Pont Sarnau newydd yn agor i'r cyhoedd yn Nyffryn Ogwen
Dyddiad: 10/06/2026
Mae Cyngor Gwynedd wedi dathlu agoriad swyddogol Pont Sarnau yn ardal Bethesda, gan nodi carreg filltir bwysig yn y gwaith o wella llwybrau teithio llesol yn Nyffryn Ogwen.
Mae’r strwythur newydd 26-metr yn uwchraddio’r hen bont droed a oedd wedi cyrraedd diwedd ei hoes. Roedd yr hen Bont Sarnau wedi cynnig cyswllt allweddol i gerddwyr yn yr ardal am ymhell dros ganrif.
Wrth siarad yn yr agoriad swyddogol a oedd yn cynnwys nifer o bartneriaid allweddol i’r prosiect ynghyd ag aelodau Fforwm Mynediad Lleol, dywedodd y Cynghorydd Craig ab Iago, Aelod Cabinet Amgylchedd Cyngor Gwynedd:
“Rydw i’n falch iawn o weld Pont Sarnau newydd yn agor i’r cyhoedd. Dyma brosiect sy’n amlygu ein bod fel Cyngor am wella cyfleoedd teithio cynaliadwy – gan gynnig opsiynau teithio ar droed neu olwyn ar gyfer teithiau dydd i ddydd ac ar gyfer hamddena.
“Mae Lôn Las Ogwen yn adnodd gwerthfawr iawn yma yn yr ardal, ac yn dilyn gwelliannau i bontydd troed yn ardal Porth Penrhyn a gwella hygyrchedd y llwybr yn y misoedd diwethaf.
“Dyma’r cam diweddaraf mewn rhaglen ehangach o welliannau, ac rwy’n obeithiol y byddwn yn gweld rhagor o ddatblygiadau i wella llwybrau beicio a cherdded yn Nyffryn Ogwen yn y blynyddoedd i ddod.”
Dywedodd y Cynghorydd Medwyn Hughes, Aelod Cabinet Economi a Chymuned y Cyngor:
“Mae Tirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru wedi bod yn Safle Treftadaeth y Byd UNESCO ers Gorffennaf 2021, ac un o’n prif amcanion wrth sicrhau’r statws oedd cefnogi adfywio ein cymunedau llechi yn economaidd, yn gymdeithasol ac yn ddiwylliannol, gan ddathlu rôl unigryw’r ardal.
“Ond nid y chwarel yn unig oedd yn bwysig, roedd y cysylltiadau trafnidiaeth – y rheilffordd a Phorth Penrhyn yn hollbwysig i’r diwydiant. Mae Lôn Las Ogwen yn barhad o’r treftadaeth hwnnw, ac yn sicrhau gwerth pellach i’w gwaddol hwnnw er budd pobl Dyffryn Ogwen a rheini sy’n ymweld â’r ardal.”
Wrth agor y bont yn swyddogol, dywedodd y Cynghorydd Elin Walker Jones, Cadeirydd Cyngor Gwynedd:
“Mae’r prosiect hwn yn ffrwyth llafur cydweithio arbennig ar draws adrannau’r Cyngor ac â’n partneriaid.
“Roeddwn i’n hynod falch o fod yn rhan o agor y bont newydd - mae’n dod â buddion amgylcheddol, iechyd a chymdeithasol i’r ardal, ac rydym yn falch iawn o weld y cyswllt pwysig hwn ar agor unwaith eto.”
Ynghyd â Chyngor Gwynedd, roedd cynrychiolwyr o Gyngor Tref Bethesda, Fforwm Mynediad Lleol Arfon a Dwyfor, y prif gontractwr OBR Construction ac eraill yn bresennol ar gyfer yr agoriad.
Mae’r gwaith yn rhan o gynllun Llewyrch o’r Llechi; rhaglen buddsoddi ddiwylliannol a ariennir gan Llywodraeth y DU a’i arweinir gan Gyngor Gwynedd. Mae’n rhan o gyfres o welliannau yn deillio o ddynodiad Safle Treftadaeth y Byd Tirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru.
Ar ôl y seremoni, gwahoddwyd y mynychwyr i weld y gwaith diweddar i greu tanffordd gwartheg (cattle underpass) a olygodd fod modd tynnu chwech giât oedd ar drywydd Lôn Las Ogwen. Roedd hyn yn golygu fod defnydd y Lôn Las yn fwy hwylus, tra hefyd yn sicrhau nad yw gweithgareddau amaethu naill ochr y Lôn Las yn cael eu heffeithio.