Cyfle i fusnesau Gwynedd ddweud eu dweud

Dyddiad: 21/11/2025

Mae Cyngor Gwynedd yn awyddus i glywed barn y gymuned fusnes leol er mwyn gallu teilwra gwasanaethau a chefnogaeth i’r dyfodol.

Mae cyfle i berchnogion busnes o fewn y sir rannu eu barn drwy holiadur byr. Bydd canlyniadau’r arolwg yn rhoi trosolwg o'r hinsawdd fusnes sydd ohoni ac yn helpu’r Cyngor i gael gwell dealltwriaeth o anghenion busnesau’r sir.

Dywedodd y Cynghorydd Medwyn Hughes, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros yr Economi a Chymuned:

“Rydym yn awyddus i glywed yn uniongyrchol gan fusnesau o bob math a sector am yr heriau rydych chi’n eu hwynebu, y math o gefnogaeth a allai wneud gwahaniaeth, a’ch blaenoriaethau ar gyfer y misoedd i ddod.

“’Dw i’n annog unrhyw un sy’n rhedeg busnes yng Ngwynedd i gymryd rhan yn yr arolwg byr hwn. Bydd eich barn yn ein helpu i gael gwell dealltwriaeth o’r hinsawdd fusnes sydd ohoni ac i ymateb gyda chefnogaeth sy’n berthnasol ac yn amserol.

“Mae busnesau yn ganolog i’n heconomi lleol, ac i allu parhau i gynnig cymorth ystyrlon, mae angen darlun clir o’r pwysau a’r cyfleoedd rydych chi’n eu hwynebu. Bydd canlyniadau’r arolwg yn rhan allweddol o lunio’r ymateb hwnnw.”

I gwblhau’r arolwg, ewch i wefan Cyngor Gwynedd: www.gwynedd.llyw.cymru/arolwgbusnes2025

Os na allwch roi eich barn ar-lein, mae’n bosib cael copi papur trwy gysylltu â busnes@gwynedd.llyw.cymru neu 01286 679505.

Bydd yr arolwg yn cau am hanner nos, 1 Rhagfyr 2025.