Dros £5.7 miliwn o grantiau trafnidiaeth i Wynedd ar gyfer 2026/7
Dyddiad: 19/03/2026
Mae Cyngor Gwynedd wedi derbyn cadarnhad o gyfanswm grantiau trafnidiaeth gwerth mwy na £5.7 miliwn ar gyfer y flwyddyn i ddod (2026/7). Bydd yr arian yma yn galluogi’r Cyngor i wireddu amrywiaeth o gynlluniau trafnidiaeth cynaliadwy ar draws y sir yn ystod y deuddeg mis nesaf.
Mae’r ffordd mae grantiau trafnidiaeth Llywodraeth Cymru yn cael eu dyrannu wedi newid. Bellach, ac yn unol â Chynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru, mae Cyngor Gwynedd wedi derbyn cadarnhad bydd y cynlluniau canlynol yn cael eu cyllido o’r Gronfa Trafnidiaeth Rhanbarthol ar gyfer 2026/7:
- Cwblhau cynllun Ffordd Penrhos, Bangor (£800,000)
- Cwblhau cynllun Chwilog-Afonwen (£900,000)
- Gwaith datblygol pellach ar gynllun Tywyn-Aberdyfi (£200,000)
- Cyllid craidd (£500,000) a fydd yn ariannu:
- gwaith paratoadol ac astudiaethau dichonoldeb ar gynlluniau teithio llesol amrywiol
- diweddaru’r Map Teithio Llesol
- gwaith hyrwyddo’r gwelliannau isadeiledd
- darparu storfa beics mewn ysgolion
- mân welliannau mewn cymunedau.
- Llwybrau diogel mewn cymunedau:
- Ysgol Maenofferen, Blaenau Ffestiniog (£240,000)
- Cynlluniau cyfalaf cludiant cyhoeddus:
- Seilwaith bysiau, Sherpa'r Wyddfa, G23 a Fflecsi (£1.5 miliwn)
- Cynlluniau cyfalaf priffyrdd:
- Gwelliannau Trafnidiaeth Llanbedr (£400,000)
- Gwaith uwchraddio isadeiledd draenio dŵr wyneb y ffordd ar yr A4085 rhwng Waunfawr a Chaeathro yn dilyn asesiadau diweddar (£400,000)
- Astudiaeth dichonoldeb ar gyfer atal llifogydd ar yr A499, Penrhos (£200,000)
- Porth Caernarfon - astudiaethau WelTAG i ddatblygu achos busnes cadarn ar gyfer ymyrraeth trafnidiaeth arfaethedig (£120,000)
- Cyfres o ymyraethau i wella diogelwch ffyrdd ar yr A496 rhwng Abermaw a Bontddu (£300,000)
- Cynllun Kerbcraft, Hyfforddiant Beicio Safonau Cenedlaethol a Pass Plus (£73,000)
- Cynlluniau cyfalaf gwefru cerbydau trydan:
- Parhau i weithredu cynllun gwefru cerbydau trydan yng Ngwynedd (£100,000)
Meddai’r Cynghorydd Craig ab Iago, Aelod Cabinet Amgylchedd Cyngor Gwynedd:
“Mae’r ffaith ein bod wedi llwyddo i sicrhau dros £5.7 miliwn o gyllid ar gyfer cyflwyno cyfres o gynlluniau trafnidiaeth mewn cymunedau ar draws y sir yn newyddion gwych.
“Mae’r buddsoddiad yma yn dyst i’r gwaith caled mae’r Cyngor wedi ei wneud er mwyn sicrhau fod cymunedau Gwynedd yn elwa o’r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol.
“Mewn cyfnod pan mae cyllid cyhoeddus yn brin, bydd y cyllid yma yn adnodd hollbwysig i ni fel Cyngor i allu cynnal, datblygu a gwireddu gwelliannau trafnidiaeth. Maent yn cynnwys nifer o gynlluniau teithio llesol fydd yn gwella opsiynau teithio heb ddibynnu ar geir ac ati, ynghyd a gwelliannau diogelwch ffyrdd, cludiant cyhoeddus a pharhau i ddatblygu rhwydwaith gwefru cerbydau.”
Mae rhagor o fanylion am grantiau trafnidiaeth a ddyfarnwyd i gynghorau gogledd Cymru ar gyfer 2026/7 i’w gweld yma.