Partneriaid Gogledd Cymru yn annog pawb i aros yn ddiogel yn y gwres
Dyddiad: 24/06/2026
Mae Gogledd Cymru o dan rybudd tywydd Oren ar hyn o bryd, ac mae disgwyl i'r tymheredd barhau i fod yn uchel drwy’r wythnos.
Mae gwasanaethau brys, awdurdodau lleol, iechyd a phartneriaid eraill yn cydweithio fel rhan o Fforwm Gwydnwch Lleol y Gogledd i fonitro'r sefyllfa ar draws y rhanbarth ac i ymateb i unrhyw broblemau.
Anogir trigolion ac ymwelwyr â Gogledd Cymru i gymryd ychydig o gamau ychwanegol i gadw’n ddiogel yn y gwres.
Cadw’n ddiogel yn y gwres
- Cadwch lygad ar eraill
- Chwiliwch am gysgod rhwng 11am a 3pm
- Gwisgwch eli haul SPF 30+
- Gwisgwch het, sbectol haul a dillad llac
- Yfwch ddigon o ddŵr
Lleihau peryglon tân
- Peidiwch â dechrau tanau
- Paciwch bicnic, nid barbeciw
- Gwaredwch sigarennau yn ddiogel
- Ewch â’ch sbwriel adref efo chi
Cadw’n ddiogel o amgylch dŵr
- Gall dŵr fod yn beryglus o oer er y tywydd poeth. Osgowch neidio i ddŵr agored i oeri - cofiwch fynd i mewn i'r dŵr yn araf i leihau'r risg o sioc dŵr oer.
- Gall nofio neu blymio mewn dŵr agored yn gallu bod yn beryglus, yn enwedig mewn hen byllau chwarel neu ger rhaeadrau. Mae posibilrwydd fod peryglon yn cuddio o dan wyneb y dŵr, er enghraifft malurion neu lechi miniog. Cymrwch ofal hefyd o’r llawn a cheryntau y môr ac afonydd.
- Os ewch chi i drafferth yn y dŵr, cofiwch 'Arnofiwch i Aros yn Fyw'.
- Os gwelwch chi rywun mewn trafferth, peidiwch byth â mynd i mewn i'r dŵr eich hun. Ffoniwch 999.
Teithio
- Ystyriwch a yw eich taith yn angenrheidiol? Allwch chi deithio ar adeg wahanol o'r dydd neu ei ohirio am ddiwrnod arall? Mae hyn yn arbennig o wir ar gyfer rheini sy’n fregus, sydd â chyflyrau meddygol neu os ydych yn teithio gyda phlant bach. Cofiwch y gall y tymheredd mewn cerbyd godi’n gyflym a bob o beryg i’r rhai sy’n teithio yn y car.
- Os byddwch chi'n teithio ar y ffordd, ewch â digon o ddŵr gyda chi, cynlluniwch eich seibiannau, disgwyliwch rywfaint o aflonyddwch a gofalwch am eich gilydd.
- Os byddwch chi'n teithio ar gludiant cyhoeddus, yfwch ddigon a chaniatewch amser ychwanegol ar gyfer eich taith, mae’n bosib y bydd y tywydd poeth yn tarfu ar y gwasanaethau
Os ydych yn ymweld â mannau poblogaidd
- Parciwch yn gyfrifol
- Dim ond lle caniateir gwersylla y dylid gwneud hynny
Gwiriwch y newyddion diweddaraf a gwnewch yn siŵr fod gennych fanylion cyswllt brys
- Bydd rhai gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu heffeithio gan y tywydd eithafol
- Edrychwch ar wefan neu gyfrifon cyfryngau cymdeithasol perthnasol am y newyddion diweddaraf, yn enwedig os ydych yn teithio yn unswydd ar gyfer gwasanaeth penodol
- Adroddwch broblemau sydd wedi codi yn sgil y tywydd eithafol i’r awdurdod perthnasol yn unol a’r trefniadau arferol
Am y cyngor a'r wybodaeth ddiweddaraf, dilynwch ffynonellau dibynadwy ar y cyfryngau cymdeithasol ac ar-lein.