Cyngor Gwynedd yn holi barn pobl leol am Ardoll Ymwelwyr
Dyddiad: 14/05/2026
Bydd cyfle i bobl, cymunedau a’r sector fusnes yng Ngwynedd ddweud eu dweud ar gyflwyno Ardoll Ymwelwyr fydd yn cefnogi economi ymweld mwy cynaliadwy i’r sir.
Mewn cyfarfod o’r Cyngor heddiw (14 Mai 2026), derbyniodd yr aelodau adroddiad ar yr Ardoll Ymwelwyr yng Ngwynedd a chytunwyd i fwrw ymlaen gyda phroses ymgynghori. Bydd hyn yn cynnwys cyfle i lenwi holiadur, mynychu sesiynau galw heibio a digwyddiadau arbennig.
Yn ystod y cyfarfod, clywodd yr aelodau fod cyflwyno Ardoll gyda’r potensial i gynhyrchu incwm er mwyn cefnogi cyrchfannau poblogaidd lleol ac ymateb i heriau..
Dywedodd y Cynghorydd R. Medwyn Hughes, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros Economi a Chymuned:
“Mae’r sector dwristiaeth yn rhan bwysig o economi Gwynedd. Mae nifer fawr o bobl yn dibynnu arno ar gyfer eu bywoliaeth a llawer o fusnesau wedi buddsoddi’n drwm yn y maes. Ond rydym yn gwybod hefyd bod heriau yn bodoli yn sgil twristiaeth yma.
“Mae Deddf Llety Ymwelwyr yn ei gwneud yn ofynnol i ddarparwyr llety ymwelwyr ar draws Cymru i gofrestru fel rhan o drefn genedlaethol. Mae’r ddeddf yma hefyd yn caniatáu i awdurdodau lleol – fel Cyngor Gwynedd – i godi Ardoll Ymwelwyr ar bobl sy’n dod yma i aros.
“Rydym wedi bod yn gweithio’n agos gyda’r sector a gyda’n partneriaid megis Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, Awdurdod Cyllid Cymru a chynghorau cyfagos wrth i ni baratoi i gyflwyno’r adroddiad hwn i’r Cyngor.
“Mae gan yr ardoll y potensial i gynhyrchu incwm sylweddol fydd yn cael ei ail-fuddsoddi yn y diwydiant ac yn y cymunedau sy’n cael eu heffeithio gan ymwelwyr.”
Mae adroddiad y cyngor yn amlygu nifer o feysydd posibl lle gellid buddsoddi’r Ardoll yn y dyfodol, yn cynnwys cefnogaeth i fusnesau, digwyddiadau a chymunedau, gwella ac ymestyn oriau agor toiledau, prosiectau i gefnogi treftadaeth ddiwylliannol a’r Gymraeg, gwella trafnidiaeth cyhoeddus a llwybrau cyhoeddus ac ymateb i bwysau ymwelwyr ar yr amgylchedd a byd natur.
Ychwanegodd y Cynghorydd R. Medwyn Hughes
“Bydd yr holl ymatebion yn cael eu pwyso a’u mesur fel un ystyriaeth o’r broses cyn i’r mater ddod yn ôl yma i’r Cyngor Llawn i holl aelodau etholedig Cyngor Gwynedd wneud penderfyniad ar fabwysiadu’r Ardoll a’i peidio ar 24 Medi 2026.”
Bydd yr arolwg yn agor 20 Mai ac yn cau ar 15 Gorffennaf. Os bydd Cyngor Gwynedd yn penderfynu mabwysiadu’r Ardoll, y cynharaf y gall fod yn weithredol ydi 1 Hydref, 2027.
Mae nifer o ffyrdd gall pobl Gwynedd ddatgan eu barn o 20 Mai ymlaen:
- Arlein – ar wefan Cyngor Gwynedd: gwynedd.llyw.cymru/DweudEichDweud
- Llenwi holiadur papur – mae copïau o’r holiadur ar gael ar gais o llyfrgelloedd y sir ac o’r dair Siop Gwynedd (Caernarfon, Pwllheli, Dolgellau). Gellir hefyd wneud cais am holiadur drwy’r post drwy ffonio 01766 771000.
- Wyneb-yn-wyneb – cynhelir cyfres o ddigwyddiadau mewn lleoliadau ar draws Gwynedd drwy gydol mis Mehefin. Cadwch lygaid ar gyfrifon cyfryngau cymdeithasol Cyngor Gwynedd am leoliadau a dyddiadau.
Mae dau gyngor sir sy’n ffinio Gwynedd – sef Môn a Chonwy – yn yr un cam o’r broses. Ddydd Mawrth, 12 Mai, cymeradwyodd Cyngor Sir Ynys Môn gynnig i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ynghylch a ddylai gyflwyno ardoll ymwelwyr ai peidio ac mae Cyngor Sir Bwrdeistrefol Conwy hefyd yn trafod y mater heddiw (14 Mai). Cyngor Caerdydd yw’r awdurdod lleol cyntaf yng Nghymru i fabwysiadu’r Ardoll Ymwelwyr.
Nodiadau
Llywodraeth Cymru sy’n gosod cyfradd yr ardoll (y person, y noson), sef:
- Maes gwersylla pebyll a llofftydd a rennir (hosteli a dorm) 75c (90c yn cynnwys TAW)
- Pob math arall o lety gwyliau arall (carafán, glampio, cartref modur, hunan ddarpar, gwely a brecwast, gwesty, ayb) £1.30 (£1.56 yn cynnwys TAW)
Mae eithriadau cyfyngedig i’r ardoll ymwelwyr, gan gynnwys plant mewn hosteli, gwersylloedd pabell neu lofftydd wedi rhannu).
Bydd cyfradd yr ardoll yn gyson ar draws Cymru.
Pe byddai’r Ardoll yn weithredol yng Ngwynedd, Awdurdod Cyllid Cymru (ACC) fyddai’n gweithredu’r drefn gofrestru, gorfodi a chasglu’r Ardoll.