Mwy o bobl leol yn gymwys ar gyfer cymorth i brynu cartref yng Ngwynedd

Dyddiad: 02/12/2025

Mae Cynllun Prynu Cartref Gwynedd wedi ehangu, gan alluogi mwy o bobl i fod yn gymwys ar gyfer cymorth i brynu tŷ yn eu cymuned eu hunain.

Mae’r cynllun rhannu ecwiti, sy’n cael ei reoli gan Gyngor Gwynedd mewn partneriaeth â Tai Teg a Llywodraeth Cymru, yn cynnig benthyciad ecwiti o rhwng 10% a 50% o werth tŷ ar y farchnad agored. Mae prynwr wedyn yn gallu ariannu gweddill y pryniant drwy forgais a chynilion.

Mae meini prawf y cynllun bellach wedi'u diweddaru i alluogi pobl ar ystod ehangach o incwm aelwyd fod yn gymwys ac i roi mynediad at dai gwerth uwch mewn rhai ardaloedd lle mae prisiau tai yn anfforddiadwy i ganran uchel o bobl leol.

I helpu pobl i wirio a ydyn nhw'n gymwys o dan y meini prawf newydd, mae cyfrifiannell ar-lein sy'n hawdd ei defnyddio wedi'i lansio. Mae'n caniatáu i ddefnyddwyr weld yn gyflym os ydi’r cynllun yn addas iddyn nhw: Cyfrifiannell Cynllun Prynu Cartref Gwynedd

 Mae’r cynllun ar gael i bobl:

  • dros 18 oed sydd â chysylltiad lleol â’r ardal lle maent am brynu tŷ.
  • sy’n brynwyr tro cyntaf
  • neu fod eu cartref presennol yn anaddas a ddim yn cwrdd ag anghenion y teulu (e.e. mae’r tŷ yn orlawn), a ddim yn gallu fforddio i brynu eiddo sy’n addas i’w anghenion.

 

Dywedodd y Cynghorydd Paul Rowlinson, Aelod Cabinet Tai ac Eiddo Gwynedd:

“Fel Cyngor rydym yn gwneud pob dim o fewn ein gallu i sicrhau bod pobl Gwynedd yn gallu byw yn eu cymunedau, mewn cartrefi fforddiadwy sy’n addas i’w hanghenion. Rydym yn gwybod bod prisiau tai yn dal i fod allan o gyrraedd canran uchel iawn o bobl y sir. Mae’r Cynllun Prynu Cartref yn gallu cynnig benthyciad i helpu trigolion i gael cyfle i brynu tŷ ar y farchnad agored.

“Mae'r byd wedi newid yn sylweddol ers i ni lansio'r cynllun yn 2022, ac rydym eisiau i'n holl gynlluniau tai adlewyrchu anghenion go iawn pobl Gwynedd. Gyda hyn mewn golwg, ar y cyd â pheilot Dwyfor Llywodraeth Cymru a Thai Teg, rydym wedi diweddaru'r cynllun i gefnogi mwy o bobl sydd angen tai.

“Rhowch gynnig ar y gyfrifiannell newydd – os nad oeddech chi’n gymwys o’r blaen, efallai bod y meini prawf newydd yn golygu eich bod chi bellach yn gymwys.”

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai a Llywodraeth Leol, Jayne Bryant:

"Rwy'n falch o gefnogi Cyngor Gwynedd i gyflawni'r rhaglen Prynu Cartref, yr ydym yn helpu i'w ariannu drwy Gynllun Peilot Dwyfor.

"Bydd y newidiadau i'r pecyn cymorth yn helpu mwy o bobl leol i brynu cartref yn eu cymunedau, lle mae llawer yn wynebu pwysau fforddiadwyedd oherwydd lefelau uchel o ail gartrefi a rhentu tymor byr."

Mae’r Cynllun Prynu Cartref yn rhan o raglen ehangach gan Gyngor Gwynedd i gynyddu mynediad pobl y sir at dai fforddiadwy. Mae hyn yn cynnwys codi mwy o dai, dod â thai gwag yn ôl i ddefnydd a datblygu tai â chefnogaeth i helpu pobl sy’n wynebu digartrefedd.

I weld os ydych chi’n gymwys i wneud cais trwy'r cynllun, ewch i’r wefan a rhowch dro ar y gyfrifiannell newydd: Cyfrifiannell Cynllun Prynu Cartref Gwynedd

I gofrestru, gwneud cais neu ofyn cwestiwn am y cynllun ewch i wefan Tai Teg: https://taiteg.org.uk/ neu gysylltwch dros y ffôn 03456 015 605 neu e-bost: info@taiteg.org.uk