Gorchymyn Cau ar gyfer siop Caernarfon Convenience Store

Dyddiad: 06/05/2026

Mae Gorchymyn Cau wedi ei gyflwyno ar gyfer siop Caernarfon Convenience Store sydd wedi'i lleoli ar stryd Bont Bridd, Caernarfon, yn dilyn gwerthu fêps nicotin i berson o dan 18 oed, a gwerthu fêps anghyfreithlon a theganau ffug.

Yn dilyn ymchwiliad gan swyddogion Safonau Masnach Cyngor Gwynedd a chefnogaeth gan Heddlu Gogledd Cymru, caniataodd Llys Ynadon Caernarfon y gorchymyn ar 5 Mai, 2026. Mae hyn yn golygu y bydd y siop, sydd wedi bod ynghau am bythefnos, ar gau am chwe wythnos pellach dan Orchymyn y Llys tan 23.59 ar 15 Mehefin 2026.

Mae hyn yn dilyn Hysbysiad Cau a gyflwynwyd ar 22 Ebrill 2026 gan dîm Safonau Masnach y Cyngor o dan Adran 76 o Ddeddf Ymddygiad Gwrth-gymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014 ar y safle a landlordiaid y siop yn 3-5 Bont Bridd, Caernarfon. Cymerwyd y camau hyn, gyda chefnogaeth Heddlu Gogledd Cymru, oherwydd gwerthiant fêps nicotin i blant, gwerthu fêps anghyfreithlon yn ogystal â theganau ffug a allai fod yn anniogel, gan gyfrannu at niwsans ac ymddygiad gwrth-gymdeithasol.

Meddai Andrew Parry, Rheolwr Safonau Masnach (Gwarchod y Cyhoedd) Cyngor Gwynedd:

"Mae gan bob busnes gyfrifoldeb cyfreithiol i sicrhau bod cynnyrch sy’n gyfyngedig o ran oedran yn cael eu gwerthu'n ddiogel ac i wirio oed cwsmeriaid.

"Mae gwerthu fêps nicotin i blant yn anghyfreithlon ac yn niweidiol iawn, ac mae gennym ddyletswydd i sicrhau bod busnesau yn gweithredu yn unol â'u cyfrifoldebau.

“Er bod ein swyddogion bob amser yn anelu at ymgysylltu'n gadarnhaol gyda busnesau i'w helpu i ddeall eu cyfrifoldebau, daw pwynt pan nad oes gennym ddewis ond cymryd camau cyfreithiol.

"Rwy'n ddiolchgar i'r Swyddogion Safonau Masnach am eu hymchwiliad trylwyr, ond hefyd i Heddlu Gogledd Cymru am eu cefnogaeth a'u cymorth parhaus.

"Mae hyn yn anfon neges glir am ein hymrwymiad i fynd i'r afael â'r cyflenwad o gynhyrchion anghyfreithlon yn ein cymunedau a stopio gwerthu cynnyrch cyfyngedig oedran i blentyn.

"Byddem yn annog aelodau'r cyhoedd i fod yn wyliadwrus am yr hyn maen nhw'n ei brynu ac i osgoi cefnogi unrhyw fasnach anghyfreithlon sy'n peri risg wirioneddol i'n cymunedau."

Yn ystod y cyfnod ymchwilio, fe wnaeth swyddogion Safonau Masnach Cyngor Gwynedd atafaelu nifer sylweddol o fêps anghyfreithlon a theganau ffug o’r Caernarfon Convenience Store. Fe weithiodd y Cyngor yn agos gydag asiantaethau partner yn cynnwys Iechyd yr Amgylchedd, Safonau Masnach Cenedlaethol a Heddlu Gogledd Cymru, gyda sawl pryniant prawf llwyddiannus yn cadarnhau gwerth cynnyrch cyfyngedig, sef fêp, i blentyn.

Yn dilyn yr ymdrech gyd-gysylltiedig hon, bydd y busnes ar gau am chwe wythnos, a bydd swyddogion Safonau Masnach ynghyd â phartneriaid yn parhau i fonitro'r safle ac unrhyw fusnes arall sy'n torri'r gyfraith.

Gall fêps anghyfreithlon fod yn niweidiol iawn. Maent yn aml yn cynnwys cryfderau nicotin uwchlaw terfynau cyfreithiol, a gallant hefyd gynnwys cemegau anghyfreithlon, a allai fod yn niweidiol. Gan nad yw'r cynhyrchion hyn yn bodloni'r safonau diogelwch gofynnol, mae defnyddwyr yn peryglu dod i gysylltiad â lefelau anniogel o fetelau fel nicel, plwm a chromiwm a sylweddau niweidiol eraill.

Mae tîm Safonau Masnach ymroddedig Gwynedd yn defnyddio ystod o ddulliau ymchwilio, gan gynnwys cŵn canfod, i ddarganfod cynhyrchion cudd - arwydd clir bod gweithredwyr yn gwbl ymwybodol o'u gweithgareddau anghyfreithlon. Mae gweithio partneriaeth agos o fewn a thu hwnt i'r Cyngor yn parhau i fod yn hanfodol wrth fynd i'r afael â'r mater cynyddol hwn.

Mae aelodau o'r cyhoedd yng Ngwynedd sydd ag unrhyw wybodaeth am bobl y maent yn credu a allai fod yn rhan o weithgareddau masnachu anghyfreithlon neu unrhyw un y maent yn credu a allai fod yn ddioddefwr gweithgaredd o'r fath yn cael eu hannog i gysylltu â thîm Safonau Masnach Cyngor Gwynedd www.gwynedd.llyw.cymru/safonaumasnach