Cyngor Gwynedd yn cymryd camau gorfodi llwyddiannus yn erbyn perchennog ci
Dyddiad: 21/05/2026
Mae Cyngor Gwynedd yn atgoffa perchnogion cŵn o’u cyfrifoldebau cyfreithiol i gydymffurfio â’r rheolau yn dilyn camau gorfodi llwyddiannus diweddar.
Cafwyd perchennog ci o ardal Y Bala yn euog o ganiatáu i’w gi fynd i mewn i ardal lle mae cŵn wedi’u gwahardd, ac am fethu â chodi ar ei ôl. Derbyniodd y perchennog ddirwy o £452.00.
Mae Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus (Rheoli Cŵn) ar waith yng Ngwynedd ers 2013, sy’n golygu ei bod yn drosedd i fynd a chŵn i ardaloedd chwarae penodedig ar gyfer plant, tir ysgol, caeau chwaraeon a rhai traethau (Ebrill – Medi). Mae gorchmynion rheoli cŵn wedi ei ymestyn hyd at 14 Awst, 2027.
Yn unol â Deddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014, gall Cyngor Gwynedd erlyn unigolion sy’n caniatáu i’w cŵn faeddu mewn mannau cyhoeddus. Gall hyn arwain at gosb yn y fan a’r lle o £100 neu erlyniad gyda chosb o uchafswm o £1,000.
Dywedodd y Cynghorydd June Jones, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros Wasanaethau Stryd:
“Mae’r achos hwn yn anfon neges glir nad yw’r Cyngor yn goddef ymddygiad sy’n tanseilio glendid, diogelwch a mwynhad ein mannau cyhoeddus. Byddwn yn parhau i gymryd camau gorfodi cadarn lle bo angen.”
Mae’r Cyngor yn darparu bagiau baw cŵn am ddim o’r tair Siop Gwynedd (Caernarfon, Dolgellau, Pwllheli) ac o Lyfrgelloedd Gwynedd. Gellir gwaredu bagiau baw cŵn mewn biniau sbwriel cyhoeddus, biniau baw cŵn, neu finiau olwyn gwyrdd.
Os oes gennych dystiolaeth fod rhywun yn caniatáu i’w ci faeddu mewn man cyhoeddus a heb ymdrech i’w glirio, gallwch gysylltu yn gyfrinachol gyda’r Cyngor er mwyn i Wardeiniaid Gorfodaeth Stryd ymchwilio i’r mater.
Mewn achosion prin, mae dod i gyswllt â baw ci yn gallu arwain at salwch difrifol fel toxocariasis sy’n gallu achosi trafferthion anadlu a dallineb.
Mae gwybodaeth bellach ar gael ar y wefan www.gwynedd.llyw.cymru/cwn
Gellir adrodd problem baw ci ar www.gwynedd.llyw.cymru/BawCi