Cynllun 'Neges mewn Potel' ar gael i drigolion Gwynedd

Dyddiad: 19/06/2026

Mae Cyngor Gwynedd yn annog pobl sydd â chyflyrau meddygol neu sy’n fregus i fod yn rhan o gynllun cenedlaethol a allai arbed amser hanfodol mewn argyfwng.

Mae’r Cyngor yn cydweithio gyda partneriaid lleol i hyrwyddo’r cynllun ‘Neges mewn Potel’ – sef ffordd o gadw manylion personol a meddygol allweddol lle mae’r gwasanaethau brys yn gwybod i edrych amdano mewn argyfwng.

Sefydlwyd y cynllun gan Lions Clubs International British Isles,  ac mae’n cynnwys ffurflen i gofnodi manylion megis alergeddau, cyflyrau iechyd, meddyginiaeth, a chysylltiadau brys. Mae’r cyfan yn cael ei gadw’n ddiogel mewn potel fach gyda chroes werdd arni yn yr oergell.

Mae sticeri â chroes werdd hefyd yn cael eu darparu i’w harddangos yn y cartref, gan dynnu sylw’r gwasanaethau brys at bresenoldeb y botel.

Os bydd angen triniaeth yn yr ysbyty, gellir trosglwyddo’r ‘Neges mewn Potel’ i staff yn yr ysbyty.

Mae Cyngor Gwynedd yn barod wedi dechrau dosbarthu poteli i drigolion sy’n derbyn gwasanaethau gofal neu deleofal gan y Cyngor.  Mae  poteli hefyd ar gael yn rhad ac am ddim  yn  y dair Siop Gwynedd (Caernarfon, Dolgellau, Pwllheli) neu Llyfrgelloedd Gwynedd.

Dywedodd y Cynghorydd Dilwyn Morgan, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros Oedolion, Iechyd a Llesiant:

“Mae’r cynllun yn ffordd syml ond hynod effeithiol o sicrhau bod gwybodaeth hanfodol ar gael i’r gwasanaethau brys. Gall wneud gwahaniaeth mawr mewn argyfwng, gan roi tawelwch meddwl i unigolion a’r rhai sy’n goflau amdanynt.

“Dwi’n falch iawn ein bod wedi derbyn nawdd gan y Gronfa Integreiddio Rhanbarthol Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar gyfer cynllun pwysig fel yma a fydd yn gwneud gwahaniaeth i drigolion Gwynedd a’u teuluoedd.”

Os ydych chi’n rhywun sy'n darparu neu'n bwriadu darparu gofal di-dâl i oedolyn neu blentyn anabl - boed yn aelod o’r teulu, cymar neu ffrind cofiwch fod cerdyn adnabod ar gael.

Mae Gwasanaeth Cynnal Gofalwyr yn darparu cymorth a chefnogaeth amrywiol i ofalwyr di-dâl yng Ngwynedd. 

Cofrestrwch gyda’r Gwasanaeth i gael eich cerdyn gofalwyr a mynediad at wybodaeth a chefnogaeth bellach: 

www.gwynedd.llyw.cymru/gofalwyr

Nodiadau

Gwefan Lions Clubs International British Isles:

The History of Message in a Bottle - Lions Clubs International British Isles

Ariannwyd y cynllun hwn yng Ngwynedd gan Gronfa Integreiddio Rhanbarthol Iechyd a Gofal Cymdeithasol Llywodraeth Cymru.