Cynlluniau Gartref Gofal ym Mhen Llyn gam yn nes

Dyddiad: 17/12/2025

Mae cynlluniau i ddarparu gofal preswyl a nyrsio ym Mhen Llŷn gam yn nes wedi i Gabinet Cyngor Gwynedd drafod cam nesaf yn y broses o sicrhau buddsoddiad gwerth £16.4 miliwn gan Lywodraeth Cymru.

Mae Cyngor Gwynedd, mewn cydweithrediad â Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC), yn datblygu prosiect sylweddol yn ardal Penrhos ger Pwllheli. Bydd y fenter hon nid yn unig yn darparu’r gofal nyrsio a preswyl hanfodol sydd ei angen ar drigolion Llŷn ac Eifionydd, ond hefyd yn cyfrannu’n sylweddol at yr economi leol drwy greu nifer o swyddi.

Mewn cyfarfod o Gabinet y Cyngor ar 16 Rhagfyr, bu i Aelodau drafod prosiect Cartref Gofal Penrhos.

Bwriad y cartref fydd cynnig cyfleuster gofal newydd, arloesol, wedi'i adeiladau'n bwrpasol ar safle’r pentref Pwylaidd ym Mhenrhos. Bydd yn darparu cartref gofal preswyl a nyrsio sy'n cynnwys 32 o welyau dementia preswyl a 24 o welyau nyrsio. Bydd wyth ohonynt yn welyau dementia nyrsio, wedi'u cynllunio i safonau rheoleiddio modern, gan gynnwys darpariaeth en-suite lawn a nodweddion sy'n gyfeillgar i ddementia.

Meddai’r Cynghorydd Angela Russell, Aelod lleol dros Llanbedrog gyda Mynytho:

“Mae’n newyddion cyffrous bod cynlluniau ar gyfer cartref gofal preswyl a nyrsio ar safle Penrhos gam yn nes.  Mae’n golygu llawer i mi fod y Cyngor yn gweithio gyda’n partneriaid lleol ar y prosiect hwn. Rydyn ni’n gwybod yn iawn pa mor anodd yw hi i deuluoedd pan nad oes gwelyau gofal ar gael yma ym Mhen Llŷn – mae pobl yr ardal yn gorfod symud i ffwrdd o’u cartrefi a’u cymuned pan maen nhw fwyaf bregus. Dyna pam mae’r prosiect hwn mor bwysig i ni fel cymuned – bydd yn sicrhau gofal drwy’r Gymraeg yn lleol. Bydd cyllid gan Lywodraeth Cymru yn golygu y gallwn adeiladu dyfodol lle mae pobl yn cael gofal o ansawdd uchel yn eu milltir sgwâr.”

Gyda’r Cabinet yn cymeradwyo’r Achos Busnes Amlinellol bydd modd sicrhau cyllid gwerth dros £16miliwn gan Lywodraeth Cymru o’r Gronfa Integreiddio ac Ailgydbwyso Iechyd a Gofal Cymdeithasol (IRCF) i greu datblygiad partneriaeth sector cyhoeddus ar safle Penrhos, mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC). 

Bydd hyn yn caniatáu i swyddogion y Cyngor i fwrw ymlaen gyda’r cais i’r Llywodraeth ac i gyflwyno cais cynllunio ffurfiol yn ystod Gwanwyn 2026, gyda’r bwriad o ddechrau’r gwaith adeiladu yn ystod 2027. Y gobaith yw bydd y cartref yn cael ei gwblhau ac yn barod i groesawu’r trigolion cyntaf yn 2029.

Ychwanegodd y Cynghorydd Dilwyn Morgan, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd sy'n gyfrifol am yr Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant:

"Rwy’n falch iawn bod y Cyngor yn gallu cydweithio â’n partneriaid yn y sectorau iechyd a thai ar y prosiect uchelgeisiol hwn. Mae prinder sylweddol o welyau mewn cartrefi nyrsio ar draws y sir, ac mae’r sefyllfa’n fwy difrifol yn ardal Llŷn lle nad oes unrhyw ddarpariaeth gyhoeddus ar hyn o bryd.

“Mae gormod o bobl o’r ardal yn gorfod symud ymhell oddi wrth eu teuluoedd a’u cymuned pan maent ar eu mwyaf bregus - bydd y cyllid grant gan Lywodraeth Cymru yn cyfrannu’n uniongyrchol at greu system ofal fwy gwydn, gan sicrhau mynediad i wasanaethau gofal drwy gyfrwng y Gymraeg yn eu cymunedau eu hunain.

“Heb amheuaeth, bydd y datblygiad hwn yn rhoi hwb economaidd mawr i’r ardal, gan ein bod yn buddsoddi yn y broses adeiladu a bydd cyfleoedd tymor hir o fewn y sector gofal. Bydd swyddi gwerth uchel, parhaol gyda’r posibilrwydd o ddilyniant gyrfa yn y cartref newydd.”

Dywedodd Angela Wood, Cyfarwyddwr Gweithredol Nyrsio ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr:

"Rydym wrth ein bodd i fod yn gweithio mewn partneriaeth â Chyngor Gwynedd ar y prosiect cyffrous ac arloesol hwn i ddarparu mwy o ofal nyrsio a dementia yn agosach at gartrefi a theuluoedd pobl ym Mhen Llŷn.

"Y nod yw cynyddu'r dewis sydd ar gael i gleifion yn yr ardal a fydd yn gwella llif cleifion a rhyddhau amserol o'r Ysbyty ac yn y pen draw yn helpu pobl i aros yn eu cymunedau."