Cam arall ymlaen i Ysgol Bontnewydd
Dyddiad: 11/06/2026
Mae prosiect cyffrous gan Gyngor Gwynedd i drawsnewid ysgol gynradd ac adnoddau cysylltiedig ym mhentref Bontnewydd yn cymryd camau breision ymlaen.
Gyda’r gwaith o ddatblygu Campws Cymunedol Bontnewydd bellach wedi mynd drwy’r broses Cynllunio, bydd disgyblion, staff a’r gymuned ehangach yn falch o weld fod gwaith wedi dechrau ar y safle.
Mae buddsoddiad gwerth £18.5 miliwn yn cael ei wneud yn yr ysgol, fydd yn sicrhau gofod modern i ddarparu addysg gynradd i 210 o blant, ynghyd â dosbarth meithrin ar gyfer 30 o blant, cylch meithrin pwrpasol, a dosbarth addas ar gyfer disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY). Bydd yr adeilad hefyd yn cynnwys adnoddau modern a hyblyg ar gyfer defnydd y gymuned leol.
Mae datblygu’r ysgol newydd yn bosib diolch i fuddsoddiad sylweddol gan Lywodraeth Cymru ynghyd â chyfraniad bychan gan Gyngor Gwynedd. Ysgol Bontnewydd oedd un o ddim ond tair ysgol drwy Gymru i ennill buddsoddiad 100% o hyd at £15 miliwn drwy Her Ysgolion Cynaliadwy’r Llywodraeth, er mwyn adeiladu ysgolion ecogyfeillgar ac amgylcheddol gynaliadwy.
Dywedodd y Cynghorydd Dewi Jones, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros Addysg:
“Bydd yr ysgol newydd yn darparu amgylchedd dysgu modern, cynaliadwy ac ysbrydoledig i blant a’r gymuned am flynyddoedd i ddod. Mae cael sêl bendith y pwyllgor cynllunio yn garreg filltir arall o bwys, sy’n golygu gall y datblygwyr fwrw ymlaen i ddymchwel yr adeilad presennol dros wyliau’r haf cyn dechrau ar y gwaith adeiladu.
“Mae’r datblygiad yn dangos sut y gall adeiladu carbon isel ac egwyddorion yr economi gylchol gael eu rhoi ar waith mewn prosiectau cyhoeddus.
“Er enghraifft, bydd yr ysgol newydd yn ail-ddefnyddio brics, llechi a choed o ysgol arall ym Mangor a ddad-adeiladwyd yn ddiweddar. Wedi iddi agor, hon fydd un o’r ysgolion mwyaf uchelgeisiol o ran lleihau carbon yng Nghymru.”
Dywedodd y Cynghorydd Menna Trenholme, aelod lleol ar Gyngor Gwynedd dros Bontnewydd:
“Mae Ysgol Bontnewydd a’r ganolfan wedi bod wrth galon y gymuned ers cenedlaethau ac mae pawb yn y gymuned yn edrych ymlaen i weld y gwaith ar yr ysgol a’r adnoddau cymunedol newydd.
“Rydw i’n sylweddoli fod codi’r ysgol newydd ar yr un safle yn her a bod y plant a’u hathrawon eisoes wedi symud i ddosbarthiadau dros dro. Rwy’n falch fod pawb yn gallu tynnu i’r un cyfeiriad ac y bydd y cyfnod nesaf yn gyfle hefyd i’r plant gymryd rhan mewn gweithgareddau i ddysgu am bensaernïaeth a thechnoleg adeiladu.
“Rydym i gyd yn edrych ymlaen at weld yr ysgol newydd yn agor ei drysau yng ngwanwyn 2028.”
Ychwanegodd Owain Ellis, Cadeirydd Llywodraethwyr Ysgol Bontnewydd:
“Mae hwn yn gyfnod arbennig iawn i Ysgol Bontnewydd a’r gymuned gyfan. Mae gweld y gwaith yn dechrau ar y safle yn garreg filltir bwysig ar y daith gyffrous yma i gyflawni’r nod o adeiladu ysgol gynaliadwy ar gyfer dysgwyr Ysgol Bontnewydd am flynyddoedd i ddod.
“Rydym yn hynod falch fod y prosiect wedi cael ei ddewis fel un o ddim ond tair ysgol ledled Cymru i ennill yr Her Ysgolion Cynaliadwy, Llywodraeth Cymru - cydnabyddiaeth o’r weledigaeth arloesol ac uchelgeisiol gan ddysgwyr Ysgol Bontnewydd a’r Tîm Prosiect sydd wrth wraidd y cynllun hwn.
“Bydd y campws newydd nid yn unig yn darparu cyfleusterau addysg o’r radd flaenaf i’n plant, ond hefyd yn creu canolbwynt cynaliadwy a modern i’r gymuned ehangach. Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu at y gwaith, ac edrychwn ymlaen yn fawr at weld y prosiect yn datblygu dros y misoedd nesaf.”
Dywedodd y Gweinidog Cabinet Llywodraeth Cymru dros Addysg a'r Iaith Gymraeg, Anna Brychan:
“Fel prosiect Her Ysgolion Cynaliadwy sy'n arloesi ac yn arwain y ffordd ym maes cynaliadwyedd, mae'r prosiect hwn yn cyd-fynd â'n Maniffesto a'n huchelgais 100 Diwrnod Cyntaf o ran codi safonau addysgol a manteisio ar gyfleoedd cynaliadwy drwy fentrau Net Zero Carbon a'r Economi Gylchredol. Hoffwn ychwanegu fy nghefnogaeth wrth i'r prosiect fynd i'r cam adeiladu ac edrychaf ymlaen at weld y prosiect yn datblygu yn ased addysgol wir gynaliadwy sy'n gwasanaethu'r gymuned gyfan.”
Dywedodd Alex Read, Cyfarwyddwr Read Construction:
“Mae prosiect Campws Cymunedol Bontnewydd yn cynrychioli cyfle pwysig i ddarparu ased cymunedol carbon isel o ansawdd uchel mewn partneriaeth â Chyngor Gwynedd. Mae Read Construction yn canolbwyntio ar gydweithio o’r cychwyn cyntaf gyda’r tîm dylunio, rhanddeiliaid lleol a’r gymuned ehangach i sicrhau bod y cynllun yn cyflawni ei amcanion cynaliadwyedd tra hefyd yn creu gwerth hirdymor ystyrlon trwy gyflogaeth leol, datblygu sgiliau ac ymgysylltu cymunedol.”