Y Bartneriaeth sy'n rhoi help llaw i natur a bioamrywiaeth yng Ngwynedd
Dyddiad: 02/03/2026
Datganiad ar ran Partneriaeth Natur Gwynedd
Mae Partneriaeth Natur Gwynedd yn dathlu saith mlynedd o weithredu amgylcheddol effeithiol, gan ddod â chymunedau, ysgolion a sefydliadau lleol ynghyd i warchod a chryfhau bioamrywiaeth ar draws y sir.
Mae Partneriaeth Natur Gwynedd yn bartner rhanbarthol o gynllun Partneriaethau Natur Lleol (PNL) Cymru. Mae PNL yn gweithredu ym mhob sir yng Nghymru ac yn chwarae rhan hanfodol wrth fynd i’r afael â’r argyfwng natur. Maent yn darparu cyngor bioamrywiaeth; yn ariannu ac yn datblygu cyfleoedd cydweithio; yn grymuso grwpiau cymunedol i weithredu ac yn rhan o drefnu gweithgareddau ymgysylltu cymunedol.
Dros y saith mlynedd ddiwethaf, mae Partneriaeth Gwynedd wedi gweithredu nifer o brosiectau arloesol gyda’r nod o gryfhau bioamrywiaeth ac ymgysylltiad â natur ar draws y sir.
Mae’r prosiectau hyn yn amrywio o sefydlu dolydd blodau gwyllt ar dir sydd dan reolaeth y Cyngor (fel ymylon ffyrdd a safleoedd tirlenwi) ar draws y sir, i ddarparu cymorth a chyllid i nifer o brosiectau cymunedol a chefnogi prosiectau sy’n annog ffermio cynaliadwy.
Dywedodd Lea Connelly, Arweinydd tîm Bioamrywiaeth Cyngor Gwynedd: “Mae Partneriaeth Natur Gwynedd yn enghraifft ardderchog o sut y gall cydweithio rhwng cynghorau, cymunedau a grwpiau cadwraeth arwain at newid gwirioneddol.
“Un o’n prif flaenoriaethau yw cefnogi prosiectau sy’n creu ac yn cynnal cynefinoedd lle gall natur ffynnu, ac rydym yn falch o fod wedi gweithio gyda chymaint o gymunedau dros y saith mlynedd ddiwethaf.
“O brosiectau mawr fel trawsnewid cyn safle tirlenwi Llwyn Isa yn Clynnog Fawr, i rai llai fel darparu offer a chefnogaeth i drigolion cartref gofal Plas Hafan, Nefyn, i blannu eu tatws eu hunain. Mae’r prosiectau hyn oll yn bwysig—nid yn unig i warchod bywyd gwyllt ond hefyd i ailgysylltu pobl â natur yn eu bywydau bob dydd."
Mae’r Bartneriaeth yn parhau i ddatblygu Cynllun Gweithredu Adfer Natur Gwynedd, fydd yn arwain ymdrechion yn y dyfodol i ddiogelu cynefinoedd a rhywogaethau allweddol, mynd i’r afael â phwysau hinsawdd ac adeiladu gwytnwch ecolegol ar draws y sir. Bydd y cynllun yn cael ei gyhoeddi’n fuan.
Os oes gan eich cymuned syniad neu os hoffech weithio gyda’r Bartneriaeth ar brosiect sy’n fuddiol i natur, cysylltwch i drafod: partneriaethnatur@gwynedd.llyw.cymru
I gael mwy o wybodaeth ac i weld gwaith y Bartneriaeth, dilynwch Partneriaeth Natur Gwynedd ar Facebook ac Instagram, neu ewch i lnp.cymru/Gwynedd-cy