Halen y ddaear - Diolch i'r gweithwyr sydd wedi cadw Gwynedd i fynd drwy'r gaeaf
Dyddiad: 20/03/2026
Gyda arwyddion o’r gwanwyn yn codi calonnau llawer un, mae’n hawdd anghofio pa mor heriol bu’r gaeaf hwn ac hefyd am waith rheini sydd wedi helpu cymunedau drwy gyfnodau o eira, rhew a stormydd.
Yn ddiweddar, bu Arweinydd Cyngor Gwynedd, y Dirprwy Arweinydd a’r Aelod Cabinet sy’n gyfrifol am Wasanaethau Priffyrdd yn ymweld â Depo Afonwen ger Pwllheli. Roedd yr ymweliad yn gyfle i’r Cynghorwyr Nia Jeffreys, Menna Trenholme a June Jones gwrdd â rhai o’r staff graeanu, dysgu mwy am y gwaith a wneir ar draws y sir, a diolch iddynt yn bersonol am eu hymroddiad parhaus.
Rhwng misoedd Hydref ac Ebrill, mae swyddogion Cyngor Gwynedd yn cadw golwg fanwl ar amodau lleol ac yn gweithredu trefniadau cynnal gaeaf sefydledig. Mae hyn yn cynnwys:
- Mae swyddogion y Cyngor yn monitro’r amodau’n fanwl drwy ragolygon tywydd arbenigol, data o chwech o orsafoedd tywydd ar draws y sir a chamerâu traffig, er mwyn gallu gweithredu’n brydlon.
- Mae 23 o gylchdeithiau graeanu ar draws Gwynedd (6 yn Arfon, 6 yn Nwyfor a 11 ym Meirionnydd). Mae hyd at 60 o weithlu’r Cyngor ar y rota cynnal gaeaf.
- Pan fo tywydd garw, mae shifftiau graeanu’n rhedeg drwy’r dydd a dros nos.
- Mae gan y Cyngor 14,000 tunnell o raean wedi’i storio mewn cromenni ar draws y sir, yn ogystal â storio graean ar ran Llywodraeth Cymru.
- Mae’r staff yn aml-sgil: yn ogystal a’r gwaith graeanu dros y gaeaf, dros yr haf maent yn trwsio tyllau ac yn ail-wynebu ffyrdd. Maent hefyd yn cael eu galw i gynorthwyo pan fo damweiniau neu danwydd wedi gollwng ar y lôn.
- Mae staff o wasanaethau eraill y Cyngor yn camu i mewn i helpu’r timau graeanu pan fo’r amodau’n arbennig o heriol.
- Mae’r cerbydau graeanu yn cael eu cynnal a chadw gan y tîm Gwasanaeth Fflyd sydd yn sicrhau eu bod wastad yn barod ar gyfer ceisiadau graeanu.
Dywedodd y Cynghorydd Nia Jeffreys, Arweinydd Cyngor Gwynedd:
“Mae hi wedi bod yn bleser cael dod i Depo Afonwen a dwi’n awyddus i ddiolch i’r timau i gyd am y gwaith mae’n nhw’n ei wneud drwy gydol y gaeaf i gadw pobol Gwynedd yn saff ar ein lonydd.
“Mae’n nhw’n gweithio o Aberdyfi i Aberdaron, Bangor i’r Bala mewn amodau anodd iawn, a hynny yn aml drwy’r nos pan mae’r gweddill ohonom yn cael bod adref efo’n teuluoedd.
“Mae hi wedi bod yn agoriad llygaid i mi weld lle mae’r graean yn cael ei gadw ac i ddeall yr holl waith sydd tu cefn i bob rownd o raeanu. Dwi’n ddiolchgar iawn i bawb am eu gwaith.”
Meddai’r Cynghorydd Menna Trenholme, Dirprwy Arweinydd y Cyngor a’r Aelod Cabinet dros yr Adran Plant a Chefnogi Teuluoedd:
“’Nol yn mis Ionawr pan roedd rhannau mawr o Wynedd o dan orchudd o eira, roeddem yn gweld pa mor bwysig oedd gwaith y timau hyn. Hebddynt byddai staff allweddol eraill y Cyngor – fel gofalwyr a gweithwyr cefnogol – ddim wedi gallu gwneud eu gwaith angenrheidiol.
“Pan fo tywydd garw ar y gorwel, mae’n bwysig fod pob un ohonom yn paratoi gorau ag y gallwn. Mae gwybodaeth ddefnyddiol i helpu pobl Gwynedd ar gael ar wefan y Cyngor.”
Ychwanegodd y Cynghorydd June Jones, Aelod Cabinet gyda chyfrifoldeb dros Wasanaeth Priffyrdd Cyngor Gwynedd:
“Gyda’r dyddiau yn ymestyn a’r tywydd yn llawer mwyach, mae’n anodd cofio ‘nol i’r holl eira a rhew i ni ei gael ar ddechrau’r flwyddyn.
“Roedd yn ddiddorol cael dod i’r depo a clywed sut mae’r graean yn helpu i atal dŵr ar y ffordd rhag rhewi. Ond yn anffodus, os ydi’r tymheredd yn gostwng o dan tua -7°C, nid yw’r graean yn gweithio’n effeithiol a gall rhew ffurfio, a dwi’n deall fod hyn yn gallu bod yn rhwystredig i bobl.
“Yn yr un modd, os ydi eira trwchus yn disgyn ar ben haen o raean, nid yw’r halen yn gweithio’n effeithlon a nid yw’r eira a’r rhew yn dadmer. Mewn sefyllfa o’r fath, bydd ein staff yn defnyddio aradr i glirio’r eira ond mae hyn yn arafu’r gwaith.
“Mewn tywydd rhewllyd, y prif ffyrdd sy’n cael blaenoriaeth yw ffyrdd dosbarth A, ffyrdd i ysbytai, llwybrau trafnidiaeth gyhoeddus a ffyrdd i ysgolion. Wedi i'r gwaith yma gael ei gwblhau, bydd swyddogion yn mynd ymlaen i raeanu lonydd llai, sef ffyrdd dosbarth B.”
Mae mwy o wybodaeth am sut gellir paratoi ar gyfer tywydd garw a phob math o argyfyngau eraill ar gael ar wefan Cyngor Gwynedd: www.gwynedd.llyw.cymru/argyfwng