Cyngor Gwynedd yn cymryd camau llwyddiannus yn erbyn tipio gwastraff anghyfreithlon
Dyddiad: 22/01/2026
Mae Cyngor Gwynedd yn rhybuddio pobl y gall gael gwared o sbwriel mewn ffordd anystyriol arwain at ganlyniadau difrifol.
Daw hyn wedi i’r Cyngor roi Hysbysiadau Cosb Benodedig – sef dirwy ariannol – i ddau berson yn dilyn achos o dipio gwastraff yn anghyfreithlon ym Mynwent Llanbeblig, Caernarfon.
Dros gyfnod y Nadolig, cafodd Cyngor Gwynedd gŵyn am sbwriel yn y fynwent a chynhaliwyd ymchwiliad gan Wasanaeth Gorfodaeth y Cyngor.
Rhoddwyd cosb o £150 i un o’r unigolion am dorri’r Ddyletswydd Gofal, hynny yw am ofyn i rhywun nad oedd gyda thrwydded ddilys i gludo gwastraff ar eu rhan. Cafodd yr unigolyn arall gosb o £180 am waredu’r gwastraff mewn ffordd anghyfreithlon ac am gludo gwastraff heb fod â thrwydded i wneud hynny.
Yn dilyn yr achos, mae arwyddion newydd hefyd wedi’u gosod yn y fynwent i rybuddio’r cyhoedd yn erbyn tipio anghyfreithlon.
Dywedodd y Cynghorydd June Jones, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros Wasanaethau Stryd:
“Mae tipio slei bach, gwaredu gwastraff yn anghyfreithlon a throseddau amgylcheddol eraill yn cael effaith ddifrifol ar ein cymunedau a’n hamgylchedd. Ni fyddwn yn goddef gweithredoedd hunanol fel y gwelwyd yn ardal Llanbeblig yn ddiweddar, a byddwn yn defnyddio ein pwerau i roi hysbysiadau cosb benodedig ac, lle bo angen, i erlyn y rhai sy’n gyfrifol.
“Nid oes unrhyw esgus am daflu neu adael ysbwriel. Mae gweithredoedd o’r fath yn gwneud i’n hardaloedd edrych yn flêr, yn peri risgiau i iechyd y cyhoedd, yn llygru’r amgylchedd ac yn niweidio bywyd gwyllt.
“Dwi’n atgoffa pobl fod cyfrifoldeb arnynt i wirio a yw rhywun sy’n gwaredu sbwriel neu glirio tŷ ar eu rhan gyda trwydded i wneud hynny. Mae’r rhan helaethaf o gwmnïau sy’n darparu’r math yma o wasanaeth yn gwneud hynny mewn ffordd gyfrifol a chyfreithlon.
Ond fel mae’r achos yma yn dangos mae pobl ddi-hid allan yna sy’n fodlon ei waredu mewn ffordd anghyfrifol, a gall hyn arwain at ganlyniadau difrifol i chi.”
Ychwanegodd Steven Edwards, Rheolwr Gwasanaeth Gorfodaeth Stryd Cyngor Gwynedd:
“Rydym yn ddiolchgar iawn i aelodau o’r cyhoedd a gymerodd yr amser i adrodd y digwyddiadau hyn. Cofiwch, gall unrhyw un roi gwybod i’r Cyngor am droseddau amgylcheddol drwy’r wefan neu drwy ap apGwynedd.”
I sicrhau eich bod yn cael gwared o wastraff yn gyfrifol a chyfreithlon, dylai pobl Gwynedd ddilyn y camau hyn:
- Defnyddiwch wasanaethau gwastraff ac ailgylchu’r Cyngor yn rheolaidd, mae manylion eich diwrnod casglu a beth sydd i fynd ym mha fin ar gael ar wefan y Cyngor.
- Os ydych chi wedi bod yn clirio ac eisiau cael gwared ar nifer o eitemau, ewch â'ch gwastraff ychwanegol i'r ganolfan ailgylchu leol. Cofiwch archebu slot a didoli eich gwastraff o flaen llaw. Mae manylion yr holl ganolfannau i'w gweld ar wefan y Cyngor.
- Os ydych angen cael gwared o eitemau mawr, er enghraifft soffa neu rewgell, mae modd trefnu casgliad gwastraff swmpus gan y Cyngor. Mae manylion ar wefan y Cyngor.
- Os ydych angen trefnu gwasanaeth clirio tŷ masnachol / preifat, mae dyletswydd arnoch i sicrhau eu bod wedi eu cofrestru a gyda thrwydded i wneud y gwaith. Mae rhestr o gwmnïau sydd wedi eu cofrestru i gludo gwastraff ar gael ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru.