Cam pwysig ymlaen i'r Ysgol Ein Harglwyddes newydd
Dyddiad: 21/05/2025
Bydd enwau rhai o blant Bangor yn rhan o strwythur eu hysgol am genedlaethau i ddod, yn dilyn digwyddiad cyffrous diweddar.
Cafodd disgyblion Ysgol Ein Harglwyddes yn y ddinas y cyfle i arwyddo’r trawstiau dur a fydd yn ffurfio ffrâm eu hysgol newydd, sy’n cael ei adeiladu ar hyn o bryd
Daeth rhai o ddisgyblion Blwyddyn 6 a’u hathrawon at ei gilydd gyda’r Esgob Peter M. Brignall o Esgobaeth Gatholig Wrecsam, cynrychiolwyr o Gyngor Gwynedd a chwmni Read Construction – sydd wedi ennill y gytundeb i adeiladu’r ysgol newydd – ar gyfer y seremoni fyr. Roedd rhai o gyn benaethiaid yr ysgol, a gyfrannodd dros y blynyddoedd at yr ymdrech o sicrhau ysgol newydd, hefyd yn bresennol.
Flwyddyn yn ôl, cafwyd cadarnhad fod Cyngor Gwynedd wedi sicrhau £7.7 miliwn er mwyn codi’r ysgol newydd fydd yn cynnig addysg Gatholig ym Mangor ar hen safle Glanadda yn y ddinas, ac roedd y digwyddiad yma yn gam arall ar y daith i wireddu hyn.
Mae 85% o’r arian ar gyfer codi’r ysgol newydd yn dod o Raglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy Llywodraeth Cymru a 15% gan Esgobaeth Gatholig Wrecsam a bydd yr adeilad newydd yn gartref llawer mwy addas ar gyfer y 150 o ddisgyblion a staff na’r adeilad presennol, sydd wedi dirywio dros amser.
Bydd safle’r ysgol newydd hefyd yn cynnwys darpariaeth Blynyddoedd Cynnar.
Dywedodd Mrs Aimee Jones, Pennaeth Ysgol Ein Harglwyddes:
“Roedd y digwyddiad i arwyddo’r trawstiau dyr yn gyfle cyffroes i’r plant ac roedden nhw wedi mwynhau gweld sut mae adeilad eu hysgol newydd yn datblygu.
“Rydym yn hynod falch bydd y ddarpariaeth newydd o’r safon uchaf ar gael i’n disgyblion ac rydym yn edrych ymlaen i gael gwneud y defnydd gorau o’r adnoddau newydd.”
Dywedodd yr Esgob Peter:
“Rydw i’n hynod falch ein bod wedi cyrraedd y garreg filltir hon a chael arwyddo’r trawstiau wrth i’r ysgol newydd gael ei chodi. Mae’n braf iawn gweld llawenydd, gobaith a disgwyliad y plant wrth i’w hysgol newydd ddod gam yn nes.
“Rydw i’n ddiolchgar i bawb sydd ynghlwm a’r gwaith am y cynnydd hyd yn hyn, ac yn enwedig i’r contractwyr am wneud y gorau o’r tywydd braf diweddar.”