Cyngor Gwynedd yn cadarnhau ei ymrwymiad i barch mewn bywyd cyhoeddus
Dyddiad: 26/06/2026
Yr wythnos diwethaf, daeth aelodau etholedig Cyngor Gwynedd ynghyd i nodi 10 mlynedd ers marwolaeth drasig a dychrynllyd yr Aelod Seneddol Jo Cox. Roedd yn gyfle i fyfyrio ar ei bywyd, ei gwasanaeth cyhoeddus, a’r neges bwerus a hyrwyddodd - sef bod “gennym lawer mwy yn gyffredin na’r hyn sy’n ein gwahanu.”
Roedd y digwyddiad i gofio Jo Cox, a hefyd i fyfyrio ar farwolaeth Syr David Amess AS, a lofruddiwyd yn 2021 wrth wasanaethu ei gymuned, yn ailddatgan ymrwymiad y cynghorwyr nad oes lle i drais na bygythiad mewn gwleidyddiaeth.
Mewn byd sy’n gynyddol ymosodol a rhanedig, mae pryder yn parhau i dyfu ynghylch y ffordd y caiff y rhai sy’n gwasanaethu mewn bywyd cyhoeddus eu trin. Dengys tystiolaeth fod 72% o gynghorwyr wedi profi rhyw fath o fygythiad gan gynnwys bygythiadau llafar neu ymddygiad mwy difrifol - yn ystod y 12 mis diwethaf. Mae hyn yn tynnu sylw at yr angen i hyrwyddo parch, dealltwriaeth a diogelwch i gynrychiolwyr etholedig ar bob lefel.
Yn gynharach eleni, derbyniodd Aelodau’r Cyngor gynnig yn cefnogi ymgyrch yr Addewid Cwrteisi a Pharch. Drwy’r ymrwymiad hwn, mae cynghorwyr Cyngor Gwynedd wedi addo gosod esiampl o’r safonau uchaf o barch a chwrteisi yn eu hymddygiad, yn eu hymwneud â’i gilydd ac â’r cyhoedd. Yn ei dro, maent yn galw am i’r un parch gael ei ddangos tuag atynt hwy hefyd.
Dywedodd y Cynghorydd Nia Jeffreys, Arweinydd Cyngor Gwynedd:
“Mae llofruddiaeth drasig Jo Cox 10 mlynedd yn ôl yn ein hatgoffa fod y tensiynau a’r casineb sy’n gallu ymddangos mewn gwleidyddiaeth yn cael canlyniadau gwirioneddol a difrifol.
“Fel aelodau etholedig, rydym yn derbyn y bydd pobl yn anghytuno á ni – dyna natur democratiaeth. Ond ni ddylai unrhyw un sy’n gwasanaethau eu cymuned wynebu bygythiadau, sarhad na braw oherwydd eu gwaith cyhoeddus.”
Dywedodd y Cynghorydd Angela Russell, Arweinydd y grŵp Annibynnol ar Gyngor Gwynedd:
“Mae’n bwysig cael digwyddiadau fel hyn i gofio am Jo Cox ac i ddysgu mwy am sut i ddiogelu’n hunain wrth i ni weithio.
“Mae angen i ni ddysgu i fod yn fwy caredig ac annwyl efo’n gilydd, ac mae angen i ni ddysgu o’r hyn rydym wedi ei glywed heddiw wrth symud ymlaen.”
Dywedodd y Cynghorydd Stephen Churchman, Arweinydd y grŵp Democratiaid Rhyddfrydol ar Gyngor Gwynedd:
“O bryd i’w gilydd, mae’n rhaid i ni wneud penderfyniadau sydd ddim bob amser yn boblogaidd, ac mae’n ymddangos bod rhai pobl yn gwrthwynebu’r penderfyniadau mae cynghorwyr yn eu gwneud.
“Mae angen i ni godi ymwybyddiaeth o ddiogelwch ac o agweddau pawb - gan gynnwys cynghorwyr... beth bynnag yw eich barn wleidyddol, parchwch eich gilydd, gofalwch amdanoch eich hun wrth ymgyrchu, a chadwch yn ddiogel.”