Strategaeth Gwastraff ac Ailgylchu Cyngor Gwynedd 2025-2030
Dyddiad: 30/06/2026
Mae adroddiad fydd yn cael ei gyflwyno am gefnogaeth Cabinet Cyngor Gwynedd ar 7 Gorffennaf yn gosod cyfeiriad, gweledigaeth a blaenoriaethau ar gyfer maes Ailgylchu a Gwastraff yn y sir ar gyfer y blynyddoedd i ddod.
Yn dilyn holi barn trigolion a sefydliadau’r sir, mae dogfen Strategaeth Gwastraff ac Ailgylchu Gwynedd yn gosod amcanion am sut bydd y Cyngor yn cydweithio efo pobl leol a phartneriaid allweddol eraill i wella cyfraddau ailgylchu, lleihau effaith amgylcheddol, a moderneiddio gwasanaethau gwastraff.
Mae’r adroddiad a fydd yn derbyn ystyriaeth y Cabinet hefyd yn amlygu ffrwd ariannu ar gyfer cefnogi’r gwelliannau hyn. Bydd sicrhau’r cyllid yn hanfodol i wireddu amcanion y Strategaeth ac i alluogi’r Cyngor i wella gwasanaethau, cwrdd gofynion statudol, ac ymateb i bwysau ariannol a gweithredol.
Dywedodd y Cynghorydd Craig ab Iago, Aelod Cabinet Amgylchedd Cyngor Gwynedd:
“Mae ailgylchu a gwastraff yn rhywbeth sy’n rhan o fywyd pob un ohonom ar draws Gwynedd - rhoi sbarion bwyd yn y cadi adref neu ymweld a’n canolfannau ailgylchu leol, a hyd yn oed ail-ddefnyddio neu drwsio eitemau a rhoi bywyd newydd iddynt.
“Mae’r Strategaeth Gwastraff ac Ailgylchu yma yn nodi cyfeiriad clir yr ydym yn anelu ato fel Cyngor a Sir – sef ailfeddwl sut ydym yn trin ein gwastraff, nid fel problem ond fel adnodd gwerthfawr, a symud tuag at economi gylchol wirioneddol.
“Diolch i bawb wnaeth gymryd y cyfle i rannu eu barn yn yr arolwg ar y Strategaeth, mi wnaeth hynny amlygu cefnogaeth i’r cyfeiriad ar gyfer atal gwastraff, pwysigrwydd ailddefnyddio ac ailgylchu, a’r angen ni fel Cyngor wneud mwy i esbonio’r gwasanaethau sydd ar gael.
“Er fod heriau amgylcheddol a hinsawdd yn heriau byd-eang, mae’r Strategaeth yma yn dangos sut yr ydym am chwarae ein rhan yn lleol.”
Mae’r Strategaeth Gwastraff ac Ailgylchu yn cynnwys chwe prif amcan ar gyfer y cyfnod hyd at 2030, sef:
- Cyfathrebu ac Ymgysylltu: annog newid ymddygiad cadarnhaol drwy gyfathrebu clir gyda thrigolion a rhanddeiliaid eraill.
- Lleihau, Ailddefnyddio a Thrwsio: lleihau gwastraff wrth y ffynhonnell a hyrwyddo ailddefnyddio a thrwsio.
- Cynyddu Ailgylchu: gwella gwasanaethau a gallu i bobl waredu eitemau’n y modd mwyaf effeithlon a newid ymddygiad i wella lefelau ailgylchu.
- Darparu Gwasanaeth o Ansawdd Uchel: sicrhau gwasanaeth dibynadwy ac effeithlon drwy fuddsoddi mewn systemau a thechnoleg.
- Cyflawni Sero Net: lleihau allyriadau drwy ddatgarboneiddio’r fflyd a buddsoddi mewn ynni adnewyddadwy.
- Isadeiledd sy’n Addas i’r Dyfodol: buddsoddi mewn isadeiledd modern a strategol.
Mae copi o’r adroddiad fydd yn cael ei gyflwyno i Gabinet Cyngor Gwynedd, gan gynnwys Strategaeth Gwastraff ac Ailgylchu Cyngor Gwynedd i’w weld yma.