Trefniadau gwastraff Gwynedd dros gyfnod y Nadolig

Dyddiad: 15/12/2025

Oherwydd gwyliau’r Nadolig, ni fydd casgliadau gwastraff ac ailgylchu Cyngor Gwynedd yn cael eu cynnal ar 25 a 26 Rhagfyr eleni.

Bydd casgliadau gwastraff gweddilliol (bin olwyn gwyrdd/ sachau duon) yn cael eu cynnal wythnos yn gynt (sef ar 18 a 19 Rhagfyr) – mae llythyr yn esbonio’r newid wedi ei anfon at y cartrefi yma.

Bydd casgliadau ailgylchu yn ail-gychwyn yr wythnos ganlynol ar gyfer unrhyw gartrefi fydd wedi methu casgliad ar 25 a 26 Rhagfyr. Bydd casgliadau bagiau melyn hefyd yn cael eu cynnal yr wythnos ganlynol.

Er ei bod yn ŵyl banc, bydd casgliadau arferol i bawb fydd yn cael casgliad ar ddydd Iau, 1 Ionawr 2026.

Er mwyn hwyluso’r trefniadau i drigolion Gwynedd ar adegau pan mae mwy o ddeunydd fel cardfwrdd a phecynnau yn hel yn y cartref, bydd oriau agor canolfannau ailgylchu’r Cyngor yn cael eu hymestyn ar gyfer wythnos 29 Rhagfyr.

Mae manylion llawn holl ganolfannau ailgylchu Cyngor Gwynedd ar gael ar ‘apGwynedd’ ar y ffôn clyfar neu ddyfais llechen neu trwy fynd i www.gwynedd.llyw.cymru/ailgylchu

Meddai’r Cynghorydd Craig ab Iago, Aelod Cabinet Amgylchedd Cyngor Gwynedd:

“Er fod yna lawer y gall pob un ohonom ei wneud i ail-ddefnyddio a thorri lawr ar wastraff di-angen dros y Nadolig, mae mwy o sbwriel ac ailgylchu yn dueddol o hel mewn cartrefi dros y cyfnod yma.

“Tra bod rhai cartrefi fyddai fel arfer yn cael casgliad ar 25 a 26 Rhagfyr yn cael eu heffeithio, mae’n bwysig cofio fod canolfannau ailgylchu’r Cyngor ar agor dros gyfnod y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd

“Mae amseroedd agor y canolfannau wedi eu hymestyn dros y cyfnod felly mi fydden ni’n annog pobl Gwynedd i wneud y mwyaf o’r cyfleusterau yma os oes ganddyn nhw eitemau ailgylchu ychwanegol neu mwy o wastraff na’r arfer. Yr oll sydd angen ei wneud ydi archebu slot ar gyfer mynychu eich canolfan leol. 

“Mae cyngor a gwybodaeth am ailgylchu a manylion am eich canolfan leol a’ch dyddiadau casglu ar gyfer y flwyddyn hefyd ar gael ar www.gwynedd.llyw.cymru/ailgylchu neu drwy ymweld ag apGwynedd ar eich ffôn glyfar neu ddyfais llechen.”

Bydd cartrefi fydd yn methu casgliadau ar ddydd Nadolig yn derbyn casgliad ar y dydd Iau, 18 Rhagfyr 2025 ac yna ar 15 Ionawr 2026. I gartrefi fydd yn methu casgliad ar ddydd San Steffan (26 Rhagfyr), bydd casgliad ar ddydd Iau, 19 Rhagfyr 2025 ac yna ar 16 Ionawr 2026.

Mae’r canolfannau ailgylchu ar agor tan 12pm ar 24 Rhagfyr ac yn ail-agor ar ôl y Nadolig ar ddydd Llun, 29 Rhagfyr. Bydd y canolfannau ar gau ar Ddydd Calan.

Am fwy o wybodaeth am wasanaethau ailgylchu a gwastraff y Cyngor, gan gynnwys manylion am archebu slot i fynychu canolfan ailgylchu ewch i www.gwynedd.llyw.cymru/ailgylchu neu os nad oes gennych fynediad i’r we, gallwch ffonio 01766 771000.

Nodiadau:

Manylion am gasgliadau ailgylchu sy’n cael eu heffeithio dros gyfnod y Nadolig yng Ngwynedd:

  • Ni fydd casgliadau ar 25 Rhagfyr, gyda phob cartref fyddai efo casgliad ailgylchu/bin gwyrdd/ bagiau melyn yn cael ei gasglu ar 1 Ionawr 2026;
  • Ni fydd casgliadau ar 26 Rhagfyr, gyda phob cartref fyddai efo casgliad ailgylchu/bin gwyrdd/ bagiau melyn yn cael ei gasglu ar 2 Ionawr 2026.

 Manylion oriau y canolfannau ailgylchu dros gyfnod y Nadolig yng Ngwynedd:

  • 24 Rhagfyr – canolfannau ailgylchu ar agor o 9am tan 12pm;
  • 25 Rhagfyr - 27 Rhagfyr – pob canolfan ailgylchu ar gau;
  • 29 Rhagfyr tan 31 Rhagfyr – canolfannau ar agor o 8am tan 4.30pm;
  • 1 Ionawr – pob canolfan ailgylchu ar gau;
  • 2 – 3 Ionawr – canolfannau ar agor ar agor o 8am tan 4.30pm;
  • 5 Ionawr ymlaen – canolfannau ar agor fel arfer.

*Noder mai ar ddydd Llun, Gwener a Sadwrn yn unig mae canolfannau ailgylchu’r Bala a Blaenau Ffestiniog ar agor.