Storiel yn ymuno yn nathliadau 200 mlwyddiant Pont y Borth
Dyddiad: 17/03/2026
I ddathlu 200 mlynedd ers agor Pont y Borth mae arddangosfa newydd wedi agor yn Oriel Gymunedol Storiel, Bangor.
Mae’r arddangosfa yn cynnig cipolwg ar sut mae’r bont eiconig wedi ei darlunio dros y canrifoedd, gan ddefnyddio eitemau o gasgliad Storiel megis printiau topograffig, arteffactau, a sampler nodwydd o’r bont sy’n dyddio o’r 19eg ganrif.
Yn rhan o’r arddangosfa mae model trawiadol pum troedfedd o hyd o’r bont sydd wedi ei dylunio a’i hadeiladu gan Steve Guinness drwy ddefnyddio 10,000 o ddarnau Lego. Roedd Steve Guinness yn enillydd ar raglen ‘Lego Masters’ ar sianel deledu Channel 4 ac mae’n adnabyddus am ei frwdfrydedd dros greadigrwydd ac ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf wrth ddysgu drwy chwarae.
Mae Storiel yn galw ar drigolion Gwynedd i ymweld â’r arddangosfa a rhannu eu hatgofion a’u cysylltiadau personol â’r bont. Gellir cyfrannu drwy rannu delweddau, straeon o bwys, neu hyd yn oed luniau priodas gyda’r bont yn y cefndir. Gall ymwelwyr hefyd roi cynnig ar adeiladu eu pont Lego eu hun yn ystod eu hymweliad.
Dros yr wythnosau diwethaf mae sawl gweithdy Lego wedi eu cynnal gyda ysgolion lleol, gan roi cyfle i blant a phobl ifanc yr ardal ddysgu am beirianneg pontydd.
Bydd gweithdy am ddim i deuluoedd dan arweiniad Steve Guinness ‘The Brick Consultant’ yn cael ei gynnal ddydd Sadwrn, 28 Mawrth– mae’n ofynnol archebu lle o flaen llaw.
Meddai’r Cynghorydd Medwyn Hughes, Aelod Cabinet dros Economi a Chymuned, Cyngor Gwynedd:
“Mae Storiel yn ased diwylliannol pwysig ym Mangor, sy’n cynnig cyfle i drigolion Gwynedd archwilio eu hanes a’u treftadaeth drwy gasgliadau ac arddangosfeydd.
“Mae’r arddangosfa yn gyfle euraidd i nodi a dathlu 200 mlwyddiant Pont y Borth, i ddysgu am y campwaith, a chael blas ar gasgliad Storiel sy’n gysylltiedig â’r bont. Mae’n gyfle gwych hefyd i gasglu a nodi atgofion fydd yn ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf.
“Gwnewch y mwyaf o’ch ymweliad i Storiel drwy archwilio’r amgueddfa a’r orielau, neu alw draw am baned i’r caffi sydd wedi ail-agor yn ddiweddar.”
Mae mynediad i Storiel am ddim ac mae croeso i bawb.
Am ragor o wybodaeth ymwelwch â gwefan Storiel: www.storiel.cymru
Nodiadau
Mae LEGO® yn nod masnach Grŵp cwmnïau LEGO nad yw’n noddi, awdurdodi nac yn cymeradwyo’r arddangosfa a digwyddiadau hyn.