Cerddi newydd yn dathlu perthyn a chymuned yng Ngwynedd
Dyddiad: 18/05/2026
Mewn prosiect arbennig gyda rhai o drigolion y sir a beirdd lleol mae Cyngor Gwynedd wedi trefnu i gyd-gynhyrchu cyfres o gerddi sy’n cofnodi pwysigrwydd ffrindiau, cymuned a pherthyn.
Lansiwyd y prosiect i nodi diwrnod Rhyngwladol Pobl Hŷn 2025, gan adlewyrchu thema’r flwyddyn, sef ‘Meithrin ymdeimlad o berthyn. Dathlu pŵer ein cysylltiadau cymdeithasol’.
Drwy’r prosiect ‘Perthyn’ comisiynwyd pedwar bardd lleol i greu cerddi fyddai’n cyd-fynd gyda’r thema.
Ymwelwyd gyda deg lleoliad ar draws Gwynedd gan gynnwys cartrefi preswyl a thai gofal ychwanegol er mwyn cyfoethogi cyfleoedd i rannu profiadau, rhannu straeon, rhannu hanes a thrafod cysylltiadau.
Roedd ysbrydoliaeth ar gyfer y cerddi yn amrywio o rannu straeon am ddathliadau a thraddodiadau teuluoedd a chymunedau, i ddefnyddio cerddoriaeth, lluniau a chreiriau.
Dywedodd Sian Northey, un o’r beirdd ynghlwm â’r prosiect:
“Fy rôl i oedd gwrando a chofnodi. Mi oeddwn i’n cyflwyno llun, neu ychydig wrthrychau, neu gerdd arall fel sbardun, ac mi oeddwn i’n gofyn ambell i gwestiwn – dyna cwbl. Ond y peth pwysig ydi bod y gwrando a’r cofnodi yn brawf i’r preswylwyr bod eu hatgofion, eu straeon, eu dychymyg a’u syniadau yn bwysig.
“Yn aml, os ydw i'n gweithio mewn grŵp, roedd o hefyd fel petai’n gadael iddyn nhw wrando ar ei gilydd mewn ffordd wahanol i’r arfer - i gyd chwerthin ac i rannu ambell beth dwys.
“O ran barddoniaeth, mae o yna ar blât rhywsut - yr eirfa, y delweddau, yr emosiynau. Ac mi oedd hi’n fraint cael eu helpu i greu'r cerddi hyn.”
Ychwanegodd y Cynghorydd Dilwyn Morgan, Aelod Cabinet Oedolion, Iechyd a Llesiant a Phencampwr Oed-Gyfeillgar Cyngor Gwynedd:
“Mae clywed lleisiau pobl hŷn am eu profiadau wrth heneiddio yn bwysig iawn i ni yma yng Ngwynedd. Rydym yn falch o’r holl waith pontio’r cenedlaethau sy’n digwydd ar draws y sir, a’r cyfleoedd i ddod a phobl o bob oed at ei gilydd gan nodi pwysigrwydd rhannu straeon i ddod i ddallt ein gilydd a’r byd yn well.
“Roedd y sesiynau yma yn hwyliog, yn llawn sgwrs a chwerthin, a gyda ychydig o ysgogiad roedd y sgwrs yn byrlymu, a phawb yn ddiolchgar o’r cyfle i rannu eu hanes, eu profiadau a’u diddordebau.
“Mae’r cerddi a grëwyd yn gofnod o straeon pobl am bwysigrwydd cysylltiadau, ffrindiau, cymuned a pherthyn, ac wedi rhoi cyfle i unigolion adlewyrchu, cofio a dathlu eu profiadau mewn awyrgylch cynnes a charedig.”
Bydd copi o gerddi Buddug Watcyn Roberts, Haf Llywelyn, Sioned Erin Hughes a Sian Northey yn cael eu harddangos yn y cartrefi preswyl a thai gofal ychwanegol.
Bydd detholiad o’r cerddi i’w gweld ar gyfryngau cymdeithasol Gwynedd yn Gwenu ar Facebook, Instagram a TikTok.
Am ragor o wybodaeth am Gwynedd Oed Gyfeillgar ewch i’r wefan: www.gwynedd.llyw.cymru/oedgyfeillgar