Wythnos i fynd. Cyngor Gwynedd yn annog pobl i gofrestru i bleidleisio

Dyddiad: 13/04/2026
Gydag ond saith diwrnod i fynd tan y dyddiad cau ar gyfer cofrestru pleidleiswyr ar gyfer etholiad y Senedd ar 7 Mai, dylai unrhyw un sydd am bleidleisio wneud yn siŵr eu bod wedi cofrestru mewn pryd.

Mae ymchwil yn dangos bod rhai grwpiau o bobl – megis pobl ifanc, myfyrwyr a’r rhai sydd wedi symud i fyw yn ddiweddar – yn llai tebygol o fod wedi’u cofrestru nag eraill. Ond mae’r neges yn glir, dydi hi ddim rhy hwyr ac mae cofrestru yn broses hawdd a chyflym.

Y dyddiad cau ar gyfer cofrestru i bleidleisio yw hanner nos dydd Llun, 20 Ebrill. Gall pleidleiswyr wneud cais ar-lein: www.gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio. Mae’n cymryd pum munud yn unig i wneud.

Wedi cofrestru, gall pobl ddewis sut maent yn dymuno bwrw eu pleidlais – mynd i’w gorsaf bleidleisio leol, trwy’r post, neu drwy benodi rhywun maent yn ymddiried ynddynt i bleidleisio ar eu rhan, sef pleidlais drwy ddirprwy.

Ni fyddangen i bleidleiswyr yng Nghymru ddangos ID ffotograffig i bleidleisio yn yr etholiad hwn.

Dywedodd Dafydd Gibbard, Prif Weithredwr Cyngor Gwynedd a Swyddog Canlyniadau etholaeth Gwynedd Maldwyn:

“Mae etholiadau’r Senedd yn gyfle pwysig i ddweud eich dweud ar bwy sy’n eich cynrychioli chi’n lleol ac sy’n gwneud penderfyniadau ar faterion sy’n effeithio bywyd dydd i ddydd yma yng Ngwynedd. Mae’n bwysig gwneud yn siŵr eich bod wedi cofrestru er mwyn bod yn rhan o etholiad y Senedd ym mis Mai.

“Mae pawb sydd wedi cofrestru yn derbyn eu cardiau pleidleisio trwy’r post. Os nad ydych wedi derbyn eich cerdyn neu os oes gennych gwestiynau ynghylch gwneud cais am bleidlais bost neu bleidlais drwy ddirprwy, gallwch gysylltu â Chyngor Gwynedd ar etholiad@gwynedd.llyw.cymru neu ffonio 01766 771000.”

Y dyddiad cau ar gyfer gofyn am bleidlais post yw 21 Ebrill, ac i ofyn am bleidlais ddirprwy yw 28 Ebrill.

Dywedodd Rhydian Thomas, Pennaeth y Comisiwn Etholiadol, Cymru:

“Mae hi’n bwysig bod pobl yn gwirio eu bod yn barod i bleidleisio cyn etholiad y Senedd ar 7 Mai. Mae’n rhaid i bob pleidleisiwr fod wedi’u cofrestru i bleidleisio, ac efallai bydd angen i rai pleidleiswyr wneud cais am bleidlais bost neu bleidlais drwy ddirprwy. Mae pobl ifanc 16-17 oed a gwladolion tramor sy’n byw yng Nghymru hefyd yn gymwys i bleidleisio yn yr etholiad hwn, a ni fydd angen ID ffotograffig.

“Os ydych wedi newid eich enw neu’ch cyfeiriad neu wedi symud tŷ ers i chi gofrestru diwethaf, bydd hi ond yn cymryd pum munud i ddiweddaru’ch manylion ar-lein. Mae gwirio nawr yn helpu i sicrhau eich bod gallu pleidleisio mewn modd sy’n iawn i chi.”

Mae’r holl wybodaeth am gofrestru i bleidleisio a’ch holl opsiynau pleidleisio ar wefan y Comisiwn Etholiadol: www.electoralcommission.org.uk/cy/pleidleisio-ac-etholiadau ac ar wefan Cyngor Gwynedd: www.gwynedd.llyw.cymru/etholiad  

Nodiadau

  • Cynhelir etholiad Senedd Cymru ar 7 Mai.
  • I bleidleisio yn yr etholiad hwn mae’n rhaid eich bod yn 16 oed neu’n hŷn ar ddiwrnod y bleidlais, yn preswylio yng Nghymru ac wedi cofrestru i bleidleisio.
  • Y dyddiad cau ar gyfer cofrestru i bleidleisio yw canol nos ar 20 Ebrill.
  • Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais am bleidlais bost yw 5pm ar 21 Ebrill.
  • Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais am bleidlais drwy ddirprwy yw 5pm ar 28 Ebrill.
  • Mae gwybodaeth am ymchwil y Comisiwn Etholiadol am bwy sy’n llai tebygol o fod wedi cofrestru I bleidleisio ar gael yma: https://www.electoralcommission.org.uk/cy/ymchwil-adroddiadau-a-data/electoral-registration-research/archwiliwch-y-data-pwy-sydd-ac-sydd-ddim-wedi-cofrestru-i-bleidleisio