Partneriaeth Natur Gwynedd yn croesawu'r cyhoedd i Sioe Nefyn
Dyddiad: 07/05/2026
Bu’n ddiwrnod gwych i Bartneriaeth Natur Gwynedd yn Sioe Nefyn yn gynharach yr wythnos hon, wrth iddynt gydweithio â phartneriaid lleol gan gynnwys AHNE, SAC Morol Pen Llyn a’r Sarnau a Ffermio Bro, i ymgysylltu â’r cyhoedd a rhannu gwybodaeth am waith cadwraeth yn ardal Pen Llŷn ag ar draws y sir.
Daeth nifer fawr o ymwelwyr draw i stondin y Bartneriaeth i gymryd rhan mewn gweithgareddau poblogaidd megis peintio wynebau, y gêm peli peillio, gwylio ffilmiau byr, a derbyn hadau blodau gwyllt i’w hau gartref. Roedd y digwyddiad yn gyfle gwerthfawr i bobl o bob oed ddysgu am brosiectau lleol ac am y gwaith pwysig sy’n cael ei wneud i reoli tir a môr er budd natur.
Dywedodd Lea Connelly, Arweinydd y Tîm Bioamrywiaeth yng Nghyngor Gwynedd:
“Mae Sioe Nefyn yn gyfle gwych i ni weithio law yn llaw â’n partneriaid sy’n rheoli tir a môr ym Mhen Llŷn. Drwy gydweithio ac ymgysylltu â’r cyhoedd, gallwn godi ymwybyddiaeth o’r prosiectau cadarnhaol sy’n digwydd yn lleol a dangos sut mae pawb yn gallu chwarae rhan mewn gwarchod natur.
“Edrychwn ymlaen i gael lluniau o’r blodau gwyllt mae pawb wedi ei lwyddo i dyfu adra -cofiwch rannu eich lluniau gyda ni.”
Hoffai Partneriaeth Natur Gwynedd ddiolch i bawb a ddaeth draw i ddweud helo ac i ddangos diddordeb yn y gwaith sy’n cael ei wneud i gefnogi bioamrywiaeth a natur yn lleol. Bydd y Bartneriaeth yn parhau i gydweithio â phartneriaid a chymunedau ar draws Gwynedd i sicrhau dyfodol cadarnhaol i natur.
Os oes gan eich cymuned syniad neu os hoffech weithio gyda’r Bartneriaeth ar brosiect sy’n fuddiol i natur, cysylltwch i drafod: partneriaethnatur@gwynedd.llyw.cymru
I gael mwy o wybodaeth ac i weld gwaith y Bartneriaeth, dilynwch Partneriaeth Natur Gwynedd ar Facebook ac Instagram, neu ewch i lnp.cymru/Gwynedd-cy