Y Bala yn dathlu agoriad cae astro cymunedol newydd

Dyddiad: 17/09/2025

Yn ddiweddar, daeth cymuned Y Bala ynghyd i ddathlu agoriad swyddogol cae astro ar safle Ysgol Godre’r Berwyn, yn dilyn gwaith adnewyddu sylweddol i sicrhau ased gwerthfawr i’r cenedlaethau nesaf.

Ar ôl y digwyddiad dathlu, cynhaliodd aelodau ieuengaf Clwb Hoci Y Bala eu sesiwn hyfforddi gyntaf ar yr arwyneb newydd i nodi’r agoriad swyddogol.

Ar ôl blynyddoedd o ddefnydd gan yr ysgol, y gymuned a chlybiau chwaraeon, roedd y cae gwreiddiol wedi cyrraedd diwedd ei oes. Ym mis Ebrill 2025, cwblhawyd uwchraddiad gwerth £250,000, gan ddarparu arwyneb modern sy’n addas i amrywiaeth eang o weithgareddau chwaraeon, llifoleuadau LED newydd, ac offer pwrpasol fel goliau ac offer cynnal a chadw.  Bwriedir creu gofod storio newydd a gosod cysgodfeydd timau newydd dros y misoedd nesaf er mwyn cwblhau’r cynllun.

Cafodd y prosiect ei wneud yn bosibl trwy bartneriaeth rhwng Clwb Hoci Y Bala, Ysgol Godre’r Berwyn, Cyngor Gwynedd a Hoci Cymru gyda chyfraniadau hael gan Chwaraeon Cymru drwy ei Grŵp Cydweithredol Chwaraeon ar Gaeau, a wnaed yn bosibl gyda chyllid Llywodraeth Cymru; Cronfa Cymunedau Eryri (Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri); Cronfa Cefnogi Adfywio Cymunedau (Cyngor Gwynedd) a Nuclear Restoration Services.

Yn ogystal, cyfrannodd clybiau chwaraeon lleol, cynghorau tref a chymuned, busnesau ac unigolion i’r prosiect, gyda hyd yn oed aelodau ieuengaf y clwb hoci yn codi arian trwy werthu breichledau wedi'u gwneud â llaw.

Meddai Lynda Williams, Cadeirydd Clwb Hoci Y Bala:

“Mae cael agor y cae astro newydd yn swyddogol yn ddiwrnod hynod o falch i ni fel Clwb, mae’r buddsoddiad yma’n golygu y bydd cyfleoedd i chwarae hoci yn medru parhau yn ardal y Bala am flynyddoedd i ddod, ac mae gweld cynifer o chwaraewyr dan 10 arno yn y sesiwn swyddogol cyntaf yn rhoi gobaith i ni fod dyfodol llewyrchus i’r Clwb.”

Dywedodd Aelod Lleol ward y Bala, y Cynghorydd Dilwyn Morgan:

“Mae’r cae astro newydd sbon yma’n dangos gwir fuddion gweithio mewn partneriaeth er lles ein cymuned. Dylai pawb a gyfrannodd deimlo’n wirioneddol falch o’u gwaith caled a’u hymrwymiad i wireddu’r cynllun uchelgeisiol yma.”

Ychwanegodd Prif Weithredwr Hoci Cymru, Paul Wapham:

“Mae'r cydweithrediad hwn, a gefnogir gan Lywodraeth Cymru ac ymdrechion ar y cyd gan Gyngor Gwynedd, Hoci Cymru a Chwaraeon Cymru, yn gam arwyddocaol tuag at ein gweledigaeth i 'danio angerdd dros hoci' ledled Cymru, gan greu mannau cynhwysol sy'n caniatáu i 'bawb ennyn diddordeb, cystadlu a pherfformio.”

Dywedodd Owen Hathway, Cyfarwyddwr Cynorthwyol ar gyfer Dirnadaeth, Polisi a Materion Cyhoeddus yn Chwaraeon Cymru:

”Gan ddefnyddio cyllid sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru, rydym yn gweithio ar y cyd â Chymdeithas Bêl-droed Cymru, Undeb Rygbi Cymru a Hoci Cymru i wneud yn siŵr ein bod yn buddsoddi yn y mathau cywir o gaeau artiffisial yn y rhannau cywir o Gymru i ddiwallu'r galw. Yn sicr, roedd y prosiect yma’n un sy'n werth ei gefnogi gan y bydd yn ased gwych i'r gymuned leol.”