Cyngor Gwynedd yn lansio pecyn i gefnogi teithio diogel a chynaliadwy ar gyfer ysgolion

Dyddiad: 19/05/2026

A hithau’n Wythnos Cenedlaethol Cerdded i’r Ysgol, mae Cyngor Gwynedd wedi lansio Pecyn Trafnidiaeth Ysgolion fel rhan o ymdrechion i wella diogelwch o amgylch ysgolion ac annog mwy o deithio cynaliadwy ledled y sir.

Cafodd y pecyn ei lansio yn Ysgol y Garnedd, Bangor yn ddiweddar, lle cafodd disgyblion a staff o sawl ysgol gyfle i ddysgu mwy am yr amrediad o adnoddau sydd ar gael.

Fe’i datblygwyd mewn ymateb i geisiadau gan ysgolion a theuluoedd am faterion megis diogelwch ffyrdd, tagfeydd traffig, problemau parcio ac effaith amgylcheddol gyrru ger ysgolion.

Dywedodd y Cynghorydd Craig ab Iago, Aelod Cabinet Amgylchedd Cyngor Gwynedd:

“Mae sicrhau bod ardaloedd o amgylch ysgolion yn ddiogel i blant yn hollbwysig. Roeddwn i’n falch iawn o fod yn rhan o lansio’r pecyn newydd yma a fydd yn adnodd gwych i ysgolion allu rhannu gwybodaeth a chyngor efo teuluoedd mewn modd amserol yn ystod y flwyddyn.

“Fel rhan o hynny, mae’r pecyn yn gam ymarferol i gefnogi ac annog teithio mewn dulliau llesol ar gyfer siwrneiau bob dydd gan gynnwys i ac o’r ysgol. Mae hyn helpu i dorri lawr ar allyriadau carbon di-angen, lleihau tagfeydd traffig a phroblemau parcio, gan wneud ardaloedd tu allan i’n hysgolion yn llefydd mwy diogel, atyniadol ac iachus i bawb.”

Ychwanegodd y Cynghorydd Dewi Jones, Aelod Cabinet Addysg Cyngor Gwynedd:

“Roedd hi’n braf iawn gweld y pecyn trafnidiaeth ar waith a bod disgyblion yn gweld budd amlwg yn yr adnoddau sydd wedi eu datblygu.

“Bydd yr adnodd hwn yn rhoi cefnogaeth ymarferol gwerthfawr i’n hysgolion i helpu plant a theuluoedd wneud dewisiadau teithio mwy diogel ac iach, gan gyfrannu at iechyd a llesiant hirdymor ein pobl ifanc.”

Ychwanegodd Cynghorydd Elin Walker Jones, sy’n Aelod Lleol a Llywodraethwr yn Ysgol Y Garnedd:

“Mae pedair ysgol yn y cyffiniau ac felly rydym yn ymwybodol iawn o broblemau traffig a pharcio yn yr ardal, ac yn llwyr sylweddoli pwysigrwydd teithio llesol i wella iechyd plant yn ogystal â’r effaith gadarnhaol ar yr amgylchedd. Llongyfarchiadau ar yr ymdrechion i wella’r sefyllfa a lle gwell nag Ysgol y Garnedd i lansio’r cynllun? Diolch i’r ysgol am y croeso ac i’r disgyblion am eu perfformiadau gwych!” 

Dywedodd rhai o ddisgyblion Ysgol y Garnedd sy’n beicio, cerdded a reidio sgwter i’r ysgol:

“Pan ti wedi blino yn y bore, mae’r awyr iach yn gwneud i ti deimlo’n fwy ffres. Mae’n helpu chdi i ddeffro ac mae’n hwyl!”

Mae’r pecyn wedi ei ddatblygu i ddarparu gwybodaeth glir ac ymarferol i benaethiaid, staff ysgolion a rhieni, ynghyd ag adnoddau defnyddiol i hyrwyddo teithio llesol a lleihau tagfeydd traffig o amgylch ysgolion, gan gynnwys:

 

  • Adnoddau ymarferol megis fideos, taflenni, templedi ac asesiadau risg,
  • Canllawiau ar deithio llesol, teithio mewn car a defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus,
  • Hyfforddiant ac addysg diogelwch ffyrdd,
  • Ymarfer da ac enghreifftiau lleol i ysgolion eu hefelychu,
  • Gwybodaeth am ymgyrchoedd lleol fel datblygu bysiau cerdded a beicio i’r ysgol.

 

Bydd y pecyn yn adnodd ar gyfer ysgolion ar draws Gwynedd, gan eu galluogi i rannu gwybodaeth berthnasol i’w hysgolion yn ystod y flwyddyn.

Mae’r pecyn wedi ei ddatblygu gan Gyngor Gwynedd, ac wedi ei ariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chefnogaeth gan Trafnidiaeth Cymru.