleisiau drwy ddirprwy mewn argyfwng)

6 diwrnod (5pm)

5pm ddydd Mawrth 28 Ebrill

Cyhoeddi’r hysbysiad olaf o newid i etholiad

5 diwrnod

Dydd Mercher 29 Ebrill

Y dyddiad cau ar gyfer hysbysu bod asiantiaid pleidleisio ac asiantiaid cyfrif wedi’u penodi.

5 diwrnod

Dydd Mercher 29 Ebrill

Y dyddiad cyntaf y gall etholwyr wneud cais am bleidlais bost newydd yn lle pleidlais bost a gollwyd

4 diwrnod

Dydd Iau 30 Ebrill

Y dyddiau cau ar gyfer penodi is-asiantiaid

2 ddiwrnod

Dydd Mawrth 5 Mai

Diwrnod yr etholiad

0 (7am tan 10pm)

7am tan 10pm ddydd Iau 7 Mai

Yr amser olaf y gall etholwyr wneud cais am bleidlais bost newydd yn lle pleidlais bost a ddifethwyd neu a gollwyd

0 (5pm)

5pm ddydd Iau 7 Mai

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau i bleidleisio drwy ddirprwy mewn argyfwng

0 (5pm)

5pm ddydd Iau 7 Mai

Yr amser olaf y gellir newid y gofrestr oherwydd gwall clerigol neu apêl gan y llys

0 (9pm)

9pm ddydd Iau 7 Mai

Dilysu a chyfrif

 

9am ddydd Gwener 8 Mai

Manylion Cyswllt

Os ydych chi angen rhagor o wybodaeth, cysylltwch â’r Swyddog Canlyniadau: