Grantiau ar gael i grwpiau cymunedol a gwirfoddol Gwynedd

Dyddiad: 12/05/2026

Mae Cyngor Gwynedd yn annog grwpiau gwirfoddol a chymunedol ledled Gwynedd i ystyried gwneud cais am grantiau i gefnogi amrywiaeth o brosiectau gyda’r nod o wella ansawdd bywyd trigolion y sir a’i chymunedau.

Gyda’r dyddiad cau yn agosáu mae’r Cyngor am atgoffa grwpiau gwirfoddol a chymunedol y sir i ddanfon eu ceisiadau i mewn.

Mae grantiau cyfalaf a / neu refeniw ar gael trwy bedwar cynllun gwahanol:

Cronfa Cefnogi Cymunedau

Mae’r gronfa yn cynnig grantiau Cyfalaf hyd at £20,000 a/neu grantiau Refeniw hyd at £10,000. Nod y gefnogaeth yw annog cymunedau i wireddu eu hamcanion drwy gymryd rôl fwy rhagweithiol yn eu hardaloedd lleol.

Eleni mae dros £200,000 o gyllid ar gael yn y gronfa.

Cronfa’r Degwm

Mae’r gronfa yn cynnig grantiau hyd at £5,000 i elusennau cofrestredig yn unig. Mae canran o’r gronfa hefyd yn cael ei ddosbarthu i eisteddfodau lleol yng Ngwynedd, sef swm o £300 yr un.

Cronfa Cymorth Argyfwng Bwyd (ariannwyd drwy gyllid Llywodraeth Cymru)

Mae’r gronfa yn cynnig grantiau Cyfalaf hyd at £5,000 a/neu grantiau Refeniw hyd at £4,000.Nod y gronfa yw cefnogi cynlluniau bwyd a bwydo, i gefnogi'r nifer gynyddol o bobl sy’n wynebu tlodi bwyd.

Cronfa Croeso Cynnes (ariannwyd drwy gyllid Llywodraeth Cymru)

Mae’r gronfa yn cynnig grantiau hyd at £2,000 i gefnogi lleoliadau pwysig ledled Gwynedd sy’n darparu gofod croesawgar, diogel a chynnes sydd yn agored ac yn gynhwysol i bawb.

Dywedodd y Cynghorydd Medwyn Hughes, Aelod Cabinet Economi a Chymuned Cyngor Gwynedd:

“Mae grantiau Cist Gwynedd yn cefnogi amrywiaeth o brosiectau sy’n arwain at gryfhau cymunedau ledled y sir. Dyma gyfle i’n trigolion wneud gwahaniaeth gwirioneddol yn eu cymunedau eu hunain.”

Mae pecynnau ymgeisio ar gyfer y cronfeydd ar gael ar wefan Grantiau Cymunedol Cyngor Gwynedd – www.gwynedd.llyw.cymru/cistgwynedd

Dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau yw 22 Mai 2026.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â swyddogion Cist Gwynedd:

Ffôn: 01286 679870

E-bost: CistGwynedd@gwynedd.llyw.cymru