Storiel yn Dathlu Degawd o Gelf a Chymuned
Dyddiad: 26/06/2026
Mae Storiel, amgueddfa ac oriel gelf Gwynedd ym Mangor, yn dathlu carreg filltir arbennig eleni wrth nodi 10 mlynedd ers agor ei drysau i’r cyhoedd.
Agorwyd Storiel ar 30 Ionawr, 2016 ar ôl prosiect trawsnewid gwerth £2.6 miliwn a roddodd fywyd newydd i Balas yr Esgob fel cartref i orielau amgueddfaol, celf gyfoes, siop, caffi a gofod cymunedol.
Dros y degawd diwethaf mae Storiel wedi croesawu degau o ysgolion, grwpiau cymunedol a dros 370,000 o ymwelwyr. O agoriadau gwaith celf i berfformiadau byw a gweithdai creadigol, mae’r lleoliad wedi dod yn ganolbwynt bywiog i gelf a diwylliant yng Ngwynedd.
Er mwyn nodi a dathlu’r pen-blwydd arbennig mae diwrnod llawn gweithgareddau wedi ei drefnu ar ddydd Sadwrn, 4 Gorffennaf 2026.
Mae’r gweithgareddau yn cynnwys:
- Teithiau tywys o’r casgliadau
- Gweithdy Ffosil Llechi gyda Hannah Coates-Shea
- Agoriad swyddogol arddangosfa LLORIOG // GWALLUS a sgwrs gyda’r artist Erin Hughes
- Agoriad swyddogol arddangosfa Toria Cameron a chyflwyniad i’r gwaith gan Helen Rees Leahy
- Gweithdy 'Zines' gyda Elin Angharad
- Sgiliau pêl droed a gemau gyda Byw’n Iach
- Gweithgareddau hwyliog gyda Gisda
Fel rhan o’r gwaith paratoi ar gyfer y dathlu mae Storiel yn gwahodd pobl leol i rannu eu hatgofion a’u profiadau o ymweld drwy anfon clip fideo byr (portread) er mwyn eu dangos yn y digwyddiad a’u rhannu dros y misoedd nesaf: storiel@gwynedd.llyw.cymru
Dywedodd y Cynghorydd Medwyn Hughes, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros Economi a Chymuned:
“Rydym yn falch iawn o Storiel – mae’n leoliad pwysig i drigolion Bangor a’r sir i gyd sydd yn dathlu hanes a diwylliant Gwynedd. Mae’n lwyfan pwysig i artistiaid a gwneuthurwyr o Gymru ac i bobl o bob oed gymryd rhan mewn gweithgareddau sy’n meithrin eu creadigrwydd.
“Mae’r bartneriaeth gryf sydd rhwng Cyngor Gwynedd a Phrifysgol Bangor wedi galluogi Storiel i barhau i ddatblygu a darganfod ffyrdd newydd o ddod â phobl ynghyd i fwynhau straeon a chelf ar eu stepan drws.”
Ychwanegodd Gwenan Hine, Ysgrifennydd y Brifysgol, Prifysgol Bangor:
“Rydym yn falch ofnadwy o'n partneriaeth sydd wedi bodoli ers dros ddegawd bellach efo Cyngor Gwynedd i ddiogelu casgliadau Storiel a Phrifysgol Bangor. Mae'r cydweithio yn sicrhau gofal casgliadau o'r ansawdd orau yn ogystal â mynediad atynt i'n cymunedau a'n myfyrwyr.”
Mae staff a Chyfeillion Storiel yn edrych mlaen i groesawu ymwelwyr i Storiel rhwng 10am a 4pm ar 4 Gorffennaf, 2026.
Mae’r holl weithgareddau am ddim, ond mae angen archebu lle ar gyfer y gweithdai o flaen llaw drwy wefan Storiel: Penblwydd #STORIEL10 - Storiel (Cymru)
Yn ogystal â dathliadau fis Gorffennaf, mae arddangosfeydd a gweithdai di-ri wedi eu trefnu trwy gydol 2026 - ewch i’r gwefan i ddarganfod mwy: www.storiel.cymru