Cyngor Gwynedd yn cyd-sefyll â'r ymgyrch Nid Fy Nghywilydd

Dyddiad: 01/05/2026

Mae Cyngor Gwynedd wedi dangos ei gefnogaeth i fudiad rhyngwladol sy’n grymuso goroeswyr Cam-drin Rhywiol Plant (CSA).

Heddiw (1 Mai), bydd y Cyngor yn codi baner Nid Fy Nghywilydd (Not My Shame) i nodi diwrnod yr ymgyrch, gan gefnogi mudiad sydd wedi tyfu mewn cryfder ers ei sefydlu yn 2021.

Mae’r mudiad Not My Shame yn annog unigolion, cymunedau a sefydliadau i sefyll mewn undod â’r rheini sydd wedi profi trawma cam-drin rhywiol yn ystod plentyndod.

Dywedodd y Dylan Owen, Cyfarwyddwr Statudol Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Gwynedd:

“Rydym yn falch o nodi’r diwrnod pwysig hwn drwy godi baner Nid Fy Nghywilydd. Mae cam-drin rhywiol plant yn dwyn plentyndod oddi wrth lawer o bobl ac yn gallu effeithio ar oroeswyr, yn ogystal â’u teuluoedd, am weddill eu hoes.

“Fel Cyngor, rydym yn gweithio’n gyson i wella i weld sut rydym yn cynnig cefnogaeth i unigolion, teuluoedd a chymunedau wrth iddynt ailadeiladu eu bywydau ac ymdopi â trawma.

“Rydym yn ddiolchgar i’r mudiad Not My Shame am godi ymwybyddiaeth ac annog trafodaethau agored a thosturiol ynghylch y mater anodd ond hollbwysig hwn.”

Sefydlwyd y mudiad a’r elusen Not My Shame gan yr ymgyrchydd a’r goroeswr Emma Jane Taylor. Meddai:

“Bydd pobl ledled Cymru, y DU a’r byd yn dangos eu cefnogaeth mewn sawl ffordd – gan gynnwys gwisgo crysau-t #NotMyShame neu rubanau gwyn, goleuo adeiladau cyhoeddus a chynnal munud o dawelwch. Rydym yn falch y bydd ein baner yn cael ei gweld yng Ngwynedd ar ddiwrnod ein hymgyrch.”

Mae rhagor o wybodaeth am yr ymgyrch ar gael ar y wefan: NotMyShame

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth sy’n ymwneud â cham-drin plant posibl gysylltu â’r Heddlu neu adran Gwasanaethau Cymdeithasol eu hawdurdod lleol.

  • Os yw plentyn neu berson ifanc mewn perygl uniongyrchol, ffoniwch yr Heddlu ar 999.
  • Os nad yw’r plentyn mewn perygl uniongyrchol, cysylltwch â Gwasanaethau Cymdeithasol Gwynedd cyn gynted â phosibl ar 01758 704455, neu 01248 353551 y tu allan i oriau swyddfa.

 Mae gwybodaeth ar gael ar wefan Cyngor Gwynedd: Cam-drin plant