Cyngor Gwynedd yn cael croeso ar ymweliad i ffatri Rehau ym Mlaenau Ffestiniog
Dyddiad: 24/03/2026
Roedd swyddogion ac aelodau etholedig Cyngor Gwynedd yn falch iawn o’r cyfle i ymweld yn ddiweddar gyda ffatri Rehau ar eu safle ym Mlaenau Ffestiniog, lle cafwyd cipolwg ar fuddsoddiadau sylweddol sy’n cael eu gwneud ar y safle.
Mae Rehau wedi bod yn gyflogwr sy’n chwarae rhan bwysig yn economi’r ardal ers blynyddoedd, ac mae’r cwmni yn parhau i ddatblygu fel gweithgynhyrchwyr allweddol gyda 220 o bobl leol yn gweithio yno.
Yn ystod yr ymweliad cafwyd gwybod am y gwaith i foderneiddio’r cyfleusterau a gwella’r prosesau cynhyrchu PVCu ar y safle, lle mae’r safle yn trosi miloedd o dunelli o ddeunyddiau wedi’u ailgylchu yn ddeunydd newydd ar gyfer cynhyrchu. Ers 2025, mae’r cwmni wedi ymrwymo i fuddsoddi dros £4 miliwn mewn offer newydd ac uwchraddio prosesau, gan cynyddu capasiti a gallu’r safle i ateb galw cynyddol.
Mae cynaliadwyedd yn rhan ganolog o waith Rehau. Mae’r rhaglen gynaliadwyedd yn ymestyn o ailgylchu, i arbed ynni, ac adolygu prosesau er mwyn lleihau effaith amgylcheddol. Mae’r ffatri hefyd yn elwa o fod wedi gosod paneli solar ar do’r ffatri yn Ionawr 2025, sydd yn cyfrannu at leihau ôl troed carbon y safle.
Yn ogystal â’i rôl economaidd, mae Rehau wedi meithrin perthynas agos gyda’r awdurdod lleol a nifer o fentrau cymunedol. Mae’r cwmni yn cydweithio gyda ysgolion y gymuned i godi ymwybyddiaeth o bynciau ‘STEM’ (Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg) a wedi buddsoddi i adnewyddu’r ystafell Dylunio a Thechnoleg yn Ysgol y Moelwyn er mwyn sicrhau bod pobl ifanc lleol yn medru datblygu sgiliau ac adeiladu gyrfaoedd hirdymor yn lleol.
Mae Cyngor Gwynedd yn croesawu’r buddsoddiadau sylweddol sy’n cael eu gwneud a chydnabod pwysigrwydd datblygiadau parhaus yn yr ardal.
Dywedodd y Cynghorydd Nia Jeffreys, Arweinydd Cyngor Gwynedd:
“Roedd yn bleser cael ymweld â Rehau a chyfarfod gymaint o bobol leol sydd yn gweithio yno, diolch yn fawr iddynt am y croeso cynnes .
“Gwych oedd clywed am y gwaith da sydd yn mynd ymlaen yn Blaenau Ffestiniog. Cefais fy nharo pa mor fodern a glân oedd y safle a'u hymrwymiad cadarn i warchod ein amgylchedd. Roedd gweld sut yr oedd hen ffenestri plastig yn cael eu hailgylchu a’i ail ddefnyddio i greu ffenestri newydd o’r safon uchaf yn hynod bositif.
“Da hefyd oedd clywed fod pobol o ar draws Ewrop yn ymweld â Blaenau er mwyn dysgu mwy am ymarfer da'r tîm yma o Wynedd. Dymunaf bob llwyddiant i’r gweithlu ac i’r cwmni.’
Ychwanegodd y Cynghorydd Medwyn Hughes, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros Economi a Chymuned:
“Mae Rehau yn chwarae rôl allweddol yn economi Blaenau Ffestiniog, ac yng Ngwynedd. Mae’r buddsoddiadau diweddar yn adlewyrchu hyder y cwmni yn y gweithlu lleol a’r safle ei hun. Mae’r safle yn cael ei gydnabod yn eang fel enghraifft o arfer da, yn rhannol oherwydd ymroddiad a gwaith caled y gweithwyr.
“Mae’r gwelliannau i brosesau, ynghyd â’r ffocws ar ddatblygu sgiliau, ac addysgu ein pobl ifanc yn gamau pwysig sy’n cryfhau dyfodol y diwydiant yn yr ardal.”
Meddai Dylan Roberts, Rheolwr Cynhyrchu Rehau:
“Mae llwyddiant diweddar y cwmni o gael ei gydnabod fel ‘Lle Da i Weithio’ (Great Place to Work©) am ddwy flynedd yn olynol yn brawf o’n buddsoddiad mewn pobl a’n hymrwymiad i feithrin diwylliant cadarnhaol, cefnogol ac uchelgeisiol sy’n rhoi lles a datblygiad y gweithlu wrth wraidd popeth a wneir. Pobl yw ein canolbwynt yma yn Rehau.”