Llwyddiant i Ymgynghoriaeth Gwynedd yng Ngwobrau CIHT Cymru

Dyddiad: 11/12/2025

Mae gwaith caled Ymgynghoriaeth Gwynedd (YGC) wedi ei gydnabod yn ddiweddar yng ngwobrau blynyddol CIHT Cymru (The Chartered Institution of Highways and Transportation).

Cafodd y Gwasanaeth lwyddiant drwy gipio Gwobr Teithio Llesol ar gyfer Cynllun Llwybr Cysylltiol Blaenau Ffestiniog i Chwarel Llechwedd A470 a Gwobr Arloesi ac Ymchwil ar gyfer Cynllun Adnewyddu A493 Friog i Lwyngwril.

Daeth y Cynllun Adnewyddu A493 Friog i Lwyngwril yn ail yn y categori Gwobr Cydweithio hefyd.

Mae’r Wobr Teithio Llesol yn cael ei dyfarnu i brosiectau i gydnabod pwysigrwydd teithio llesol wrth gyflawni buddion iechydol, cymdeithasol ac amgylcheddol i gymdeithas ac yn cydnabod cynlluniau cerdded a beicio trawsnewidiol a’u heffaith gymunedol.

Mae’r Wobr Arloesi ac Ymchwil yn cydnabod y camau ymchwilio a threialu sy’n cymryd lle wrth ddatblygu prosiectau.

Dywedodd y Cynghorydd June Jones, Aelod Cabinet dros Priffyrdd, Peirianneg ac YGC:

“Llongyfarchiadau i staff YGC a phawb wnaeth gyrraedd rhestr fer y gwobrau nodedig yma. Mae’r prosiectau yma ym Mlaenau Ffestiniog a Friog i Llwyngwril wedi cyfrannu at ddatblygiad economaidd ac adfywio yn lleol, iechyd y cyhoedd, a chynaliadwyedd amgylcheddol.

“Mae’r llwyddiant yn y gwobrau yn newyddion calonogol, ac yn gydnabyddiaeth o arloesedd a’r cydweithio sy’n digwydd o fewn y Gwasanaeth YGC gyda phartneriaid fel Jones Bros a’r Safle Treftadaeth y Byd Tirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru i gwblhau prosiectau o ansawdd o fewn ein cymunedau yma yng Ngwynedd. 

“Dyma hefyd atgyfnerthu ymrwymiad y Cyngor i Deithio Llesol, un o brosiectau Cynllun y Cyngor, a fydd yn y pendraw yn helpu i wella iechyd personol, ansawdd yr aer ac yn gwneud ein cymunedau yn lefydd dymunol i fyw a gweithio ynddynt.”

Roedd YGC yn cydweithio gyda’r contractwr Jones Bros Civil Engineering UK ar y prosiectau hyn.

Dywedodd cyfarwyddwr contractau Jones Bros, Hefin Lloyd-Davies: 

“Mae wedi bod yn wych gweithio'n agos gydag YGC i gyflawni prosiectau sydd wedi cael gymaint o effaith, ac rwy'n falch bod ein hymdrechion wedi cael eu cydnabod gan gorff sydd wedi'i hen sefydlu o fewn y diwydiant.

"Mae'r gwobrau sydd wedi'u hennill wirioneddol yn dyst i waith caled ein holl aelodau o staff ac yn adlewyrchu ein hymrwymiad parhaus i ragoriaeth a'r cydweithio gyda YGC."

Am y diweddaraf am brosiectau YGC ewch i: www.ygc.cymru

I ddysgu mwy am Wobrau CIHT Cymru: CIHT Cymru Wales Awards | CIHT