Buddsoddiad sylweddol i Ysgol Tryfan

Dyddiad: 17/12/2025

Mae buddsoddiad o bron i £24 miliwn i un o ysgolion uwchradd Gwynedd gam yn agosach, wedi i Gabinet Cyngor Gwynedd gytuno i gynyddu’r gyllideb ar gyfer y prosiect.

Mae cynlluniau cyffroes ar gyfer gwelliannau sylweddol i safle Ysgol Tryfan ym Mangor yn cynnwys codi adeiladau newydd, gwneud gwelliannau sylweddol i adeiladau sydd eisoes yn sefyll a gwella adnoddau a chyfleusterau chwaraeon.

Bydd y pecyn ariannol yn cynyddu capasiti Ysgol Tryfan i 650 a’i thrawsnewid yn safle modern a chyfoes, sy’n cwrdd â gofynion Cwricwlwm i Gymru, a’i gwneud yn ysgol yn llawer mwy eco-gyfeillgar.

Bydd Cyngor Gwynedd rŵan yn symud ymlaen i gynnal trafodaethau gyda Llywodraeth Cymru. Y bwriad yw y bydd Cyngor Gwynedd yn cyfrannu £8.3 miliwn (35%) o’r buddsoddiad a’r £15.3 miliwn (65%) sy’n weddill yn dod o Raglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy Llywodraeth Cymru, yn ddibynnol ar gymeradwyaeth y Llywodraeth i achosion busnes y Cyngor.

Dywedodd y Cynghorydd Dewi Jones, Aelod Cabinet Addysg Cyngor Gwynedd:

“Mae gwneud yn siŵr bod holl blant Gwynedd yn cael eu haddysgu mewn adeiladau modern a ffit i bwrpas yn flaenoriaeth i Gyngor Gwynedd. Mae ein cynlluniau ar gyfer Ysgol Tryfan yn enghraifft dda o sut mae adrannau’r Cyngor yn gallu cydweithio gyda chymuned yr ysgol er budd ein pobl ifanc a’r staff dysgu.

“Law yn llaw efo hyn, mae’r Cyngor hwn wedi ymrwymo i leihau ein allyriadau carbon ac i weithio mewn ffordd amgylcheddol gyfeillgar. Bydd y cynlluniau hyn ar gyfer Ysgol Tryfan yn golygu bydd yr ysgol yn lleihau ei ôl-throed carbon yn sylweddol, gan arwain hefyd at fod yn fwy cost-effeithiol i’w rhedeg i’r dyfodol.

“Fel unrhyw brosiect sylweddol arall, mae’n cymryd amser i symud y gwaith yn ei flaen a dwi’n ddiolchgar i’r ysgol am eu hamynedd wrth i’n swyddogion wneud y gwaith cefndirol. Yn anffodus, ers i ni ddechrau trafod y prosiect yma, mae costau chwyddiant ynghyd â chost deunyddiau adeiladu wedi cynyddu’n sylweddol a dyma pam rydym wedi rhoi caniatâd heddiw i drosglwyddo £1.96 miliwn yn ychwanegol o Gynllun Rheoli Asedau’r Cyngor.

“Rydw i’n falch ein bod wedi cyrraedd y cam yma yn y broses ac yn edrych ymlaen i weld cynnydd y gwaith ar y safle ynghyd â gwelliannau sylweddol i’r ysgol pan bydd y gwaith wedi ei gwblhau; a gweld sut bydd yr adnoddau newydd yn cyfoethogi profiadau addysgol disgyblion Ysgol Tryfan.”

Dywedodd Dr Geraint Owen Jones, Pennaeth Ysgol Tryfan:

“Fel cyn-ddisgybl a phennaeth Ysgol Tryfan, rwy’n croesawu’n fawr y newyddion am y buddsoddiad sylweddol i’n hysgol. Mae hwn yn gam pwysig ymlaen tuag at sicrhau bod ein disgyblion yn cael eu haddysgu mewn amgylchedd modern, diogel ac addas i’r dyfodol.

“Ers ei sefydlu yn 1978, mae Ysgol Tryfan wedi bod yn rhan ganolog o gymuned Bangor, gan ddarparu addysg cyfrwng Gymraeg o safon i genedlaethau o bobl ifanc. Ymfalchïwn yn ein traddodiad o feithrin doniau, hyrwyddo diwylliant Cymraeg a chynnig cyfleoedd eang i’n disgyblion.

“Mae’r buddsoddiad newydd hwn yn sicrhau y gallwn barhau â’r weledigaeth ac edrychwn ymlaen at bennod nesaf yr ysgol mewn cyfleusterau sy’n adlewyrchu anghenion yr 21ain ganrif. Bydd y gwelliannau arfaethedig yn cynnig cyfleoedd dysgu cyfoethog i’n pobl ifanc ac yn cefnogi ein hymrwymiad tuag at ragoriaeth.

“Manteisiaf ar y cyfle i ddiolch i Gyngor Gwynedd, Llywodraeth Cymru, ein rhieni, Llywodraethwyr a’n cymuned leol am eu cefnogaeth a’u hamynedd wrth i’r cynlluniau a’r bwriadau hyn ddod i’r amlwg. Edrychwn ymlaen at y trafodaethau nesaf, i weld y gwaith yn datblygu, ac at y manteision hirdymor i’n disgyblion, ein staff gweithgar a’r gymuned ehangach.”