Cyngor Gwynedd yn arwyddo Twf - Siarter y Gymraeg yn y Gwaith
Dyddiad: 12/05/2026
Mae Cyngor Gwynedd wedi atgyfnerthu ei safle fel sefydliad sy’n arwain y ffordd o ran meithrin diwylliant sy’n rhoi’r Gymraeg yn ganolog i’w waith, gan fod y gweithle cyntaf yng Nghymru i lofnodi a mabwysiadu Twf – Siarter y Gymraeg yn y Gwaith.
Cynhaliwyd digwyddiad arbennig yn Siambr Cyngor Gwynedd i ddathlu llofnodi’r siarter yng nghwmni cynrychiolwyr y TUC, undebau Unsain, GMB ac Unite yn ogystal â Lowri Williams, Cyfarwyddwr Strategol Comisiynydd y Gymraeg. Mae hyn yn dilyn penderfyniad Cabinet Cyngor Gwynedd fis Rhagfyr diwethaf i fwrw mlaen i fabwysiadu’r siarter.
Mae TUC Cymru wedi datblygu a mabwysiadu Siarter Twf i helpu gweithwyr, canghennau eu hundebau llafur a chyflogwyr i gydweithio i greu gweithleoedd dwyieithog. Mae pwyslais penodol hefyd ar sicrhau cynnydd yn nefnydd y Gymraeg yn y gwaith ac ar sicrhau fod gan weithwyr fynediad i gynrychiolaeth gan undebau llafur yn eu dewis iaith.
Wrth gytuno i fabwysiadu ac arwyddo’r siarter, mae’r undebau llafur a Chyngor Gwynedd fel cyflogwr yn ymrwymo i gydweithio ar sail pedair egwyddor graidd, sef:
- Twf a hawliau’r Gymraeg – ymrwymiad i dyfu’r Gymraeg yn y gweithle.
- Cynhwysiant a chyfiawnder ieithyddol – creu diwylliant gwaith sydd yn gefnogol i ddefnyddio’r Gymraeg.
- Arweinyddiaeth ac atebolrwydd – gwreiddio ethos a diwylliant dwyieithog gweladwy a chynhwysol.
- Dysgu parhaus a meithrin hyder – rhoi cefnogaeth barhaus i staff ddysgu a gwella eu sgiliau Cymraeg.
Mae hybu a chefnogi defnydd o’r Gymraeg gan staff – a sicrhau fod pob gwasanaeth ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg – yn un o flaenoriaethau’r Cyngor ers ei sefydlu. Caiff hyn ei adlewyrchu yng Nghynllun y Cyngor, ym mholisi iaith yr awdurdod a’r ffaith fod 99.1% o staff y Cyngor yn meddu ar sgiliau yn y Gymraeg.
Comisiynwyd y Prifardd Meirion MacIntyre Huws i ysgrifennu englyn i nodi’r achlysur a chafwyd cyfle i’w chlywed wrth gloi’r digwyddiad.
“Awn â gwên i'n llefydd gwaith, - yn drindod
Drwy undeb cawn effaith;
Awn i hybu'n y gobaith
O'u troi oll yn gartra' i'r iaith.”
Dywedodd y Cynghorydd Nia Jeffreys, Arweinydd Cyngor Gwynedd:
“Mae’r Siarter Twf yn dod â dau fudiad sy’n agos at fy nghalon ynghyd – mudiad yr iaith a’r mudiad undebau llafur. Mae pwysleisio’r hawl i weithwyr y Cyngor ac i bobl Gwynedd gael defnyddio eu hiaith yn hollbwysig, a dyma mae’r siarter yma yn ei wneud.
“Dwi’n hynod o falch mai Cyngor Gwynedd yw’r gweithle cyntaf drwy Gymru i arwyddo - mae’r Siarter Twf yn ofnadwy o bwysig, ac ein nod ni yw gweld twf yn nefnydd yr iaith yn holl waith Cyngor Gwynedd.
“Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi bod yn rhan o’r broses ac am y cyfle i gael dathlu yn y digwyddiad arbennig hwn.”
Ychwanegodd y Cynghorydd Llio Elenid Owen, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd sydd â chyfrifoldeb dros yr Iaith Gymraeg:
“Rwy’n falch iawn mai Cyngor Gwynedd yw’r gweithle cyntaf yng Nghymru ar y cyd gyda TUC Cymru a chynrychiolwyr canghennau undebau Unsain, GMB ac Unite i arwyddo a mabwysiadau Twf: Siarter y Gymraeg yn y Gwaith.
“Mae’r egwyddorion o fewn y siarter yn dangos ymrwymiad clir i weithio mewn partneriaeth wrth ddarparu gweithle ddwyieithog gynhwysol, ac i hyrwyddo a galluogi’r twf yn y defnydd o’r Gymraeg yn y gwaith.
“Dwi’n gobeithio bydd sefydliadau eraill yn dilyn Cyngor Gwynedd wrth fabwysiadu ac arwyddo’r siarter.”
Dywedodd Dr Mandy James, Swyddog Cyfathrebu Dwyieithog TUC Cymru:
“Llongyfarchiadau mawr am fod yr awdurdod lleol cyntaf i arwyddo ac ymrwymo i Siarter Twf yng Nghymru. Mae Siarter Twf a’i egwyddorion yn cefnogi Cyngor Gwynedd i gydweithio mewn partneriaeth gymdeithasol gyda’r canghennau undebau llafur - Unsain, GMB ac Unite - i greu gweithle Cymraeg cynhwysol a thwf yn y defnydd o’r Gymraeg yn y gwaith. Mae gan undebau llafur rôl hanfodol wrth sicrhau cyfiawnder ieithyddol i weithwyr yng Nghymru; diogelu a hyrwyddo hawliau Cymraeg gweithwyr fel mater o degwch, cydraddoldeb ac ecwiti; ac wrth wneud gweithleoedd yn ddiogel ac yn rhydd o ragfarn a beirniadaeth.
“Mae undebau yn cefnogi eu haelodau a gweithwyr i adnabod, trefnu a sicrhau mwy o gyfleoedd i bawb gynyddu eu defnydd o’r Gymraeg yn barhaus yn y gwaith, a datblygu eu sgiliau Cymraeg. Mae defnyddio’r Gymraeg yn sgil gwerthfawr ac ymarferol yn y gweithle ac mae’n cyfoethogi ein bywyd cymdeithasol a’n cymunedau yng Nghymru. Bydd Siarter Twf yn cefnogi cynllunio a sicrhau bod gweithleoedd Cymraeg a dwyieithog cynhwysol y dyfodol yn ofodau lle gall gweithwyr ddefnyddio eu sgiliau dwyieithog gwerthfawr.”