Lansiad Swyddogol Adeilad Newydd Gofal Plant Tywyn

Dyddiad: 28/05/2026

Mae gan fwy o blant fynediad i ddarpariaeth gofal a chwarae yn ardal Tywyn, diolch i fuddsoddiad gan Gyngor Gwynedd a Llywodraeth Cymru.

Yn ddiweddar, cafwyd agoriad swyddogol Cylch Meithrin Tŷ Mabon mewn adeilad newydd yn y dref, fydd yn darparu mwy o lefydd gofal plant. 

Dyluniwyd yr adeilad gyda’r nod o ddarparu amgylchedd cynnes, diogel ac ysbrydoledig lle gall plant ddysgu, chwarae a datblygu trwy brofiadau cyfoethog a gofal o’r safon uchaf. 

Mae agor yr adeilad newydd yma ar gyfer Cylch Tŷ Mabon yn garreg filltir gyffrous i’r gymuned leol, gan gynnig gwasanaeth newydd sy’n cefnogi plant, teuluoedd a dyfodol y Gymraeg yn yr ardal. Bydd y ddarpariaeth yn rhoi pwyslais ar lesiant plant, dysgu trwy chwarae, a meithrin ymdeimlad cryf o berthyn, creadigrwydd a chwilfrydedd.

Dywedodd y Cynghorydd Menna Trenholme, Aelod Cabinet Plant a Chefnogi Teuluoedd Cyngor Gwynedd: 

“Mae agor Tŷ Mabon yn foment arbennig iawn. Gweledigaeth y Cyngor yw creu lle ble gall plant ffynnu, teuluoedd deimlo eu bod yn cael eu cefnogi, a’r gymuned elwa o ddarpariaeth gofal plant o ansawdd uchel yma yn Nhywyn.

“Diolch i bawb sydd wedi cefnogi’r weledigaeth hon, a’i dod yn fyw, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, Adran Eiddo Cyngor Gwynedd, Teulu Gwynedd, Cylch Meithrin Tŷ Mabon, Mudiad Meithrin, Ysgol Uwchradd Tywyn a’r gymuned ehangach.” 

Dywedodd y Cynghorydd Anne Lloyd Jones, aelod o Gyngor Gwynedd dros Dywyn.

“Mae’n bleser cael bod yma heddiw i’r Lansiad Swyddogol. Diolch i bawb sydd wedi bod yn rhan o’r broses, mae’n adnodd gwych i’r ardal” 

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â: TeuluGwynedd@gwynedd.llyw.cymru