Ap newydd Niwro Cymru yn trawsnewid cefnogaeth i bobl niwrowahanol
Dyddiad: 12/01/2026
Mae Cyngor Gwynedd wedi lansio Ap dwyieithog arloesol newydd i gefnogi plant a phobl ifanc ac oedolion niwrowahanol, eu teuluoedd a gweithwyr proffesiynol.
Mae ‘Niwro Cymru’ yn Ap sy’n cynnig gwybodaeth glir a dibynadwy, gweithgareddau hwyliog a lleddfol, manylion digwyddiadau lleol a chymorth yn ogystal â adnoddau eraill.
Fe ddatblygwyd yr Ap drwy drafod gyda phobl ifanc Gwynedd a’u teuluoedd. Defnyddiwyd y syniadau i greu cynnwys, y nodweddion allweddol, a dyluniad logo’r Ap.
Meddai person ifanc awtistig am yr Ap:
“Mae’r ap yn wych - mae’n lliwgar ac yn hwyl. Mae’n helpu fi i ddeall am fy hun, mae’n hawdd i’w ddarllen ac mae popeth sydd angen i mi ei wybod ynddo.”
Mae’r Ap yn cynnwys nodweddion meddylgar megis:
- Animeiddiad cynnil, adborth haptig a synau nad ydynt yn tarfu
- Cynnwys all-lein er mwyn lleihau costau data i ddefnyddwyr
- Hygyrchedd: Cyferbynnedd, cynllun a 'thestun i leferydd'
Dywedodd y Cynghorydd Menna Trenholme, Aelod Cabinet dros Blant a Chefnogi Teuluoedd Cyngor Gwynedd:
“Mae’r Ap hwn yn gam pwysig ymlaen i gydnabod, dathlu, a chefnogi niwroamrywiaeth ar draws ein cymunedau. Fel Cyngor rydym wedi ymrwymo i wella’n darpariaeth yma yng Ngwynedd ac rydym yn hyderus bydd hwn yn declyn gwerthfawr i deuluoedd gael mynediad at wybodaeth, gweithgareddau a chymorth.
“Mae’r Ap wedi’i gynllunio gyda phlant dan sylw; o’r dyluniad llachar, tawel a chyfeillgar i’r ffaith ei fod yn hawdd i’w lywio boed chi’n rhieni, gofalwyr, brodyr/chwiorydd neu’n weithwyr proffesiynol.
“Mae cydweithio gyda’n partneriaid yn holl bwysig a hoffwn ddiolch i Fwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru am fuddsoddi yn y feddalwedd arloesol hon, a’i gwneud hi’n bosib i wireddu’r weledigaeth gyda’r Ap - y cyntaf o’i math yn y maes sydd ar gael yn y Gymraeg ochr yn ochr â’r Saesneg.”
Ychwanegodd llefarydd ar ran Tîm Niwrowahaniaeth Cenedlaethol:
"Rydym yn falch iawn o weld lansiad Niwro Cymru, adnodd arloesol a chynhwysol sy'n adlewyrchu lleisiau pobl niwrowahanol a'u teuluoedd.
“Mae'r ap dwyieithog hwn yn gam sylweddol ymlaen wrth hyrwyddo hygyrchedd, dathlu niwroamrywiaeth, a sicrhau bod gan cymunedau yng ngogledd Cymru yr offer sydd eu hangen arnynt i ffynnu.
“Rydym yn falch o gefnogi'r fenter hon ac yn canmol Tîm Awtistiaeth Gwynedd am eu dull cydweithredol a'u hymrwymiad i greu gofod digidol cefnogol i bawb."
Mae’r Ap ‘Niwro Cymru’ ar gael am ddim ar ddyfeisiadau drwy ei lawrlwytho ar eich ffôn clyfar neu lechen.
Am fwy o wybodaeth am waith y Tîm, ewch i dudalen Awtistiaeth ar wefan Cyngor Gwynedd: www.gwynedd.llyw.cymru/awtistiaeth