Cyhoeddi Adroddiad Blynyddol Llechi Cymru
Dyddiad: 19/12/2025
Mae Bwrdd Partneriaeth Llechi Cymru wedi cyhoeddi ei adroddiad blynyddol ar gyfer 2025.
Mae pedair blynedd bellach ers i Dirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru dderbyn statws Safle Treftadaeth y Byd, ac mae’r adroddiad blynyddol yn gyfle i adlewyrchu ar yr hyn sydd wedi ei gyflawni dros y cyfnod diwethaf; datblygiadau, buddsoddiadau, gwaith cadwraeth a blaenoriaethau eraill.
Yn ystod y flwyddyn mae nifer o brosiectau wedi eu rhoi ar waith er mwyn dod a buddion i gymunedau a busnesau Gwynedd yn sgil y dynodiad.
Mae’r prosiectau wedi cynnwys:
- Cadwraeth: Achub Ysbyty Chwarel Penrhyn rhag dirywio pellach a sicrhau mynediad i’r dyfodol.
- Adfywio trefi: Gwaith celf trawiadol ym Mlaenau Ffestiniog, Porthmadog, Tywyn a Phenygroes wedi ei gyd-gynllunio gyda disgyblion lleol.
- Seilwaith cymunedol: Buddsoddiadau i uwchraddio Neuadd Ogwen, Bethesda ac Yr Aelwyd, Blaenau Ffestiniog.
- Addysg a threftadaeth: Gweithdai gyda ysgolion cynradd ar draws Gwynedd.
- Balchder cymunedol: Digwyddiadau fel Gŵyl Bêl-droed Dyffryn Nantlle.
- Profiad ymwelwyr: Partneriaethau i gynnig profiadau rhyngwladol gyda Amgueddfa Lechi Cymru, gan gynnwys Amgueddfa ar y Lôn.
Dywedodd yr Arglwydd Dafydd Wigley, Cadeirydd Bwrdd Partneriaeth Llechi Cymru
“Rwy’n ymfalchïo yn y gwaith sydd wedi ei weld ar draws y tirlun llechi a gobeithio bod yr adroddiad hwn yn rhoi blas i bawb o’r hyn sydd wedi ei gyflawni, ac ein bod wirioneddol fel partneriaid yn mynd â’r maen i’r wal.
“Mae’r dynodiad wedi arwain at welliannau sylweddol ar draws yr ardal fydd yn atgyfnerthu ein gweledigaeth fel partneriaeth o ‘amddiffyn, cadw, gwella a chyfleu rhinweddau arbennig yr ardal er mwyn atgyfnerthu hynodrwydd diwylliannol a chryfhau’r iaith Gymraeg, a dod yn sbardun pwysig i adfywio economaidd a chynhwysiad cymdeithasol’.”
Dros y blynyddoedd mae dynodiadau UNESCO wedi denu buddsoddiad sylweddol i Wynedd, ac ers dynodi Tirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru yn Safle Treftadaeth y Byd yn 2021 mae cyfanswm o dros £38 miliwn wedi ei sicrhau i’r sir drwy ffynonellau megis Llywodraeth y DU, Cadw, Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol a phartneriaid eraill.
Dros y cyfnod nesaf bydd rhagor o weithgareddau’r prosiect Llewyrch o’r Llechi yn cael eu cyflawni yn ogystal â blwyddyn arall o weithgareddau LleCHI LleNI.
Ychwanegodd y Cynghorydd Medwyn Hughes, Aelod Cabinet Economi a Chymuned Cyngor Gwynedd:
“Ers i mi ddod yn Aelod Cabinet Economi a Chymuned Cyngor Gwynedd, rwyf wedi bod yn hynod o falch o ymweld â’r tirlun llechi er mwyn gweld y datblygiadau cyffroes sydd wedi bod ar waith, y bwrlwm a’r gefnogaeth sydd yn ein cymunedau.
“Mae Cyngor Gwynedd yn hynod falch o fod yn arwain ar ein Safle Treftadaeth Byd ac ar bartneriaeth Llechi Cymru ac mae gweld ein gweledigaeth yn raddol ddod yn realiti er budd cymunedau, busnesau a thirlun llechi’r ardal yn wirioneddol galonogol.
“Mae hon yn stori enfawr sy’n rhoi Gwynedd ar fap y byd. Mae hon yn stori o bwys – nid yn unig ar gyfer ein ddoe na’n heddiw – ond hefyd ar gyfer ein yfory a chenedlaethau’r dyfodol. Bydd Cyngor Gwynedd yn parhau i geisio manteisio ar ein treftadaeth gyfoethog gyda’n holl bartneriaid er mwyn sicrhau llewyrch o’n llechi i holl gymunedau’r ardal.”
Mae copi o’r Adroddiad Blynyddol llawn ar gael ar y wefan: Adroddiad Blynyddol Llechi Cymru 2024-25
Am ragor o wybodaeth am Safle Treftadaeth y Byd Tirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru a sut i ymweld â’r atyniadau yn ddiogel ewch i: www.llechi.cymru