'Cefnogi plant i dyfu, ffynnu a llwyddo drwy faethu'

Dyddiad: 22/05/2026
Gofalwyr maeth yng Ngwynedd yn rhannu’r eiliadau hynny sy’n dangos datblygiad ar gyfer Pythefnos Gofal Maeth.

Y tro cyntaf i blentyn chwerthin, trafod ei ddiwrnod, gofyn i wylio ffilm; mae'r rhain yn eiliadau y gallai llawer eu cymryd yn ganiataol, ond i ofalwyr maeth yng Nghymru, maent yn symbol o un peth, sef datblygiad.

Mae plant sydd wedi profi trawma yn aml yn datblygu ffyrdd o amddiffyn eu hunain. Gallai hyn gynnwys ymddygiadau fel pryder, tynnu yn ôl yn emosiynol, ymateb mewn ffordd ddwys neu ei chael hi’n anodd dilyn rheolau.

Mae arolwg cenedlaethol a gomisiynwyd gan Maethu Cymru wedi darganfod bod tua 80% o ofalwyr a holwyd wedi cefnogi plant wnaeth arddangos ymddygiadau fel hyn. Er y gall yr heriau hyn fod yn anodd, dywedodd hanner y gofalwyr maeth a holwyd hefyd eu bod wedi sylwi ar ddatblygiadau ystyrlon o fewn y chwe mis cyntaf.

Rhannodd gofalwyr maeth fod yr eiliadau arloesol hyn yn aml yn ymwneud â’r cyfnodau bach o gysylltiad, ond maent yn cynrychioli mwy na hynny: i blant mewn gofal, mae'n golygu eu bod wedi gwneud cynnydd, eu bod wedi dechrau teimlo'n ddiogel, eu bod wedi dechrau gwella, teimlo eu bod yn cael eu caru a’u cefnogi wedi trawma plentyndod.

O ganlyniad i brofiad, cefnogaeth ac arweiniad proffesiynol, dywedodd bron pob gofalwr (93%) eu bod bellach yn hyderus wrth ymateb i ymddygiad sy'n gysylltiedig â thrawma.

Caiff y canfyddiadau hyn eu rhyddhau cyn Pythefnos Gofal Maeth, ymgyrch flynyddol fwyaf y DU sy'n digwydd bob mis Mai i godi ymwybyddiaeth o faethu. Mae thema eleni, Dyma yw Maethu, yn amlygu profiadau go iawn gofalwyr maeth a'r rôl hanfodol y maent yn ei chwarae wrth helpu plant i deimlo'n ddiogel.

Helen o Wynedd oedd un o’r 120 o ofalwyr maeth a ymatebodd i’r arolwg. Dywedodd: “Mae maethu, i mi, yn ymwneud â rhoi cyfle i blentyn ddatblygu i’w lawn botensial. Eu gweld yn tyfu mewn hyder, yn darganfod eu doniau, boed hynny’n canu neu’n chwarae pêl-fasged, ac yn dechrau canolbwyntio ar yr hyn maen nhw’n ei fwynhau ac yn ei wneud yn dda. Dros amser, mae’r eiliadau hynny o lawenydd a hunan-gred yn dechrau disodli’r pryder a’r ofn y gallent fod wedi’u cario. Mae bod yn rhan o’r daith honno’n hynod werthfawr.”

Dywedodd Menna Trenholme, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros Blant a Chefnogi Teuluoedd yng Nghyngor Gwynedd: “Rydym yn hynod falch o’r ymroddiad a’r tosturi a ddangosir gan ein gofalwyr maeth bob dydd yma yng Ngwynedd. Mae stori Helen, ynghyd â’n gofalwyr maeth eraill, yn amlygu’r gwahaniaeth gwirioneddol y gall maethu ei wneud ym mywyd plentyn lleol. Mae’n galonogol gweld gofalwyr yn defnyddio’r gefnogaeth a’r adnoddau sydd ar gael iddynt, yn enwedig wrth helpu plant i lywio profiadau cymhleth fel trawma plentyndod. Rydym yn parhau i ymrwymo i sefyll ochr yn ochr â’n gofalwyr maeth trwy bob cam o’u taith maethu, ac mae’r canfyddiadau hyn yn dangos pa mor hanfodol yw cefnogaeth leol gref wrth wneud gwahaniaeth parhaol.”

I gael gwybod mwy am ddod yn ofalwr maeth yng Ngwynedd, ewch i: maethucymru.gwynedd.llyw.cymru

Nodiadau i Olygyddion

Am ragor o wybodaeth neu geisiadau am gyfweliad, cysylltwch â: cyfathrebu@gwynedd.llyw.cymru

Yng Nghymru, mae 7,200 o blant mewn gofal. O'r rhain, mae 4,884 yn byw gyda theuluoedd maeth - gyda chefnogaeth 3,538 o ofalwyr maeth (Maethu Cymru).

Ynglŷn â Maethu Cymru

Maethu Cymru yw'r rhwydwaith cenedlaethol o wasanaethau maethu awdurdodau lleol dielw yng Nghymru.

Ynglŷn â’r Pythefnos Gofal Maeth

  • Ymgyrch ymwybyddiaeth flynyddol The Fostering Network yw Pythefnos Gofal Maeth™
  • Dyddiadau 2026: 11–24 Mai
  • Thema: Dyma yw Maethu
  • #FCF26 #PythefnosGofalMaeth