Parcio Nadolig am ddim ym meysydd parcio Cyngor Gwynedd

Dyddiad: 01/12/2025

Mae Cyngor Gwynedd yn cynnig parcio am ddim yn ei holl feysydd parcio o 11yb bob diwrnod o 13 tan 27 Rhagfyr 2025.

Mae’r cynnig parcio yn rhan o ymgyrch i annog siopa’n lleol a chefnogi busnesau’r sir.

Dywedodd y Cynghorydd Craig ab Iago, Aelod Cabinet Amgylchedd Cyngor Gwynedd:

“Mae siopau a busnesau Gwynedd yn rhan bwysig iawn o economi’r sir ac rydym yn gobeithio y bydd y cynnig parcio yn y cyfnod sy’n arwain at y Nadolig yn cynnig hwb iddynt.

“Fel rhan o’r ymdrech, byddwn yn cynnig parcio am ddim ym meysydd parcio cyhoeddus Cyngor Gwynedd o 11yb bob dydd o 13 tan 27 Rhagfyr eleni.

“Bydd hyn yn rhoi cyfle i drigolion gymryd mantais o’r cynnig parcio a chefnogi’r amrywiaeth o fusnesau arbennig sydd gan Wynedd i’w gynnig.”

Mae gwybodaeth am yr amrywiaeth o gynnyrch a danteithion sydd ar gael o lawer iawn o fusnesau Gwynedd i’w gweld ar wefan Eryri Mynyddoedd a Môr yma: www.visitsnowdonia.info/cy/siopau-cynnyrch-lleol a dilynwch eu cyfrifon cyfryngau cymdeithasol a’r hashnodau #PrynuLleol #CefnogiLleol i weld mwy am ddigwyddiadau a nosweithiau siopau dros gyfnod y Nadolig.

Ymgyrch ym meysydd parcio cyhoeddus talu ac arddangos Cyngor Gwynedd ydi hwn a bydd ffioedd yn ail-gychwyn o 28 Rhagfyr. Bydd arwydd ar bob peiriant talu ac arddangos ym meysydd parcio cyhoeddus y Cyngor, felly os nad oes nodyn i’w weld, dylech wirio os ydi o’n faes parcio’r Cyngor.

Mae lleoliad holl feysydd parcio Cyngor Gwynedd ar gael ar-lein: www.gwynedd.llyw.cymru/parcio

NODYN:

Dylai unrhyw un sy’n parcio mewn maes parcio preifat neu sy’n eiddo i gorff arall wirio’r trefniadau yn ofalus cyn parcio gan ei bod yn bosib na fydd parcio am ddim ar gael yno.