Cynnydd da ar ganolfan gwasanaethau anableddau dysgu Dolgellau
Dyddiad: 17/03/2026
Mae’r gymuned yn ardal Dolgellau wedi cael cipolwg ar y cynnydd a’r datblygiadau wrth i waith symud ymlaen ar ganolfan newydd sbon i oedolion ag anableddau dysgu yn ardal Meirionnydd.
Bydd yr hwb newydd gan Gyngor Gwynedd, sy’n werth bron i £4 miliwn, yn rhoi cyfleoedd hyfforddiant a chefnogaeth i unigolion ag anableddau dysgu, a hefyd yn adnodd i’r gymuned ehangach.
Mae Canolfan Dolfeurig wedi bod yn rhan hollbwysig i gymuned Dolgellau a’r cylch ers cenedlaethau ac roedd y digwyddiad diweddar yn gyfle i swyddogion y Cyngor rannu cynlluniau terfynol ar gyfer y ddarpariaeth newydd. Yn ogystal, roedd yn gyfle i gael blas o’r cynlluniau arfaethedig i drosi Tŷ Meurig yn lety i oedolion gydag anableddau dysgu fyw gyda chefnogaeth.
Bydd yr hwb newydd yn cynnig cyfleodd hyfforddiant er mwyn cefnogi pobl gydag anableddau dysgu gymryd eu camau cyntaf i’r byd gwaith ac annog cydweithio ac integreiddio gyda’r gymuned leol. Roedd defnyddwyr gwasanaeth a’r gymuned leol yn bresennol i weld y datblygiadau.
Bydd yr adeilad hefyd yn cynnig adnoddau cymunedol, gan gynnwys caffi gyda theras i eistedd allan, ystafelloedd cyfarfod, a neuadd/gofod ar gyfer gweithgareddau cymunedol.
Dywedodd y Cynghorydd Dilwyn Morgan, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros Oedolion, Iechyd a Llesiant:
“Roedd yn braf gweld cynifer o’r gymuned a defnyddwyr gwasanaeth yn galw i mewn yn ystod y digwyddiad yn dangos diddordeb yn y cynlluniau a chael clywed mwy am ddatblygiadau’r Hwb.
“Rwy’n falch iawn o weld buddsoddiad sylweddol ar gynllun sydd mor bwysig i’r ardal. Mae cynnal hybiau fel hyn yn ein cymunedau yn rhan bwysig iawn o ethos y gwasanaeth anableddau dysgu, a dwi’n edrych ymlaen at weld yr adeilad yn agor yn swyddogol. Bydd yn gyfle i ddathlu a gweld defnyddwyr gwasanaeth, eu teuluoedd a’r gymuned yn defnyddio a mwynhau’r adnoddau arloesol newydd fydd yma yn Nolgellau.”
Ychwanegodd y Cynghorydd Dyfrig Siencyn, Aelod Lleol Gogledd Dolgellau:
“Mae cael canolfan modern sy’n addas i bwrpas i unigolion ag anableddau dysgu yng nghanol Dolgellau yn rhywbeth i’w groesawu’n fawr. Mae’n golygu y bydd gofod newydd hygyrch gyda’r adnoddau diweddaraf ar gael a fydd yn ganolbwynt i’r gymuned heddiw ac ar gyfer y dyfodol.”
Meddai’r Cynghorydd Linda Morgan, Aelod Lleol De Dolgellau:
“Roeddwn i'n falch iawn o gael y cyfle i weld y cynlluniau ar gyfer Dolfeurig, maen nhw'n drawiadol iawn ac rwy'n edrych ymlaen i'r Ganolfan gael ei chwblhau a'i hagor. Mae'r defnyddwyr gwasanaeth a'r staff yn teimlo'n gyffrous ac yn edrych ymlaen i'r Ganolfan agor hefyd.
"Mae Dolfeurig yn darparu buddion cymdeithasol, addysgol a therapiwtig hanfodol ac maent yn hyrwyddo annibyniaeth, gan wella sgiliau bywyd fel coginio a chyfathrebu ac ati. Mae'r Ganolfan yn cynnig gweithgareddau strwythuredig wedi'u teilwra, gofal personol a chymorth therapiwtig i roi hwb i hyder a lles. Mae'n lle diogel i ryngweithio, meithrin perthnasoedd a lleihau unigrwydd a gwella gwaith gyda chelf a chrefft y maent yn ei fwynhau.
"Mae'r cynlluniau'n cynnwys cysylltiad cymunedol gyda'r Caffi ac ati sy'n bwysig iawn ac sy'n ffynhonnell allweddol o gefnogaeth i'r Defnyddwyr Gwasanaeth a'u teuluoedd. Diolch arbennig i bawb sy'n ymwneud â'r adeilad gwych hwn."
Bydd yr hwb yn agor ei drysau yn nes ymlaen yn y flwyddyn, gyda trefniadau ar y gweill am agoriad swyddogol ddiwedd yr Haf, 2026.
Mae’r prosiect yn cael ei arwain a’i ariannu yn rhannol gan Cyngor Gwynedd, gyda nawdd arian grant Llywodraeth Cymru trwy’r Gronfa Gyfalaf Integreiddio ac Ail-gydbwyso Iechyd a Gofal Cymdeithasol (IRCF) a’r Gronfa Integredig (ICF).
Mae trefniadau i’r unigolion presennol gael cefnogaeth ar safleoedd amgen o fewn y gymuned leol tra fo’r gwaith yn mynd rhagddo.